Astudiaeth newydd yn taflu goleuni ar effaith straen ar fadfallod ifanc
Mae astudiaeth gan Brifysgol Bangor wedi taflu goleuni newydd ar effaith straen ar fadfallod ifanc.
Canfu ymchwil dan arweiniad Dr Kirsty Macleod o'r Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol fod madfallod a anwyd i famau a oedd dan straen yn ystod beichiogrwydd yn tyfu'n arafach ac yn ymddwyn yn wahanol.
Ond er mawr syndod, datgelodd y papur, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn gwyddonol Journal of Animal Ecology, fod y madfallod ifanc hyn yn fwy cymdeithasol na’u cyfoedion. Roeddent yn treulio mwy o amser gyda madfallod eraill, gan gynnwys eu mamau a'u brodyr a’u chwiorydd.
Fodd bynnag, canfu'r ymchwil hefyd nad yw’r ffaith bod madfallod ifanc yn treulio amser gyda'u mam ar ôl eu genedigaeth yn lleihau effeithiau'r straen cyn geni, sy’n wahanol i rai anifeiliaid eraill (gan gynnwys bodau dynol).
I gynnal yr astudiaeth, edrychodd yr ymchwilwyr ar fath o fadfall Awstralaidd o'r enw Liopholis whitii, sy'n byw mewn grwpiau teuluol, i weld sut oedd hormonau straen a roddwyd i famau yn ystod beichiogrwydd yn effeithio ar eu hepil. Mae'r driniaeth wedi ei chynllunio i efelychu'r cynnydd tymor byr mewn hormonau pan fydd anifail yn dod i gysylltiad ag ysglyfaethwr neu straenachoswyr naturiol tebyg.
Magwyd rhai madfallod ifanc gyda'u mam am ychydig wythnosau, tra magwyd eraill ar eu pennau eu hunain, i weld a allai bod gyda'u mam helpu lleihau effaith y straen cyn geni.
Mae'r effeithiau hyn yn awgrymu bod straen mamol yn ffactor pwysig yn y ffordd y mae madfallod yn ymddwyn yn gymdeithasol a'i fod hyd yn oed yn bwysicach na dylanwad yr amgylchedd cymdeithasol yn y cyfnod cynnar ar ôl genedigaeth. Mae gan y canfyddiadau oblygiadau posib i ddeall sut mae anifeiliaid fel madfallod yn ffurfio grwpiau cymdeithasol.
Dywedodd Dr Kirsty Macleod o Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol Prifysgol Bangor, “Gall straen yn ystod beichiogrwydd effeithio ar sut mae epil yn tyfu ac yn ymddwyn, gan gynnwys sut maen nhw'n rhyngweithio ag eraill. Yn achos rhai anifeiliaid, gall amgylchedd cymdeithasol cefnogol ar ôl genedigaeth — fel treulio amser gyda rhiant — leihau neu 'glustogi' effeithiau negyddol straen cynnar. Fodd bynnag, mae gwyddonwyr yn gwybod llai am sut mae hyn yn gweithio yn achos ymddygiad symlach, er enghraifft a yw rhiant dim ond yn goddef bod yn agos at eu hepil.
“Mae’r astudiaeth hon yn dangos y gall straen i famau madfallod yn ystod beichiogrwydd gael effeithiau hirdymor ar eu hepil, yn enwedig ar ba mor gymdeithasol ydyn nhw. Mae hefyd yn awgrymu, o leiaf yn y madfallod hyn, nad yw bod yn agos at riant ar ôl genedigaeth yn ddigon i ddadwneud effeithiau straen cyn geni. Mae'r canfyddiadau hyn yn gymorth i ni ddeall yn well sut mae ymddygiad cymdeithasol yn datblygu a sut y mae grwpiau teuluol ffurfio yn y gwyllt.”