Students working on the Planet Repair task

A allwn ni drwsio’r blaned? – myfyrwyr a staff yn archwilio

Yn nigwyddiad trwsio’r blaned yr ysgol, bu myfyrwyr a staff yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig yn archwilio datrysiadau posibl, dyluniadau unigryw, ac yn creu fideo byr yn cyflwyno’u syniadau. Cynhaliwyd y digwyddiad ar 1 Tachwedd 2022, a hynny i ddathlu 'Diwrnod Cenedlaethol Peirianneg' 2022.

Diwrnod i ddathlu `dyma beirianneg`

Cynhaliwyd y gweithdy trwsio’r blaned ar y 1af o Dachwedd 2022. Cynhaliwyd y digwyddiad diwrnod o hyd i ddathlu 'Diwrnod Cenedlaethol Peirianneg' 2022. Nod yr ymgyrch, a redir gan yr Academi Beirianneg Frenhinol, gyda’r ysgol yn bartner, yw helpu i ddathlu peirianneg, a herio hen gamsyniadau  a safbwyntiau hen ffasiwn o beth yw peirianneg. 

Dywedodd Dr Daniel Roberts (Darlithydd mewn Peirianneg Electronig, ac arweinydd Cyswllt Myfyrwyr) a helpodd i drefnu’r digwyddiad:

Mae’r Wythnos Ddarllen yn rhoi cyfle i ni, fel ysgol, wneud pethau gwahanol a dod â’r disgyblaethau lluosog yn yr ysgol at ei gilydd. Roedd y digwyddiad hwn yn herio pawb i feddwl am yr hinsawdd, a’r hyn y gallwn ni ei wneud i fynd i’r afael â newid hinsawdd. Braf oedd trefnu’r digwyddiad hwn a gwell fyth oedd trefnu’r digwyddiad i ddathlu pobl ym myd peirianneg ac i gefnogi’r ymgyrch `Dyma Beirianneg’, i herio ein hunain, ac i feddwl am newid hinsawdd.

Dr Daniel Roberts,  Darlithydd mewn Peirianneg Electronig, ac arweinydd Cyswllt Staff/Myfyrwyr

Y Gweithdy Trwsio Planedau trwy brofiad

Cafodd y 'Gweithdy Trwsio Planedau' trwy brofiad ei ddylunio a'i gadeirio gan Chris Walker, hwylusydd a darlithydd sy'n pontio byd busnes a'r byd academaidd. Dechreuodd Chris Walker trwy egluro bod yr her o wib-ddylunio atebion arloesol wedi'i hysgogi gan sut y gallwn ni 'drwsio'r blaned'.

Dywedodd y Dr Iestyn Pierce (Pennaeth yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig), a groesawodd bawb i’r gweithdy: 

Roedd yn wych gweld sut y bu i bobl drafod y syniadau gwahanol a dylunio datrysiadau a allai helpu i liniaru effeithiau newid hinsawdd. Ar ddiwedd y dydd, cyflwynodd pobl eu syniadau mewn fideo byr gan esbonio’u cysyniadau. Mae goresgyn problemau, lliniaru newid hinsawdd, a meddwl am faterion cynaliadwyedd, yn heriau enfawr. Materion yw’r rhain sydd wrth galon cenhadaeth y Brifysgol. Roedd yn wych gweld pawb yn ymroi i’r her; edrychaf ymlaen at weld pen draw’r syniadau hyn!

Rhoddwyd chwe awr i’r cyfranogwyr weithio ar eu syniadau, a denodd y digwyddiad fyfyrwyr o bob rhan o’r ysgol – yn israddedigion, ôl-raddedigion a phrentisiaid gradd o faes cyfrifiadureg, peirianneg electronig a dylunio cynnyrch.

Mi ges i ddiwrnod wrth fy modd. Roedd yn wych cyfarfod a sgwrsio ag eneidiau hoff cytûn.  Fel myfyriwr sy’n brentis gradd, rwy’n gweithio i M-SParc wrth astudio ar gyfer fy ngradd. Gallaf weld cyfleoedd enfawr i ddatblygu’r syniadau hyn ymhellach. Yn enwedig gan mai cenhadaeth M-SParc yw helpu pobl i arloesi a helpu creu Cymru fwy cynaliadwy.

Aeth y cyfranogwyr i’r afael â’r her gyda brwdfrydedd

Dywedodd  Pramod (Paul) Kusuma, myfyriwr sy'n astudio ar gyfer ei MSc mewn Gwyddor Data Uwch

Cefais brofiad dysgu gwych ddoe yn y gweithdy trwsio’r blaned. Dw i’n falch i mi fynd. Dysgais am newid hinsawdd, pa mor gynhyrchiol y gall gwaith tîm fod, a thrafod syniadau gwahanol mewn cyfnod byr o amser. Dysgais yn arbennig gan un o aelodau ein tîm sut mae gan algâu a bacteria swyddogaeth hanfodol o ran lles yr hinsawdd. Dyma wybodaeth na wyddwn i erioed o'r blaen. Dysgais hefyd am bwysigrwydd cyfathrebu a delweddu effeithiol i egluro cysyniadau i eraill."

Aeth Paul yn ei flaen i ddweud… 

Dysgais hefyd nad oes rhaid gwneud rhywbeth mawr i fod yn fod yn rhan o newid hinsawdd. Does dim angen i mi ei adael yn gyfrifoldeb y cwmnïau mawr. Yn lle hynny, gall ddechrau'n fach, a dechrau gyda mi. Gwneud pethau’n wahanol, defnyddio llai o blastig, lleihau gwastraff bwyd, annog, dysgu eraill i wneud yr un peth, ac ati.

 

 

Rhodri said

Dywedodd Rhodri Williams, myfyriwr sy'n astudio ar gyfer ei BSc mewn Seiberddiogelwch Cymhwysol:

Mi ges i ddiwrnod wrth fy modd. Roedd yn wych cyfarfod a sgwrsio ag eneidiau hoff cytûn.  Fel myfyriwr sy’n brentis gradd, rwy’n gweithio i M-SParc wrth astudio ar gyfer fy ngradd. Gallaf weld cyfleoedd enfawr i ddatblygu’r syniadau hyn ymhellach. Yn enwedig gan mai cenhadaeth M-SParc yw helpu pobl i arloesi a helpu creu Cymru fwy cynaliadwy.

Rhodri WIlliams,  myfyriwr sy'n astudio ar gyfer ei BSc mewn Seiberddiogelwch Cymhwysol

Y grwpiau’n cyflwyno’u gwaith

Cyflwynodd y grwpiau eu gwaith, ynghyd â rhoi cyflwyniad fideo byr. Ar ôl trafod, penderfynodd y trefnwyr y dylid rhoi’r wobr am y cyflwyniad gorau i'r grŵp a oedd yn ystyried yr her methan.

Diolch i’r beirniaid Jasmine Parkes (sy’n astudio ar gyfer ei Gradd Meistr drwy Ymchwil, ac aelod o’r tîm a enillodd y wobr yn 2021), Dr Daniel Roberts (Darlithydd mewn Peirianneg Electronig, Arweinydd Staff/Myfyrwyr, a Chyfarwyddwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yr Ysgol) a Dr Michael Rushton (Uwch Ddarlithydd Ymchwil, y mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar ynni niwclear, systemau cynaliadwy, a datgarboneiddio). 

Yn olaf, diolch yn fawr i Chris Walker am hwyluso'r digwyddiad, ac i hwyluswyr tîm o Syniadau Mawr Cymru a Real ICE a gyflwynodd rai o'u heriau a'u datrysiadau peirianneg.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?