Banner swirl image

Myfyrwyr yn Arddangos Arloesedd Blaengar mewn Cyfrifiadureg a Pheirianneg mewn Cyflwyniadau Project Diwedd Blwyddyn

Cyflwynodd myfyrwyr o'r Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig eu Projectau Unigol diwedd blwyddyn. 

Cyflwynodd myfyrwyr yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig eu projectau unigol diwedd blwyddyn. Mae'r modiwl project unigol yn galluogi myfyrwyr i ddilyn pwnc manwl, sy'n berthnasol i'w rhaglen radd. Maent yn defnyddio methodoleg briodol i gynllunio, adeiladu a gwerthuso eu hateb. Maent yn archwilio ac yn deall effaith ehangach eu gwaith, gan gynnwys agweddau proffesiynol, moesegol, cymdeithasol, technolegol, cyfreithiol ac amgylcheddol perthnasol. Mae myfyrwyr yn cyflwyno eu gwaith mewn cyflwyniad llafar terfynol. 

Mae'r projectau hyn yn enghraifft o groestoriad dychymyg ac arbenigedd technegol, gan amlygu'r potensial ar gyfer datblygiadau trawsnewidiol mewn amrywiol feysydd. Rydym yn hynod falch o lwyddiannau ein myfyrwyr a'u cyfraniadau at lunio dyfodol technoleg.

Dr Iestyn Pierce,  Pennaeth yr Ysgol

Roedd y projectau a gyflwynwyd yn rhychwantu ystod eang o bynciau difyr, gan adlewyrchu diddordebau ac arbenigedd amrywiol y myfyrwyr a’r staff. Roeddent yn amrywio o ymchwilio o ddefnyddio pŵer gweledigaeth gyfrifiadurol i chwyldroi dosbarthiad celloedd canser, i ddatblygu profiadau rhithrealiti y mae modd ymgolli ynddynt a datblygu gemau arloesol, dangosodd y projectau botensial aruthrol y technolegau newydd hyn. Bu projectau nodedig hefyd yn treiddio i fyd roboteg ac awtomeiddio, gan archwilio cymwysiadau fel peiriannau awtonomaidd, cymeriadau rhithwir gyda galluoedd deallusrwydd artiffisial, a roboteg ar gyfer diwydiannau amrywiol.  

Roedd lefel y creadigrwydd a’r gallu technegol a ddangoswyd gan ein myfyrwyr yn wirioneddol ryfeddol,

meddai Dr Yanhua Hong (Arweinydd modiwl project y drydedd flwyddyn), a aeth ymlaen i ddweud

Mae’r cyflwyniadau project diwedd blwyddyn nid yn unig yn rhoi llwyfan i fyfyrwyr ddangos eu sgiliau a’u gwybodaeth ond hefyd yn dyst i ymroddiad eu goruchwylwyr project a’m cydweithwyr

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?