Staff and students at the School of computer Science and engineering playing rounders

Staff a myfyrwyr yn curo’r gwres gyda chwaraeon cymdeithasol egnïol ar ôl yr arholiadau

Ar ôl semester hir o astudio, daeth staff a myfyrwyr yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg at ei gilydd am gêm o rownderi a gêm bêl droed gyflym. Roedd y digwyddiad yn gyfle delfrydol i gyfranogwyr ymlacio a mwynhau cystadleuaeth gyfeillgar yn yr haul tanbaid.

Roedd y gêm gychwynnol o rownderi yn cynnwys amrywiaeth o bobl gydag amrywiaeth o alluoedd.

Roedd y gêm gychwynnol o rownderi yn cynnwys amrywiaeth o bobl gydag amrywiaeth o alluoedd. Roedd dau dîm, y naill yn cynnwys peirianwyr electronig yn bennaf a'r llall yn cynnwys gwyddonwyr cyfrifiadurol eraill,. Wrth siarad am y gêm, dywedodd yr Athro Jonathan Roberts (Athro Cyfrifiadureg) “Buom yn ffodus i gael diwrnod heulog braf, a ganiataodd i ni wneud yn fawr o’r profiad o redeg ar ôl y bêl a rhedeg ar draws y cae. O ran y canlyniad, gêm gyfartal oedd hi. Llwyddodd y ddau dîm i sgorio rownderi a dal amryw o beli anodd. Cawsom gymaint o hwyl gyda'n gilydd. Nid wyf wedi chwerthin cymaint ers hydoedd.” 

Yn dilyn y gêm rownderi, dechreuodd bawb chwarae pêl-droed. Wrth siarad am y digwyddiad, dywedodd  Dr Daniel Roberts  (Cyfarwyddwr Profiad Myfyrwyr yr ysgol)

Mae'n wych gweld pawb yn dod at ei gilydd i ddathlu diwedd cyfnod yr arholiadau.

Meddai Daniel

Roedd ymroddiad a pharodrwydd pawb i wneud eu gorau glas yn ysbrydoliaeth. Mae’r mwynhad pur a gawsom o’r profiad yn dyst i’r ysbryd rhyfeddol sy’n ffynnu yng nghymuned y brifysgol.

Fel myfyriwr, roedd cymryd rhan yn y digwyddiad hwn yn gyfle i mi gysylltu â chyd-fyfyrwyr ac aelodau staff ar lefel hollol newydd. Braf oedd gweld pawb yn camu’n ôl o’u gwaith academaidd a mwynhau’r foment. Cefais amser anhygoel a bythgofiadwy.

 

Solomon Adeola,  Myfyriwr MSc Gwyddor Data Uwch

Golygydd: J.C.Roberts

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?