Fy ngwlad:
A students with a lecturer looking at the Bloomberg terminals in the University trading floor

Astudiaethau Ôl-radd yn Ysgol Fusnes Albert Gubay

Rhowch hwb i’ch gyrfa a datblygwch eich arbenigedd gydag astudiaethau ôl-radd yn Ysgol Fusnes Albert Gubay, Prifysgol Bangor.

Dewch i ymuno â chymuned academaidd gefnogol, sy'n cael ei gyrru gan ymchwil, lle mae addysgu dan arweiniad arbenigwyr yn rhoi'r sgiliau, y wybodaeth a'r hyder i chi lwyddo ym myd busnes cystadleuol heddiw.

Ymunwch â ni yn ein digwyddiad ôl-radd ar 4 Gorffennaf i ddysgu am y dewisiadau sydd ar gael i chi a chwrdd â'n harbenigwyr.

Archebwch eich lle yn ein digwyddiad ôl-radd

Bwrw golwg ar ein cyrsiau
 

Pam dewis astudio yn Ysgol Fusnes Albert Gubay?

Dysgu gan arbenigwyr  

Byddwch yn cael eich dysgu gan academyddion profiadol, llawer ohonynt gyda chefndiroedd mewn diwydiant byd-eang a phroffiliau ymchwil gweithredol. Bydd hyn yn golygu bod eich dysgu’n seiliedig ar ymarfer yn y byd go iawn a’r ymchwil diweddaraf.

Profiad ôl-radd cefnogol

Byddwch yn ymuno â chymuned academaidd glos sy’n rhoi pwyslais mawr ar gefnogi myfyrwyr. Cafodd yr ysgol sgôr o 94% am foddhad myfyrwyr yn y categori busnes a rheolaeth yn Arolwg Profiad Addysgu Ôl-radd (PTES) 2025.

Graddau achrededig sy'n rhoi hwb i'ch gyrfa  

Mae llawer o’n rhaglenni’n cynnig achrediad proffesiynol, gan eich helpu i sefyll allan i gyflogwyr a chymryd y cam nesaf yn eich gyrfa yn hyderus.

Rhaglenni wedi eu cynllunio o amgylch eich uchelgeisiau 

Rydym yn cynnig amrywiaeth o raglenni MSc, MA ac MBA i gefnogi eich nodau gyrfa.

Dewisiadau astudio hyblyg  

Mae llawer o’n rhaglenni ar gael yn llawn amser neu’n rhan amser, gyda dyddiadau dechrau ym mis Medi. Mae rhai cyrsiau hefyd yn cynnig dyddiadau dechrau ym mis Ionawr gyda chyrsiau dethol hefyd yn cynnig dyddiadau dechrau ym mis Mai.

Myfyrwyr yn cerdded tu allan i Adeilad y Celfyddydau

Dewch i gwrdd â ni yn ein digwyddiad ôl-radd

Ystyried astudiaethau ôl-radd? Ymunwch â ni ddydd Sadwrn, 4 Gorffennaf i weld y dewisiadau sydd ar gael i chi, cwrdd â'n hacademyddion a chael cyngor unigol

Pam dewis astudiaethau ôl-radd ym Mhrifysgol Bangor?

 Ym Mhrifysgol Bangor, astudiaethau ôl-radd yw eich cyfle i ddyfnhau eich arbenigedd, tyfu mewn hyder a chreu effaith ystyrlon. Byddwch yn astudio mewn amgylchedd dan arweiniad ymchwil sy'n cyfuno rhagoriaeth academaidd â chymuned ddysgu gefnogol iawn. 

Mae Bangor yn cynnig profiad prifysgol gyda chymuned glos mewn lleoliad naturiol anhygoel. Byddwch yn dysgu ac yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy fydd yn eich paratoi at amrywiaeth eang o yrfaoedd, tra’n astudio mewn lleoliad sy'n ysbrydoli.

 

Prifysgol Bangor oedd y catalydd a wnaeth alinio fy ngyrfa â’m hangerdd a’m potensial mewn cyllid byd-eang.

 

An image of Phuong Vu smiling to camera

Phuong Vu Troi Rhagoriaeth Academaidd yn Ddatblygiad Gyrfa

“Rhoddodd fy ngradd ym Mangor theori ac ymarfer i mi, a dysgodd i mi sut i ymdrin â phroblemau yn ddadansoddol, gyda strwythur a meddylfryd ar gyfer gwelliant parhaus. Mae'r gwersi hynny wedi aros gyda mi drwy gydol fy ngyrfa.” 

Cyngor i fyfyrwyr y dyfodol 

“Byddwch yn chwilfrydig a chymerwch ran. Ewch ati i feithrin sgiliau ymarferol mewn cyfathrebu a gwaith tîm, a manteisio ar bob cyfle i gael profiad o’r byd go iawn. Rhwydweithiwch gyda'ch cyd-fyfyrwyr a'ch athrawon - gall y cysylltiadau hynny agor drysau. Ac yn bwysicaf oll, cofleidiwch yr amrywiaeth fyd-eang o'ch cwmpas i’ch paratoi ar gyfer gyrfa ryngwladol.” 

Y rhan orau o astudio ym Mhrifysgol Bangor... 

“Y cydbwysedd perffaith rhwng dysgu ymarferol a chymuned gefnogol, lle mae cydweithio, meddwl byd-eang a heriau busnes go iawn yn dod at ei gilydd.” 

Gan raddio gyda rhagoriaeth mewn MSc Cyllid a Chyfrifeg, mae Phuong wedi symud ymlaen o swyddi ariannol mewn busnesau bach a chanolig i ddod yn Rheolwr Cyllideb yn Unilever.

An image of William Prys-Jones smiling to camera

William Prys-Jones O Theori i'r Maes: Meithrin Hyder ar gyfer Gyrfa mewn Busnes

"Mae dilyn rhaglen gradd meistr wedi rhoi'r hyder i mi ddatblygu gwybodaeth fanwl am strwythurau a strategaethau academaidd y gellir eu cymhwyso i gysyniadau ac arferion cyfoes yn y gweithle. Fe wnes i fwynhau astudio ymchwil rheoli a datblygu sgiliau dadansoddi strategol, datrys problemau a gwneud penderfyniadau i ddod yn rheolwr busnes llwyddiannus yn y dyfodol."

Cyngor i fyfyrwyr y dyfodol

"Gwnewch y mwyaf o bob moment a’i gofleidio, cymerwch nodiadau a gofynnwch gwestiynau."

Sut mae eich gradd meistr wedi helpu eich gyrfa? 

"Datblygais wybodaeth fanwl am ddadansoddi strategol, datrys problemau arweinyddol a sgiliau gwneud penderfyniadau y gellir eu defnyddio ym myd cyfoes marchnata, busnes a rheolaeth."

Bellach yn Ymchwilydd Maes yn Beaufort Research, mae William Prys Jones yn defnyddio’r sgiliau a ddatblygodd wrth astudio MA Busnes a Marchnata ar gyfer projectau ymchwil marchnad go iawn i Gyfoeth Naturiol Cymru ar draws llwybrau arfordir Cymru.

Barod i gymryd y cam nesaf?

Dewch i weld y dewisiadau ôl-radd sydd ar gael i chi yn ein digwyddiad ôl-radd ar 4 Gorffennaf i siarad â'n harbenigwyr.

Cofrestru i ddod i’n digwyddiad ôl-radd 

Dysgu am ein cyrsiau