Mae Omaro Gonem, aelod o staff y Ganolfan Ragoriaeth Prosesu Signalau Digidol, wedi derbyn gradd Doethur mewn Athroniaeth (PhD) mewn Cyfathrebu Optegol. Dechreuodd Dr Gonem ei astudiaethau PhD yn 2020 a chwblhaodd y rhaglen yn llwyddiannus gyda thraethawd ymchwil o'r enw “Cost-effective Solutions Enabling Seamlessly Converged Fibre-Wireless Access Networks for 6G and Beyond”.
Mae ymchwil Dr Gonem yn mynd i'r afael â heriau allweddol mewn systemau cyfathrebu'r genhedlaeth nesaf drwy gynnig a gwirio'n arbrofol atebion technegol cost effeithiol sy'n galluogi trosglwyddo signalau hyblyg, y gellir eu hailgyflunio'n ddeinamig, ac sydd â chyfnodau ymateb isel iawn. Mae'r gwaith hwn yn hanfodol i bontio'r bwlch rhwng parthau ffibr a diwifr mewn rhwydweithiau mynediad 6G yn y dyfodol.
Goruchwyliwyd ymchwil Dr Gonem gan ddau arbenigwr blaenllaw yn y maes cyfathrebu optegol, Dr Roger Giddings a'r Athro Jianming Tang, ac fe'i harchwiliwyd gan ddau athro sy’n nodedig yn fyd-eang o Brifysgol Caergrawnt a Phrifysgol Polytechnig Valencia. Yn ystod ei PhD, cyfrannodd Dr Gonem at gynhyrchu pedwar papur mewn cyfnodolyn o ansawdd uchel a chwe thrafodyn cynhadledd ryngwladol gydag arddangosiadau arbrofol arloesol a gynhaliwyd gan ddefnyddio uwch gyfleusterau labordy’r Ganolfan Prosesu Signalau Digidol.
Cyn ei PhD, cwblhaodd Dr Gonem radd MSc mewn Cyfathrebu Optegol a Band Llydan ym Mhrifysgol Bangor fel ysgolhaig Chevening yn ystod 2017–2018. Yn 2020, ymunodd â Chanolfan Ragoriaeth Prosesu Signalau Digidol fel Swyddog Cefnogi Project Ymchwil, lle derbyniodd nawdd gan y Ganolfan Prosesu Signalau Digidol i ddilyn ei ymchwil PhD.
Dymunwn bob lwc i Dr Gonem yn ei yrfa a'i lwyddiant yn y dyfodol.