Hen Goleg building, home of Bangor Business School

Ysgol Busnes Bangor

Bruce Vanstone

Croeso i Ysgol Busnes Bangor. Fel myfyriwr newydd, rydych ar un o deithiau mwyaf trawsnewidiol eich bywyd ac rydym wrth ein bodd y byddwch yn ymuno â ni ym Mhrifysgol Bangor wrth i chi gychwyn ar y cam nesaf yn eich addysg. Bydd y flwyddyn academaidd newydd wedi cyrraedd cyn i chi wybod a gobeithiwn eich bod yn edrych ymlaen at ddechrau eich gradd gyda ni.  
 
Mae’r Ysgol academaidd hon yn gartref i’r meysydd pwnc canlynol:  

  •  Cyfrifeg, Bancio a Chyllid
  • Rheoli Busnes, Marchnata, Rheolaeth Adnoddau Dynol a Thwristiaeth
  • Economeg a Dadansoddeg Data 

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i chi - yn llawn pobl, lleoedd a phrofiadau newydd. Mae astudio yn y brifysgol yn gyfle i greu atgofion gwych, ffrindiau am oes ac ennill gradd a fydd yn gwella eich rhagolygon ar unrhyw nifer o lwybrau gyrfa.  Mae’r staff addysgu yn brysur yn paratoi ar gyfer y tymor newydd a byddwn yn gwneud ein gorau i’ch cefnogi wrth i chi ymgartrefu yn eich amgylchedd newydd. 

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau y bydd eich profiad myfyriwr yn un o ddysgu o safon a datblygiad personol, a gobeithiwn y bydd yr Wythnos Groeso yn ddechrau blynyddoedd difyr a ffrwythlon o astudio gyda ni.  

Mae ein rhaglen Wythnos Groeso wedi’i datblygu i roi arweiniad ac mae’n cynnwys ystod o sesiynau a gweithgareddau gyda’r bwriad o’ch helpu i ymgyfarwyddo gyda’ch amgylchoedd.  Ar ddydd Llun yr Wythnos Groeso cewch eich gwahodd i sesiwn gynefino. Byddwch hefyd yn cael cyfarfod gyda'ch Tiwtor Personol a fydd yn gallu cynnig cyngor ar fodiwlau ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am eich rhaglen astudio. 

Fe welwch eich rhaglen Wythnos Groeso isod. Gwiriwch yn rheolaidd am ddiweddariadau.
 

  • Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am drefniadau Wythnos Groeso neu eich cwrs, cysylltwch â'r Ysgol neu ein harweinwyr cyfoed. 
  • Fe welwch lawer mwy o wybodaeth ddefnyddiol am baratoi ar gyfer dechrau'r tymor ar ein tudalennau Croeso i Brifysgol Bangor.
  • Ar gyfer ymholiadau am ymrestru a chofrestru, cysylltwch â cofrestru.
  • Ar gyfer ymholiadau am eich amserlen, cysylltwch â’r tîm Gweinyddu Myfyrwyr.  

Gan edrych ymlaen at eich gweld yn fuan,

Yr Athro Bruce Vanstone
Pennaeth yr Ysgol

Arweinwyr Cyfoed

Ar ran holl Arweinwyr Cyfoed yr Ysgol Busnes, hoffwn eich croesawu i Brifysgol Bangor.

Mae’r cynllun Arweinwyr Cyfoed yma i’ch helpu chi ymgynefino â bywyd prifysgol yn ystod eich wythnosau cyntaf ym Mangor. 

Bydd Arweinwyr Cyfoed yr Ysgol ar gael i’ch cynorthwyo chi ac i'ch helpu chi deimlo'n gartrefol. Mae gan bob myfyrwyr Arweinydd Cyfoed personol a fydd yn cysylltu â chi cyn bo hir. Byddant yn eich helpu i wneud ffrindiau drwy amrywiaeth o ddigwyddiadau cymdeithasol, dangos y dref a'r brifysgol i chi, a rhoi gwybodaeth a chyngor i chi am fywyd fel myfyriwr. 

Yn y cyfamser, os hoffech gysylltu â'ch Arweinydd Cyfoed, cysylltwch â chydlynydd yr Arweinwyr Cyfoed a wnaiff eich rhoi chi mewn cysylltiad - Ayan Orujov (a.orujov@bangor.ac.uk) 

Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?