Dean Street buildings, showing School of Computer Science and Electronic Engineering

COFIO ALBERT REES

Mae’r Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig yn cyhoeddi marwolaeth Albert Rees. Bu farw Albert ar y 18fed o Fawrth 2023, ym Mryn Seiont, Caernarfon ym mhresenoldeb ei deulu cariadus. Roedd yn aelod o staff cymorth technegol ac ymchwil ym Mhrifysgol Bangor. 

Bu Albert Rees

Bu Albert Rees yn aelod o'r staff technegol ac ymchwil drwy gydol gyrfa hir yn Stryd y Deon. Bu’r Athro Emeritws Martin Taylor yn gweithio’n agos gydag Albert am ddegawdau lawer gan ddechrau ym 1966-67 pan oedd yn fyfyriwr israddedig ac Albert yn dechnegydd a oruchwyliai un o labordai project y radd anrhydedd yn adeilad gwreiddiol yr Adran Electroneg. Y flwyddyn honno fe helpodd Martin i wneud transistor MOS llwyddiannus -a hynny heb ystafell lân! Yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf, ehangodd yr adran ac ychwanegu Microsgop Electron Sganio Caergrawnt a Dadansoddwr Microprob JEOL at y Microsgop Electron Trawsyrrol a oedd yno’n barod. Bu Albert yn goruchwylio'r offerynnau hyn, gan ddarparu nid yn unig cymorth ymchwil ond hefyd hyfforddi staff ymchwil a myfyrwyr i ddefnyddio'r hyn a oedd ar y pryd yn ddarnau blaengar o offer. Yn weddol fuan ar ôl gosod y cyfarpar, roedd yr offer yn ganolbwynt i ymweliad Dug Caeredin ar y pryd â'r adran.  

Wrth i Ficrosgopau Grym Atomig a Microsgopau Raman ddod ar gael, roedd 'parth' ac arbenigedd Albert yn ymestyn i'r offerynnau dadansoddol newydd hyn. Yn ystod ei ddegawdau lawer yn y swydd, bu Albert yn cydweithio ac yn cefnogi ymchwil llawer o aelodau staff academaidd a hyd yn oed mwy o fyfyrwyr israddedig ac ôl-radd, yn ogystal ag ymchwilwyr ôl-ddoethurol ac ymchwilwyr gwadd.  

Roedd Albert yn bleser gweithio ag ef. Roedd wastad yn siriol a chefnogol. Ag yntau’n aelod o fand pres a jazz bu'n ychwanegiad gwych i'r adloniant yn y dyddiau pan gynhelid partïon Nadolig yn Ystafell Gyffredin y Myfyrwyr, yn enwedig gyda’i gerddoriaeth trombôn a jazz. Roedd Albert hefyd yn ffotograffydd ardderchog a phan ymddeolodd technegydd ffotograffiaeth ymroddedig yr adran, ysgwyddodd Albert y dyletswyddau hynny hefyd. Yn y swyddogaeth hon tynnodd luniau o genedlaethau lawer o fyfyrwyr y mae eu hwynebau wedi'u cofnodi ar gyfer y dyfodol yn ffeiliau'r adran.  

Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor dydd Gwener, Mawrth 31 am 11.00 o'r gloch. 

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?