The David Duce Prize: Best Short Paper - An illustration of ideas

Ymchwilwyr yn cyflwyno tri phapur ymchwil yng Nghynhadledd Graffeg Cyfrifiadurol a Chyfrifiadura Gweledol 2022

ac yn derbyn gwobr am eu gwaith.

Cyflwynodd ymchwilwyr o'r Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig eu hymchwil ar graffeg a golwg cyfrifiadurol a dylunio rhyngwynebau yng Nghynhadledd Graffeg Cyfrifiadurol a Chyfrifiadura Gweledol 2022. Cynhaliwyd y gynhadledd ddeuddydd o hyd ar-lein ar 15 ac 16 Medi 2022. Dyfarnwyd gwobr y “Papur Byr Gorau” i un o’r papurau.

Dywedodd yr Athro Jonathan Roberts (Athro mewn Delweddu yn yr Ysgol) “Roedd yn bleser cyflwyno ein hymchwil yn y gynhadledd. Ac anrhydedd mawr oedd ennill y wobr am y papur byr gorau. Yn yr ysgol, mae gennym hanes hir o ymchwilio i graffeg cyfrifiadurol, prosesu delweddau, a’r rhyngweithio rhwng pobl a chyfrifiaduron. Mae'r gyfres hon o gynadleddau wedi bod yn cael ei chynnal ers 1981 ac yn cael ei chefnogi gan yr Eurographics Association ers 1983. Yn y gorffennol, rydym ni ym Mangor wedi bod yn rhan o redeg nifer o'r digwyddiadau hyn. Mae’r ysgol wedi cynnal y digwyddiad ddwywaith, yn ddiweddar yn 2019, a chyn hynny yn 2007; a chynhaliom hefyd gynhadledd ryngwladol yr Eurographics Association yn 2011.”

Dywedodd Dr Franck Vidal (Uwch ddarlithydd mewn cyfrifiadureg, yn yr ysgol) “Mae ein papur yn cyflwyno gwaith sy’n rhan o gydweithrediad hirsefydlog, ar ddadansoddi delweddau, dysgu peirianyddol a delweddu MRI, gyda Phrifysgol Basrh yn Irac ac INRAE, Prifysgol Saclay yn Ffrainc. Mae’n bleser gennym gyflwyno ein gwaith yng nghynhadledd Graffeg Cyfrifiadurol a Chyfrifiadura Gweledol 2022. Fel grŵp o ymchwilwyr o Fangor, fe wnaethom gyflwyno dau bapur llawn ac un papur byr.”

Cyhoeddwyd dau bapur llawn:

A chyhoeddwyd un papur byr, a enillodd wobr “David Duce, Best Short Paper”. Cyflwynwyd y wobr gan yr Athro David Duce.

Dywedodd Aron Owen (myfyriwr PhD yn yr ysgol) “Ro’n i wrth fy modd i dderbyn y wobr. Cydweithrediad ydy’r gwaith efo fy ngoruchwyliwr, yr Athro Roberts, ac mae’n ffurfio rhan o allbynnau blwyddyn gyntaf fy PhD. Dim ond camau cychwynnol yr ymchwil ydy’r rhain ond mae’n helpu i ddatblygu ac addasu’r fethodoleg Five Design-Sheet”. Hon oedd fy ail gynhadledd fel myfyriwr PhD, ac roedd yn bleser cyfarfod â chyd-ymchwilwyr a chlywed am eu hymchwil a chyflwyno ochr yn ochr ag ymchwilwyr sefydledig. Mae’n fraint cael ymchwilio mewn tîm deinamig a brwdfrydig.”

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?