Myfyrwyr yn mynd ar daith cerdded ym Meddgelert

Roedd y mynyddoedd o amgylch Beddgelert yn lleoliad gwych i daith gerdded myfyrwyr. Aeth myfyrwyr a ffrindiau’r Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig ar daith gerdded o amgylch Beddgelert, ar ddiwedd wythnos y Glas. 

Dywedodd yr Athro Jonathan C. Roberts (Cyfarwyddwr Effaith a Chyfranogiad yr ysgol) “Roedd yn wych clywed am y daith gerdded hon. Mae'r brifysgol wedi'i lleoli mewn lleoliad unigryw. Mae ger yr Wyddfa, ar lannau’r Fenai, gydag Ynys Môn gerllaw, gellir gweld gwiwerod coch ac adar ysglyfaethus, ac mae’r pier a Mynydd Bangor yn rhai o nodweddion trawiadol Bangor ei hun. Gall myfyrwyr a staff astudio, ymchwilio, a gweithio, a chael seibiant drwy fwynhau cefn gwlad o amgylch y brifysgol.”

Bu’r myfyrwyr yn cerdded ar y daith o amgylch Beddgelert. Mae Beddgelert yn bentref bach tlws yng ngogledd Cymru. Mae'n denu llawer o dwristiaid ac yn enwog am y teithiau cerdded hyfryd yn y mynyddoedd ac ar hyd yr afonydd.  Mae’r pentref wedi ei leoli yn y dyffryn, lle mae afon Glaslyn ac afon Colwyn yn ymuno. Yng nghanol y pentref mae’r bont garreg hardd gyda dau fwa.  

Dechreuwyd ar y daith trwy gerdded ar hyd Pont Aberglaslyn. Roedd yr afon yn llawn ac yn llifo'n gyflym yn sgil y glaw diweddar.

Gan barhau i fyny'r allt aeth y cerddwyr at beilonau Sygun yr hen waith copr.

O fynedfa'r hen waith copr, aeth y cerddwyr ymlaen i Nantmor.

Trefnwyd y daith gan Arthur Armstrong, sy'n fyfyriwr israddedig yn astudio BSc Cyfrifiadureg. Meddai, “Roedd yn hwyl. Wnes i fwynhau arwain a threfnu’r grŵp o fyfyrwyr. Cawsom amser bendigedig yn cerdded o amgylch Beddgelert ac roedd y machlud hyfryd yn goron ar y cyfan. Mae'r daith gerdded hon wedi fy ysbrydoli i sefydlu cymdeithas yn y brifysgol: y Gymdeithas Heicio’n Gyfrifol yn yr Awyr Agored.” Aeth Arthur ymlaen i ddweud “Rydym mor freintiedig i astudio mewn prifysgol sydd â lleoliad mor wych. Rwyf wrth fy modd yn gwneud cyfrifiadureg, ond rwyf hefyd wrth fy modd yn cerdded yn yr ardaloedd gwyllt. Mae Prifysgol Bangor wedi gwneud y ddau beth yn bosibl i mi.”

Golygwyd gan Jonathan C. Roberts. Ffotograffau gan Arthur Armstrong.
 

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?