Red colour block

Ymchwilwyr Prifysgol Bangor wedi eu rhestru ymysg 1% ucha’r byd

Mae pedwar ymchwilydd ym Mhrifysgol Bangor wedi eu rhestru ymysg yr ymchwilwyr sy’n cael eu dyfynnu’n fwyaf aml, gan eu gosod ymysg yr 1% mwyaf blaenllaw yn fyd-eang.

Rwyf wedi gwirioni bod fy ngwaith yn parhau i gael ei ddyfynnu’n aml ac yn parhau’n ddylanwadol iawn. Yn gynyddol, mae cyllidwyr ymchwil eisiau gweld eu bod wedi cyllido ymchwil sy’n cael effaith ac sydd wedi gwneud gwahaniaeth go iawn, ac mae gwobr Clarivate yn darparu tystiolaeth dda i gefnogi’r nod hwnnw.

Yr Athro Jane Noyes

Mae’n fraint cael fy nghynnwys eleni yn rhestr Clarivate o Ymchwilwyr y Dyfynnir eu Gwaith Amlaf. Rydym yn cael budd o weithio o fewn amgylchedd prifysgol sy’n cefnogi ac annog ymchwil a chydweithio o fewn gwlad fechan ond blaengar iawn. Mae cael fy nghynnwys ar y rhestr yn dangos sut mae ein hymchwil cydweithredol yn dylanwadu ar wybodaeth yn fyd-eang, yn ogystal â dylanwadu ar bolisi ac ymarfer ar draws Cymru.

Yr Athro Karen Hughes

Mae ymddangos ymysg rhestr Clarivate o Ymchwilwyr y Dyfynnir eu Gwaith Amlaf yn adlewyrchu ymroddiad y technegwyr, myfyrwyr PhD ac ymchwilwyr ôl-ddoethurol sydd wedi gweithio gyda mi i gynhyrchu ystod eang o gynnyrch ymchwil gydag effaith ystyrlon. Mae hon yn Wobr i’r tîm cyfan.

Yr Athro Davey Jones

Rwyf wrth fy modd cael fy nghynnwys eleni yn y rhestr o Ymchwilwyr y Dyfynnir eu Gwaith Amlaf. Mae’n cymryd sawl ymennydd i gynllunio, cynhyrchu a chyhoeddi papur ymchwil sy’n cael effaith ac mae cael fy nghynnwys yn y rhestr yn glod i’r gwaith a wneir gan y tîm iechyd cyhoeddus cyfan. Rwy’n gobeithio y bydd gwybod bod ein gwaith yn cael ei ddefnyddio gan ein cyd-ymchwilwyr yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, a gan lunwyr polisi’n ysgogi pob un ohonynt i wneud gwaith sy’n cael hyd yn oed mwy o effaith.

Yr Athro Mark Bellis

Portreadau

Yr Athro Jane Noyes

Fel Nyrs Gofrestredig a Nyrs Plant Gofrestredig, mae’r Athro Jane Noyes yn un o nifer fechan iawn o nyrsys ym Mhrydain sydd wedi’u derbyn yn Gymrawd Academi Nyrsio America. Mae Jane wedi datblygu enw da yn fyd eang mewn ymchwil gofal plant. Mae'n fwyaf adnabyddus fel arweinydd hir sefydlog grŵp Cochrane o fethodolegwyr o fri rhyngwladol sydd wedi gwneud gwaith arloesol i ddatblygu ac egluro'r dulliau o syntheseiddio tystiolaeth ansoddol a dulliau cymysg i lywio'r broses o wneud penderfyniadau clinigol.  Mae grŵp Cochrane yn arweinydd byd-eang ar gynhyrchu adolygiadau o dystiolaeth ddibynadwy gan ddefnyddio dulliau trylwyr i lywio'r broses o wneud penderfyniadau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.  Yn aml mae sefydliadau byd-eang megis Sefydliad Iechyd y Byd a gwahanol asiantaethau Llywodraeth yr Unol Daleithiau yn galw ar Jane i gynghori ar ddulliau synthesis tystiolaeth a'u cymhwyso yn y broses o wneud penderfyniadau.

Yr Athro Karen Hughes

Mae’r Athro Karen Hughes yn Rheolwr Datblygu Ymchwil a Chapasiti (Projectau Arbennig) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ac yn Athro er Anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor. Hi sy’n arwain yr Uned Cydweithio Iechyd Cyhoeddus ym Mhrifysgol Bangor, sef uned ymchwil cymhwysol rhwng y Brifysgol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae gan Karen bortffolio ymchwil eang a diddordeb penodol mewn atal trais, profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, defnydd o alcohol ac iechyd bywyd y nos. Mae ei gwaith yn cynnwys rhoi astudiaethau poblogaeth cenedlaethol ar waith, gwneud astudiaethau ymchwil gwreiddiol ac adolygiadau llenyddiaeth systemaidd a gwerthuso ymyraethau. Mae Karen yn gweithio gyda Sefydliad Iechyd y Byd i gefnogi’u rhaglen atal ac ymateb i drais ac mae wedi cyhoeddi ystod eang bapurau academaidd ac adroddiadau cenedlaethol a rhyngwladol sy’n cyfrannu at ddatblygiad polisi ac ymarfer iechyd cyhoeddus.

Yr Athro Davey Jones

Ffocws gwaith ymchwil yr Athro Davey Jones yw cloriannu gwasanaethau ecosystem a gwarchod iechyd dynol. I’r perwyl hyn, mae’n cydweithio efo diwydiant i gyflwyno datrysiadau unigryw ar gyfer problemau amgylcheddol a gwella cynaliadwyedd. Ar ddechrau COVID-19 sylweddolodd fod modd defnyddio technegau oedd wedi’u datblygu’n barod i fonitro lefelau COVID-19  mewn systemau dŵr gwastraff. Mae’r projectau cyfredol yn cynnwys rhaglen gwyliadwriaeth iechyd cyhoeddus cenedlaethol ar sail dŵr gwastraff a gyllidir gan Lywodraeth Cymru. Mae’n cynghori Llywodraeth Cymru ar ei pholisïau iechyd cyhoeddus, amaeth, defnydd tir a newid hinsawdd, yn arwain y 'Rhaglen gwyliadwriaeth iechyd cyhoeddus cenedlaethol Cymru’ ac yn eistedd ar Grŵp Cynghori Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar Sylweddau o Bryder sy’n Dod i’r Amlwg.

Yr Athro Mark Bellis 

Mae Mark Bellis yn Athro Iechyd Cyhoeddus ym Mhrifysgol Bangor ac yn Athro Iechyd Cyhoeddus a Gwyddor Ymddygiadol ym Mhrifysgol Liverpool John Moores. Mae’n gwneud gwaith ymchwil a datblygu ar raddfa genedlaethol a rhyngwladol, mewn meysydd sy’n cynnwys profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, alcohol, cyffuriau, iechyd rhywiol, ac ers dros ddegawd, ef fu Pwynt Ffocws y Deyrnas Unedig (UK Focal Point) ar drais ac atal anafiadau. Mae ei waith yn cwmpasu astudiaethau ymchwil gwreiddiol, adolygiadau systemaidd, economeg iechyd a gweithrediad polisi. Mae Mark yn ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus cofrestredig ar gyfer y GIG yng Nghymru ac fe dderbyniodd OBE am ei wasanaethau i ofal iechyd yn 2009. Ef sy’n cadeirio y Ganolfan Cydweithredu er Atal Trais.

Clarivate Reveals World’s Influential Researchers in Highly Cited Researchers 2023 List

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?