Two people standing in a field with dairy cows in the background

Cyllid i broject da byw arloesol a allai drawsnewid cynaliadwyedd ffermio anifeiliaid cnoi cil

Mae'r Ganolfan Biogyfansoddion ym Mhrifysgol Bangor yn rhan o dîm sydd wedi derbyn £2.8 miliwn i ariannu project a fydd yn ystyried effeithlonrwydd magu anifeiliaid cnoi cil, ffermio cynaliadwy, a monitro lefelau methan ar y fferm.

 

Rydym yn falch iawn o ddod â’n profiad ymchwil helaeth i’r project hwn. Ers rhai blynyddoedd, rydym wedi bod yn ymchwilio gyda chydweithwyr i ffyrdd o echdynnu cyfansoddion o werth uchel o gennin Pedr ac mae cymhwyso’r ymchwil hon i ddatblygu ychwanegyn porthiant i dda byw sy’n lleihau methan yn gyfle cyffrous i gyfrannu at leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Edrychwn ymlaen at weithio gyda phartneriaid yn y diwydiant ar broject sydd â’r potensial o wneud gwir wahaniaeth yn cefnogi cymunedau ffermio a chyfrannu at nodau cynaliadwyedd byd-eang.
Dr Radek Braganca ,  Prifysgol Bangor

Eglura Annie Williams, Rheolwr Datblygu Busnes y Ganolfan Rhagoriaeth Arloesi mewn Da Byw sut y bydd y project yn torri tir newydd trwy ganolbwyntio ar dair elfen graidd:

“Bydd y project yn canolbwyntio ar ddatblygu ychwanegyn arloesol i borthiant a fydd yn lleihau allyriadau methan ac yn gwella dulliau anifeiliaid cnoi cil o ddefnyddio protein. Yn ail, ar dyfu cnwd masnachol newydd, cennin Pedr, a fydd yn fodd o arallgyfeirio ar ffermydd, ac yn olaf ar gynhyrchu dadansoddwr nwy manwl-gywir i fonitro allyriadau methan ar y fferm.

“Ar hyn o bryd, mae cryn graffu ar ffermio da byw o ran ei effaith amgylcheddol a’r defnydd o adnoddau, yn arbennig felly o ran allyriadau methan.

“Byddwn yn gweithio i fynd i’r afael â’r heriau hyn yn uniongyrchol trwy gyfrwng y project, ac yn canfod atebion ymarferol a fydd yn gwneud ffermio da byw yn fwy cynaliadwy.”

Bydd y consortiwm yn gweithio'n agos gyda ffermwyr, rhanddeiliaid yn y diwydiant, a llunwyr polisi trwy gydol cyfnod y project er mwyn  sicrhau aliniad ag anghenion a blaenoriaethau'r sector. Trwy feithrin cydweithrediad a chyfnewid gwybodaeth, nod y consortiwm yw cyflwyno buddion diriaethol i’r gymuned ffermio ac ar yr un pryd gyfrannu at nodau cynaliadwyedd cenedlaethol a byd-eang.

I gael rhagor o wybodaeth am y project, cysylltwch â'r Ganolfan Biogyfansoddion http://www.biocomposites.bangor.ac.uk/contact-us/

 

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?