School of Computer Science and Engineering celebrate their karting success

O gadeiriau balŵn i geir gwyllt: Uchafbwyntiau wythnos y glas

Yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg, mae’r myfyrwyr a’r staff yn mwynhau amrywiaeth o weithgareddau yn ystod wythnos y glas. O wneud soffas balŵns, bwyta pitsa a’r ceir gwyllt, mwynhaodd y myfyrwyr ychydig o amser segur mewn te parti gwallgof: daethant i adnabod ei gilydd cyn i'r dysgu ddechrau. 

Cafodd y garfan newydd o fyfyrwyr yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg brofiad bythgofiadwy yn Wythnos y Glas, a dechrau cyffrous i'w taith yn y brifysgol. Roedd yr wythnos yn llawn amrywiaeth o weithgareddau, cwrdd â’r tiwtoriaid, crefftio cadeiriau o falŵns, bwyta pitsa blasus, a mwynhau te parti hudolus yr Hetiwr. Roedd yn wythnos anhygoel. 

Cyrhaeddodd y glasfyfyrwyr yr ysgol ddydd Llun, a chawsant eu cyfarch gan lu o fyfyrwyr sy'n arweinwyr cyfoed. Cawsant gyfarfod â'u tiwtoriaid, a sefydlu cysylltiadau pwysig a fyddai'n eu tywys ar eu taith academaidd. Cawsant drosolwg o'u cwrs, sgwrs am iechyd a diogelwch, a bu'r arweinwyr cyfoed yn rhannu eu straeon am y daith oedd o'u blaenau, cyn mwynhau pitsa blasus. 

Llifodd creadigrwydd yn rhwydd, wrth i’r myfyrwyr ryddhau eu peiriannydd strwythurol mewnol, al lunio cadeiriau gan ddefnyddio balŵns yn unig, tâp gludiog, a'u dychymyg. Roedd chwerthin yn llenwi'r awyr wrth i'w creadigaethau ddatblygu, gan amlygu arloesedd, creadigrwydd a gwaith tîm.  

Parti te Mad hatter

Tua diwedd yr wythnos, bu staff yn gweini ar y myfyrwyr yn nhe parti rhyfeddol yr Hetiwr Hurt, a ddaeth â mymryn o Wlad yr Hud i'r campws. Bu’r myfyrwyr yn creu hetiau ecsentrig, yn bwyta cannoedd o gacennau, y cyfan mewn awyrgylch mympwyol pur. Trwy gydol yr wythnos gwnaeth myfyrwyr ffrindiau newydd a fydd gyda nhw trwy eu hastudiaethau. Ac ar gyfer rhuthr a chyffro, roedd antur y ceir gwyllt yn ddiweddglo gwych i Wythnos y Glas. 

Cafodd y myfyrwyr a’r staff lot o hwyl. Heb os, bydd yr atgofion a’r cysylltiadau a wnaethant yn ystod wythnos y glas yn sylfaen gadarn i’w taith academaidd a phersonol yn ystod eu hamser gyda ni ym Mhrifysgol Bangor.

Dr Iestyn Pierce,  Pennaeth yr ysgol

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?