Fy ngwlad:

Cyfweliadau Meddygaeth

Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth bwysig i ymgeiswyr Meddygaeth, Meddygaeth (Mynediad Graddedig) a Porth Feddygaeth sydd wedi'u gwahodd am gyfweliad.

Fe welwch yma wybodaeth bwysig a defnyddiol am y cyfweliad, gan gynnwys sut i drefnu slot cyfweliad, a'r broses gyfweld. Darllenwch yr holl wybodaeth yn ofalus cyn trefnu dyddiad eich cyfweliad.

Sut i Drefnu Dyddiad Cyfweliad

Caiff pob ymgeisydd sy’n cyrraedd y rhestr fer eu gwahodd drwy e-bost i drefnu Mini Gyfweliadau Lluosog. Cynhelir cyfweliadau ar gyfer mynediad 2026 yn y cnawd, ar Gampws Prifysgol Bangor. 

Bydd myfyrwyr sy’n dymuno cyfweliad dwyieithog neu yn Gymraeg yn gallu archebu un yn ystod slotiau penodedig. Ar adegau eraill, byddwn yn gwneud ein gorau i fodloni eich cais lle bo hynny'n bosibl. 

Ar ôl ichi drefnu eich slot, byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau hyn gan Digwyddiadau Bangor. Bydd y ffurflen archebu’n cau am 6.00pm Dydd Mercher, 26 Tachwedd 2025.

Byddwch yn derbyn e-byst atgoffa cyn eich cyfweliad.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, neu os oes angen help arnoch i drefnu cyfweliad, cysylltwch â ni.

Addasiadau Rhesymol

Os oes gennych unrhyw ofynion hygyrchedd, dylech gysylltu â ni cyn gynted â phosibl i drafod hyn. Byddwn yn gwneud ein gorau glas i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer eich cyfweliad.

Trefniadau Cyrraedd a Chyn y Cyfweliad

  1. Rhaid i ymgeiswyr cyfweliad gofrestru ar ôl cyrraedd y lleoliad cyfweliad. Sylwch: Dim ond ymgeiswyr fydd yn cael mynd i mewn i’r lleoliad cyfweliad tan ar ôl y sesiwn MMI honno.
  2. Ar ôl cofrestru, byddwch yn cael eich cyfeirio i’r Ystafell Ymgeiswyr nes eich bod yn cael eich galw am eich gwiriad ID.
  3. Ar ôl cwblhau’r gwiriadau ID, bydd aelod o Dîm Derbyniadau Meddygaeth yn egluro fformat y cyfweliad ac yn eich neilltuo i’ch gorsaf gyfweliad gyntaf.
  4. Byddwch wedyn yn cael eich galw i’ch gorsaf gyfweliad gyntaf.

Pwysig: Cofiwch ddod â ID gyda chi. Mae pasbort neu drwydded yrru yn dderbyniol fel ID. Os nad ydych eisoes wedi cyflwyno copi o’ch canlyniadau TGAU i’r Tîm Derbyniadau, sicrhewch eich bod yn dod â’ch trawsgrifiadau gyda chi i’r cyfweliad gan mai hwn fydd eich cyfle olaf i wneud hynny. Cysylltwch â ni os oes gennych gwestiynau am y gwiriad dogfennau ac ID.

Fformat y Cyfweliad: Mini Gyfweliadau Lluosog

Byddwn yn defnyddio Mini Gyfweliadau Lluosog.  

  • Mae Mini Gyfweliadau Lluosog yn cynnwys chwe Gorsaf gyfweld, pob un â chyfwelydd gwahanol.
  • Bydd dau gwestiwn ym mhob gorsaf. 
  • Bydd ymgeiswyr yn cael tri munud i ateb pob cwestiwn, felly chwe munud i gyd.
  • Byddwch hefyd yn cael tair munud cyn pob gorsaf i ddarllen y cwestiynau ac i ystyried eich ymateb.
  • Caiff pob gorsaf ei marcio ar wahân ac yn annibynnol. Oherwydd hynny, os ydych chi'n teimlo nad yw un orsaf wedi mynd yn dda, rydych yn dal yn gallu codi eich marc yn y gorsafoedd eraill.

Gorsafoedd Cyfweliad

Bydd y cwestiynau'n cael eu harddangos yn glir cyn pob Gorsaf. 

Bydd cyhoeddiad yn cael ei wneud i 'Ddechrau Darllen'. Defnyddiwch yr amser hwn i ddarllen cwestiwn yr orsaf a neilltuwyd i chi gyntaf ac i ystyried eich ymateb.

Bydd cyhoeddiad yn cael ei wneud i 'Ddechrau’r Orsaf'. Bydd y cyfwelydd yn darllen y cwestiwn cyntaf i chi.

Ar ôl tri munud, bydd cyhoeddiad i 'Dechrau’r Cwestiwn Nesaf'. Eto, bydd y cyfwelydd yn darllen y cwestiwn i chi.

Bydd cyhoeddiadau pellach yn cadarnhau: 'Un Munud yn weddill' a 'Diwedd Gorsaf'.

Byddwch wedyn yn symud ymlaen i'r Orsaf nesaf. Mae'r broses yr un fath ym mhob un o'r chwe Gorsaf.

Diwedd y Cyfweliad

Ar ôl ichi gwblhau pob Gorsaf, byddwn yn cynnal sesiwn ôl-drafodaeth fer.

Bydd cyfle i chi gymryd rhan mewn sesiwn Holi ac Ateb gyda myfyriwr Meddygaeth Prifysgol Bangor, a fydd yn rhannu mewnwelediadau i’w brofiad ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am astudio Meddygaeth yma. Bydd hyn yn cael ei ddilyn gan daith ddewisol o bentref neuaddau preswyl Ffriddoedd. Mae croeso i westeion ymuno â chi yn ystod y rhan hon o’r diwrnod.

Sylwer: Bydd ymgeiswyr Cydnabod Dysgu Blaenorol Trwy Brofiad yn sefyll Arholiad ar ôl y cyfweliad. Gweler gwybodaeth bellach isod.

Sut caiff y Cyfweliadau eu Hasesu?

IBydd cyfwelwyr yn ystyried eich gallu i gyfathrebu'n effeithiol ac eich addasrwydd ar gyfer y cwrs, yn ogystal â'ch dealltwriaeth o bynciau pwysig sy'n ymwneud â Meddygaeth a'r GIG.

  • Ysgol Feddygol Gogledd Cymru a Mewnwelediad i Yrfa mewn Meddygaeth
  • Moeseg, Proffesiynoldeb, Gwaith Tîm ac Empathi
  • GIG/GIG Cymru
  • Gwytnwch
  • Rhesymeg/Dysgu Hunangyfeiriedig
  • Cymru

Mae rhagor o wybodaeth am baratoi at gyfweliadau i’w gweld ar wefan 
Medical Schools Council Website.

Beth fydd yn digwydd ar ôl y Cyfweliad?

Dim ond ar ddiwedd rownd gyfweld y flwyddyn mynediad y caiff cynigion eu gwneud. Ni roddir adborth ar y diwrnod.

Bydd y Grŵp Derbyniadau’n cyfarfod â Phennaeth Ysgol Feddygol Gogledd Cymru a’r Cyfarwyddwr Cwricwlwm cyn gynted â phosib ar ôl cynnal yr holl gyfweliadau i bennu’r trothwy ar gyfer cynigion, yn seiliedig ar sgôr y cyfweliad. 

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael gwybod drwy UCAS erbyn diwedd Mawrth 2026..

Os bydd salwch neu amgylchiadau lliniarol eraill sy’n rhwystro ymgeisydd rhag cymryd rhan yn y cyfweliad, rhaid i’r ymgeisydd gysylltu â ni cyn amser y cyfweliad. Byddwn yn gwneud ein gorau i drefnu dyddiad cyfweliad arall, ond ni ellir gwarantu hyn, ac efallai na fyddwn yn gallu ail-drefnu eich cyfweliad.

Pryderon cyn dyddiad y cyfweliad: Anogir ymgeiswyr sydd â phryderon neu ofidiau am y cyfweliad cyn y diwrnod i gysylltu â ni.

Pryderon ar y diwrnod:  Rhaid i ymgeiswyr sydd â phryderon am y cyfweliad ar y diwrnod ddwyn y pryderon hyn i sylw'r Tîm Derbyniadau ar ddiwrnod y cyfweliad.
Pwysig: 

  • Ni wneir addasiadau ôl-weithredol.
  • Ni ellir ystyried amgylchiadau lliniarol ôl-weithredol.
  • Bydd methu â dod i gyfweliad a drefnwyd heb resymau eithriadol yn arwain at wrthod eich cais ac ni chewch gynnig lle ar y rhaglen feddygaeth.

Presenoldeb Hwyr

Mae'n bwysig eich bod yn cyrraedd mewn pryd ar gyfer eich cyfweliad. Nid oes sicrwydd y caiff ymgeiswyr sy'n cyrraedd yn hwyr eu cyfweld. Rydym yn annog pob ymgeisydd yn gryf i sicrhau digon o amser i deithio, a'u bod yn anelu at gyrraedd 15 munud cyn amser eu cyfweliad.

Bydd ymgeiswyr Cydnabod Dysgu Blaenorol Trwy Brofiad (RPEL) yn cwblhau Cyfweliadau Bach Lluosog (MMI), ac yna Arholiad Mynediad. Bydd yr arholiadau hyn yn cael eu cynnal ar ddiwrnodau penodol sydd wedi’u trefnu’n arbennig ar gyfer ymgeiswyr RPEL. Dylai ymgeiswyr RPEL ddewis sesiwn gyfweld am 08:45 neu 13:00 ar 1 neu 2 o Ragfyr.

Bydd yr Arholiad Mynediad yn cael ei gynnal gan ddefnyddio llwyfan y Medicine School Council Assessment Alliance (MSCAA).

Hyd yr arholiad yw 72 munud.

Mae’r Arholiad Mynediad wedi’i fapio yn erbyn deilliannau dysgu Blwyddyn 1.

Byddwn yn hysbysu unrhyw fyfyrwyr ymlaen llaw os oes angen iddynt sefyll yr arholiad. Cymerwch gip ar ein tudalennau Arholiad Mynediad Meddyginiaeth am fwy o wybodaeth.

Manylion Cyswllt

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses gyfweld neu’r dyddiad, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau Meddygaeth.