New Students CSEE

Ysgol yn croesawu myfyrwyr newydd

Yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg yn croesawu myfyrwyr newydd. Yn eu darlith gyntaf, croesawyd y myfyrwyr gan bennaeth yr ysgol (Dr Iestyn Pierce) a rhoddwyd her bingo iddynt, i gymryd hunlun o’u hunain mewn lleoliad ym Mangor. 

Yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg yn croesawu myfyrwyr newydd. Dywedodd Dr Iestyn Pierce, pennaeth yr ysgol

Mae’n gyfnod cyffrous, i’r myfyrwyr, ac i ni fel academyddion. Mae'n wych cwrdd â'r myfyrwyr am y tro cyntaf, clywed eu diddordebau, eu nodau a'u dyheadau, a dod i'w hadnabod. Mae gennym gyfres fywiog o ddigwyddiadau ar y gweill, o go-cartio i pizza. Edrychwn ymlaen at feithrin perthynas â’r myfyrwyr hyn a’u helpu ar eu taith addysgol.

Yn ystod y diwrnod cyntaf cafodd myfyrwyr eu tywys o amgylch yr ysgol a chwrdd â'u tiwtoriaid dros pizza. Mewn sgwrs gyffrous, anogodd Peredur Williams (darlithydd ar y rhaglen Dylunio Cynnyrch) y myfyrwyr i “droi fyny” hyd yn oed os oeddent wedi blino ar ôl noson hwyr mewn parti, ac i “orffwys” ar ôl diwrnod hir o astudio. Yna gosodd her i’r myfyrwyr gyda Bingo ysgol. Anogodd y myfyrwyr i gerdded i'r lleoliadau hyn gyda ffrind, rhywun maent newydd ei gyfarfod ar y cwrs, a chymryd hunlun ohonynt eu hunain ym mhob un o'r 16 lle a rhannu eu profiadau.  

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?