Banner image of a mountainous forest in Comoros

Cytundebau Cadwraeth yn y Comoros

Cadwraeth ac adfer coedwigoedd a hynny gyda thystiolaeth i bobl a bioamrywiaeth.
 

Mae datgoedwigo yn y Comoros, cenedl archipelago rhwng Madagascar a Mozambique, yn bygwth bioamrywiaeth a bywoliaeth pobl. Bu dulliau confensiynol o geisio mynd i'r afael â hynny’n aflwyddiannus i raddau helaeth.

Byddwn yn tynnu ar ddegawd o brofiad o'r Comoros a gwybodaeth o ymchwil rhyngwladol i gytundebau cadwraeth (gan gynnwys Hap-dreial Rheoli unigryw o raglen ym Molifia) i lunio cytundebau cadwraeth sy’n barod i'w huwchraddio i warchod ac adfer yr hyn sy’n weddill o’r goedwig ar Ynys Anjouan, Comoros.

Mae'r project yn dod â Dahari, corff anllywodraethol yng Nghomoros, a gwyddonwyr o Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor ac Adran Fioleg Prifysgol Rhydychen ynghyd, yn ogystal ag arbenigwyr allanol annibynnol ar bynciau penodol.

Project dwy flynedd yw hwn a ariennir gan Fenter Darwin Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Cefndir y project

Archipelago trofannol yng Nghefnfor India rhwng Mozambique a Madagascar yw Ynysoedd Comoro. Er bod yno fioamrywiaeth eithriadol, a’u bod yn gartref i nifer o rywogaethau endemig, mae’r cyfraddau datgoedwigo gyda’r gwaethaf yn yr holl fyd. Collodd Anjouan, un o’r pedair ynys, 80% o’i choedwigoedd brodorol rhwng 1995 a 2014. 

Arweiniodd y datgoedwigo eithafol hwnnw at ganlyniadau i amgylchedd naturiol yr ynys, a hefyd i'r bobl sy'n byw yno: mae prinder dŵr a’r diraddio ar y tir yn bygwth amaethyddiaeth ac mae’r erydiad trwm ar y pridd yn peri bod y riffiau’n llawn silt, ac mae’n lleihau cynhyrchiant pysgota. Yn y cyfamser, mae llawer o gymunedau’n ddibynnol iawn ar ffermio helaeth, ac mae hynny, ynghyd â’r boblogaeth ddwys a chynyddol, yn peri bod caeau’n mynd yn llai a bywoliaeth pobl yn mynd yn fwy ymylol gyda phob cenhedlaeth. Felly, mae dinistr amgylcheddol a thlodi’n gylch dieflig ac mae pobl gorfod torri coed i lawr a chlirio coedwigoedd ar gyfer tir amaethyddol, sydd yn ei dro’n gwaethygu'r sefyllfa amgylcheddol. 

Bu dulliau confensiynol o geisio mynd i'r afael â’r broblem yn aflwyddiannus i raddau helaeth. Cafodd ardaloedd gwarchodedig eu sefydlu am y tro cyntaf yn 2018 ar Anjouan, ond mae diffyg cefnogaeth iddynt ac yn anaml y caiff y cyfreithiau amgylcheddol eu gweithredu. Mae cydlyniant cymdeithasol gwan hefyd yn ei gwneud hi'n anodd cymryd camau cadwraeth ar lefel gymunedol.

Mae Dahari, corff anllywodraethol amgylcheddol sy'n gweithio ar dair o Ynysoedd Comoro, yn gweithio i warchod coedwig ar Anjouan ers 2013. Yn 2021 penderfynwyd adeiladu ar raglen gytundeb cadwraeth beilot lwyddiannus, a ddiogelodd 7 o 15 safle clwydo’r llwynog hedegog, Livingstone (Pteropus livingstonii) sydd mewn perygl difrifol, trwy seilio eu cynllun strategol 5 mlynedd ar gytundebau cadwraeth. Mae gan Dahari nod hirdymor o warchod 1000 hectar o'r goedwig frodorol sy'n weddill ar Anjouan trwy gytundebau gyda thua 1000 o ffermwyr yr ucheldir.

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Bangor a Phrifysgol Rhydychen yn gweithio'n agos gyda Dahari i ddatblygu cytundebau arloesol sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer cadwraeth ac adfer coedwig frodorol Anjouan. Yn anarferol iawn, caiff y rhaglen ei rhoi ar waith fel Hap-dreial Rheoli fesul cam, er mwyn sicrhau bod gwerthusiad cadarn o’r effaith o'r cychwyn cyntaf. 

Mae'r tîm yn tynnu ar ddegawd o brofiad gydag arbrofion ar hap. Bu Dr Edwin Pynegar yn gweithio ar ddylunio a gwerthuso rhaglen cadwraeth dŵr a choedwigaeth Watershared sydd gyda’r gorau yn y byd ac sy’n seiliedig ar gymhelliant ym Molifia, fel ymchwilydd ac ymarferydd. Arweiniodd yr Athro Julia Jones broject a ariannwyd gan Ymddiriedolaeth Leverhulme ar werthuso Watershared a bu’n astudio cadwraeth coedwigoedd trofannol ym Madagascar a ledled y byd ers dros 20 mlynedd.  Bydd y profiadau hynny’n allweddol i ddyluniad y rhaglen cytundebau cadwraeth newydd yn y Comoros yn ogystal â'r gwerthusiad cysylltiedig ar hap.

Ein nod felly yw y bydd y project, a ariennir gan Fenter Darwin Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yn dylanwadu ar arferion cadwraeth yn rhyngwladol trwy gynnig model ar gyfer cadwraeth sy’n seiliedig ar ymchwil ac sy’n canolbwyntio ar werthuso ac integreiddio’r ymchwilydd a’r ymarferydd, o'r cychwyn cyntaf. Hefyd, dyma'r cam cyntaf mewn proses hir i warchod ac adfer coedwigoedd Anjouan ac ynysoedd eraill y Comoros, a thrwy hynny sicrhau cyflenwadau dŵr, gwella gwytnwch bywoliaeth a gwarchod rhywogaethau endemig. Darllenwch ymlaen i ddysgu mwy am y tîm a’r hyn rydym yn ei wneud yn feunyddiol!

Ein gweithgareddau

  • Llunio rhaglen Cytundebau Cadwraeth a thystiolaeth yn gefn iddynt gyda phobl leol ac arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol, i gefnogi ffermwyr i warchod ac adfer coedwigoedd ucheldiroedd Anjouan.
  • Gweithredu'r rhaglen gydag o leiaf 40 o ffermwyr.
  • Sefydlu Hap-dreial Rheoli i ymgorffori gwerthusiad cadarn, gwrthffeithiol o’r effaith wrth gyflwyno’r rhaglen.
  • Hyfforddi technegwyr Dahari mewn technegau casglu data a monitro.
  • Gweithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid eraill yn y Comoros a thu hwnt i rannu gwersi’r project.

Cyfarfod â’r tîm

Mae'r project yn dod â Dahari, corff anllywodraethol yng Nghomoros, a gwyddonwyr o Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor ac Adran Fioleg Prifysgol Rhydychen ynghyd, yn ogystal ag arbenigwyr allanol annibynnol ar bynciau penodol. 

I ddysgu mwy am dîm Dahari, gweler yma (Saesneg) neu yma (Ffrangeg). 

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?