Delwedd o fodel wedi ei drefnu er mwyn arddangos gofal brys mewn sefyllfaoedd argyfyngus

Prifysgol Bangor yn gweithio gydag arbenigwyr gofal meddysgol anghysbell i wneud gwahaniaeth mewn sefyllfaoedd o argyfwng a thrychinebau

 

Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Remote Area Risk International i helpu i ddatblygu’r dulliau ymarferol a’r hyfforddiant y maent yn ei gynnig ar eu cyrsiau meddygaeth anghysbell a gofal estynedig yn y maes. Nhw yw un o ddarparwyr mwyaf blaenllaw’r Deyrnas Unedig yn y maes yma. Yr hyn sy’n gwneud y gwaith hwn yn werth chweil yw gwybod bod graddedigion y cwrs yn mynd yn eu blaenau i gymhwyso’r wybodaeth a’r sgiliau technegol y maent yn eu dysgu i wella gofal cyn-ysbyty a lleihau marwolaethau mewn lleoliadau lle mae adnoddau’n brin, megis ar allteithiau ac mewn trychinebau.

 

Yr Athro Sam Oliver,  Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Prifysgol Bangor, a Chyfarwyddwr y Sefydliad Ffisioleg Ddynol Gymhwysol, Prifysgol Bangor
Cawsom ein cyflwyno i Sam gan gyswllt dibynadwy a phrofiadol iawn yn y maes Achub Mynydd. Mae gan y tîm yn y Sefydliad Ffisioleg Ddynol Gymhwysol brofiad helaeth o’r pwnc dan sylw. Fel gyda phopeth y byddwn ni yn ei wneud, mae’r ffocws ar wneud gwahaniaeth cadarnhaol i’r rhai sydd ei angen, mewn sefyllfaoedd eithafol.

 

Matthew Davies,  Cyfarwyddwr Remote Area Risk International

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?