Cyflwyniad i'r Linux Shell
Mae Rhyngwynebau Defnyddwyr Graffigol yn iawn yn eu lle, ond mae rhyngwyneb llinell yn cynnig galluoedd pwerus sy'n galluogi gweithredoedd cymhleth am fewnbynnau cymharol fach.
Bydd y cwrs hwn yn cyflwyno'r Linux Shell a sut mae rhedeg tasgau trwyddo. Yna mi welwn ni'r pŵer sydd o gyfuno gweithredoedd o'r fath mewn ffyrdd newydd.
Mi wnaiff y cwrs hwn eich helpu chi ddeall yr amgylchedd nodweddiadol y defnyddir Linux Shell ynddo, oherwydd yn aml mae'n allweddol o ran cael mynediad at amrywiol offer ac adnoddau cyfrifiadurol, gan gynnwys uwchgyfrifiaduron.
Bydd y testunau dan sylw'n cynnwys:
- Llywio systemau ffeiliau
- Gweithio gyda ffeiliau a chyfeiriaduron
- Allanfeydd safonol, gwallau safonol a phibellau
- Dolenni
- Amodau
- Ailddefnyddio drwy sgriptiau
Rhagofyniad: Does dim angen profiad o command-line. Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer amrywiaeth fawr o gyfranogwyr.