Penodi Prif Wyddonydd Forest Research yn Athro er Anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor

Mae Bianca Ambrose-Oji, Prif Wyddonydd Forest Research, wedi cael ei phenodi'n Athro er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor.
Dyfarnwyd y teitl mawreddog hwn i gydnabod prif gyflawniadau'r Athro Ambrose-Oji yn ystod ei gyrfa academaidd ac ymchwil, sy'n cynnwys ei rôl flaenorol fel ymchwilydd a darlithydd ym Mhrifysgol Bangor.
Mae gyrfa’r Athro Ambrose-Oji mewn coedwigaeth yn ymestyn dros fwy na 30 mlynedd, gan weithio ledled y Deyrnas Unedig, Ewrop, Affrica ac Asia fel coedwigwr cymdeithasol, ymchwilydd gweithredol, ymgynghorydd, ymarferydd, hyfforddwr proffesiynol ac addysgwr. Enillodd Bianca radd Meistr mewn Coedwigaeth o Brifysgol Rhydychen a doethuriaeth mewn Coedwigaeth Drofannol a Chymdeithaseg Amgylcheddol o Goleg Imperial, Prifysgol Llundain. Cafodd ei phenodi'n Brif Wyddonydd Forest Research ym mis Mehefin eleni.
Dywedodd yr Athro Ambrose-Oji, Prif Wyddonydd, Forest Research: “Rwyf ar ben fy nigon ac yn hynod falch o gael fy mhenodi’n Athro er Anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor. Rwyf wedi gweithio'n agos gyda thîm Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol y brifysgol ers sawl blwyddyn ac rwy'n edmygu'r rhaglenni ymchwil ac addysg arloesol, sydd gyda’r gorau yn y byd, y mae'r gyfadran yn eu cyflwyno.
Aeth Bianca ymlaen i ddweud: “Bu i mi fwynhau fy amser yn addysgu yn y brifysgol yn fawr iawn, gan annog eraill i ddatblygu angerdd dros goedwigaeth a gwyddor coedwigoedd, yn ogystal â chyfleoedd mwy diweddar i hwyluso cysylltiadau rhwng gwyddonwyr Forest Research a’r brifysgol. Edrychaf ymlaen at y cyfleoedd a ddaw yn sgil fy mhenodiad, gan adeiladu ymhellach ar waith ymchwil cydweithredol gyda'r brifysgol ac atgyfnerthu partneriaethau Forest Research yng Nghymru. Mae partneriaethau trawsddisgyblaethol yn hynod bwysig wrth i ni barhau i ddatblygu gwyddoniaeth flaenllaw er mwyn i'r sector coedwigaeth ffynnu – gwyddoniaeth sy'n darparu atebion sy'n ymarferol, yn realistig ac sy’n gweithio i bawb.”
Dywedodd John Healey, Athro Gwyddorau Coedwig ym Mhrifysgol Bangor: “Rwyf wrth fy modd bod y brifysgol wedi penodi Bianca yn Athro er Anrhydedd. Mae hwn yn gydnabyddiaeth briodol iawn o'i chyflawniadau enfawr fel ymchwilydd ac arweinydd Grŵp Ymchwil Cymdeithas ac Amgylchedd Ymchwil Coedwigaeth, gan arwain at ei phenodiad arloesol fel gwyddonydd cymdeithasol i swydd Prif Wyddonydd.”
Ychwanegodd John: “Yn y brifysgol, er bod gennym hanes cryf a balch o gydweithio â Forest Research, rydym yn croesawu’r potensial i ymgymryd â chydweithrediad newydd a chryfach y bydd penodiad Bianca yn ei ddwyn. Bydd hyn yn cynnwys adeiladu ar effaith ein hymchwil gydfuddiannol ar ddatblygu polisïau ar yr adeg hon o gydnabyddiaeth gynyddol o bwysigrwydd coetiroedd a choed wrth fynd i'r afael â heriau mawr y newid yn yr hinsawdd, cadwraeth bioamrywiaeth a lles dynol. Rydym hefyd yn edrych ymlaen at y cyfraniad gwerthfawr y bydd Bianca yn ei wneud i gydran coedwigaeth gymdeithasol ein rhaglenni gradd MSc coedwigaeth, ein myfyrwyr ymchwil ôl-radd a'n projectau ymchwil parhaus.”
Forest Research yw’r prif sefydliad ym Mhrydain ar gyfer ymchwil coedwigaeth a choed.