Cyn y Cyfweliad
Cyrhaeddwch 15 munud cyn amser dechrau eich slot cyfweliad os gwelwch yn dda. Pan fyddwch yn cyrraedd Adeilad Reichel byddwch yn cael gwirio eich dogfennau profi hunaniaeth ac aros mewn ystafell i ymgeiswyr i gael eich briffio gan Swyddog Derbyniadau ar drefniadau’r cyfweliad.
Byddwch hefyd yn cael eich symud i'ch gorsaf gyntaf.
Fformat Cyfweliad - Cyfres o Gyfweliadau Byr (MMI)
Byddwn yn defnyddio cyfres o gyfweliadau byr (MMIs) i asesu ymgeiswyr.
- Mae MMIs yn cynnwys 6 ‘gorsaf’ cyfweld gyda chyfwelydd gwahanol ym mhob gorsaf.
- Bydd pob gorsaf yn cynnwys 2 gwestiwn. Bydd gennych 3 munud ar gyfer pob cwestiwn – cyfanswm o 6 munud.
- Bydd gennych 3 munud cyn pob gorsaf i ddarllen y cwestiynau ac ystyried eich ymateb.
- Caiff pob gorsaf ei farcio ar wahân ac yn annibynnol. Felly, os ydych chi'n teimlo nad yw un orsaf wedi mynd yn dda gallwch barhau i berfformio'n dda mewn gorsafoedd eraill.
Gorsafoedd
Bydd y cwestiynau yn cael eu dangos am 3 munud cyn pob gorsaf. Byddwch yn clywed cyhoeddiad i "ddechrau darllen". Defnyddiwch yr amser i ddarllen y cwestiwn ar gyfer eich gorsaf ac ystyriwch eich ymateb.
Bydd y Cyfwelydd yn darllen y cwestiwn eto i chi.
Ar ôl 3 munud, bydd cyhoeddiad i "ddechrau'r cwestiwn nesaf" a bydd y cyfwelydd yn darllen y cwestiwn nesaf.
Bydd cyhoeddiadau pellach yn cadarnhau "un funud ar ôl" a wedyn "diwedd gorsaf".
Yna byddwch yn ailadrodd y broses ar gyfer eich gorsaf nesaf nes i chi gwblhau pob un o'r 6 gorsaf.
Sut ydw i'n cael fy asesu?
Bydd cyfwelwyr yn edrych ar eich gallu i gyfathrebu'n effeithiol, eich rhinweddau personol sy'n eich gwneud yn addas ar gyfer y cwrs yn ogystal â'ch dealltwriaeth o bynciau pwysig yn ymwneud â Meddygaeth a'r GIG.
- Ysgol Feddygol Gogledd Cymru a Chipolwg ar Yrfa mewn Meddygaeth
- Moeseg, Proffesiynoldeb, Gwaith Tîm ac Empathi
- GIG/GIG Cymru
- Gwydnwch
- Rhesymu/Hunan-gyfeiriad
- Cymru
Mae rhagor o wybodaeth am baratoi ar gyfer cyfweliadau ar gael ar wefan Cyngor yr Ysgolion Meddygol.
Diwedd y Cyfweliad
Unwaith y byddwch wedi gwneud pob gorsaf byddwn yn eich dad-friffio chi.
Byddwch hefyd yn mynychu sesiwn Holi ac Ateb gydag un o'n myfyrwyr presennol lle gallwch glywed mwy am eu profiad yn astudio ym Mangor a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych am astudio Meddygaeth ym Mangor. Bydd hyn yn cael ei ddilyn gan daith ddewisol o bentref neuaddau preswyl Ffriddoedd. Mae croeso i westeion ymuno â'r rhan yma o'r diwrnod.
Gwesteion
Mae croeso i ymgeiswyr ddod ag uchafswm o ddau o westeion gyda nhw ar y diwrnod. Fodd bynnag, nodwch mai dim ond ymgeiswyr fydd yn cael mynd i mewn i'r lleoliad yn ystod yr MMIs.
Mae Adeilad Reichel wedi’i leoli’n gyfleus, ychydig funudau ar droed o Fangor Uchaf a’r Stryd Fawr, sy’n cynnig opsiynau cyfagos i westeion archwilio neu ymlacio tra bo’r cyfweliadau’n cael eu cynnal.
O’r amser cyrraedd a chofrestru hyd ddiwedd yr MMI, mae’r broses fel arfer yn cymryd tua 1 awr a 40 munud.
Parcio
Os ydych yn teithio mewn car, gallwch barcio yn y maes parcio sydd wedi’i leoli’n uniongyrchol o flaen Adeilad Reichel, LL57 2TR.
Cyfeirnod What3Words ar gyfer y lleoliad hwn yw /// alleyway.asleep.insurers
Os yw prif faes parcio Reichel yn llawn, mae maes parcio wrth gefn ar gael oddi ar Heol Fictoria, y tu ôl i Bar Uno ar safle Pentref Ffriddoedd. Mae’r maes parcio wrth gefn hwn tua 5–10 munud ar droed o Reichel.
Cyfeirnod What3Words ar gyfer y lleoliad hwn yw /// dwarf.daytime.gifted
I’ch helpu i ddod o hyd i feysydd parcio, cyfeiriwch at Fap Campws Prifysgol Bangor, lle mae meysydd parcio wedi’u marcio’n glir.
Gwybodaeth Bellach
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am gyfweliadau ar ein tudalen Cwestiynau a Ofynnir yn Aml