Canfu’r papur gan Dr Christopher Saville ac a gyhoeddwyd yn y Journal of Epidemiology & Community Health bod trigolion ardaloedd yng Nghymru lle bu mwy o waith glo yn dioddef o iechyd meddwl gwaeth.
Canfu hefyd fod canlyniadau iechyd meddwl yn amrywio rhwng grwpiau oedran, gyda'r cysylltiad cryfaf yn y cenedlaethau a oroesodd ddirywiad y diwydiant mwyngloddio.
Mae'r astudiaeth hefyd yn awgrymu bod canlyniadau dad-ddiwydiannu ar iechyd meddwl yn effeithio ar fenywod o leiaf cymaint â dynion, er gwaethaf y ffaith bod mwyngloddio yn ddiwydiant gwrywaidd iawn ei natur.
Gyda'i gilydd, mae'r canfyddiadau'n awgrymu bod gan bobl oedd yn dyst i ddiwedd y diwydiant glo pan oeddent yn oedolion beryg uwch hirdymor o iechyd meddwl gwael.
Yng ngoleuni'r canfyddiadau, mae Dr Saville, Uwch Ddarlithydd Clinigol yn Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon Prifysgol Bangor yn rhybuddio bod dad-ddiwydiannu cyflym yn arwain at effaith barhaus ar iechyd pobl.
Mae'n ychwanegu y dylai llunwyr polisi flaenoriaethu lliniaru'r canlyniadau hyn mewn newidiadau economaidd yn y dyfodol, megis y tarfu ar farchnadoedd llafur oherwydd datblygiadau mewn deallusrwydd artiffisial ac awtomeiddio, a’r broses gyflym o ddatgarboneiddio ynni mewn ymateb i ofynion newid hinsawdd.
Mae'r astudiaeth yn defnyddio dwy gyfres o arolygon cenedlaethol mawr, gyda maint sampl cyfunol o dros 7% o boblogaeth Cymru, ac yn cysylltu'r rhain â data ar gloddio glo yn y gorffennol i asesu’r berthynas rhwng hanes mwyngloddio ac iechyd meddwl, ac a yw hyn yn cael ei effeithio gan oedran a rhyw.
Mae'r canfyddiadau'n seiliedig ar drysorfa helaeth o ddata, sy'n cynnwys 180,462 o ymatebwyr i Arolwg Iechyd Cymru rhwng 2003 a 2015, a 57,331 o ymatebwyr i Arolwg Cenedlaethol Cymru rhwng 2016 a 2023. Cysylltwyd hyn â data daearyddol ar weithgarwch mwyngloddio glo hanesyddol.
Dywedodd Dr Christopher Saville, Uwch Ddarlithydd Clinigol yn Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon Prifysgol Bangor, “Mae dad-ddiwydiannu yn gysylltiedig â chanlyniadau iechyd gwaeth, ond nid yw’n glir i ba raddau y mae hyn oherwydd effeithiau uniongyrchol colli swyddi, yn hytrach nag effeithiau anuniongyrchol mwy hirdymor. Mae'r astudiaeth hon yn dangos bod ymwneud â’r diwydiant glo yn tueddu i arwain at iechyd meddwl gwaeth ar draws sawl grŵp oedran. Mae'r patrwm yn awgrymu effeithiau anuniongyrchol, hirdymor ar rwydweithiau cymunedol, yn hytrach na cholli swyddi unigol yn unig, gyda'r grwpiau oedran ieuengaf i'w gweld yn cael eu heffeithio llai na'r cenedlaethau hŷn.
“Mae’r canfyddiadau’n tynnu sylw at effeithiau hirdymor dad-ddiwydiannu ar iechyd meddwl. Oherwydd y polisi hwn, dylai ymatebion i'r trawsnewidiadau diwydiannol rydym ni’n eu hwynebu heddiw—gan gynnwys awtomeiddio a datgarboneiddio— flaenoriaethu lliniaru iechyd meddwl ochr yn ochr ag ailddatblygu economaidd. Mae modd i unrhyw drawsnewid economaidd yn y dyfodol efelychu patrymau hanesyddol dad-ddiwydiannu. Mae'n bwysig deall canlyniadau dad-ddiwydiannu ar iechyd i'n helpu i atal y canlyniadau iechyd hirdymor a welwn ni mewn cymunedau ôl-ddiwydiannol. Mae'r papur hwn yn cyflwyno achos iechyd meddwl ym meysydd glo Cymru fel enghraifft o sut y gall yr effeithiau iechyd hyn ddod i'r amlwg.”