Goruchwyliaeth effeithiol: gweithdy i oruchwylwyr myfyrwyr doethuriaeth (Deuddydd ar-lein)
Dydd Llun- Dydd Mawrth 26fed ac 27eg Mehefin 2023
Amser: Bydd y sesiwn yn agor am 9.30 am y diwrnod cyntaf ac yn aros yn agored am 48 awr. Anfonir amserlen ymlaen llaw at yr holl gyfranogwyr.
Gofynion: Cyfrif Google.Bydd y gweithdai trwy Google Docs.
Tiwtor: John Wakeford
Mae ymgymryd â swyddogaeth goruchwylio myfyrwyr ymchwil yn un o'r tasgau mwyaf cyfrifol a heriol yn aml mewn gyrfa academaidd. Dylai hefyd fod yn un o'r rhai mwyaf buddiol.
Ond fel gyda swyddogaethau proffesiynol eraill, er mwyn bod yn effeithiol mae angen i oruchwyliwr baratoi.
Bydd y rhaglen ddangosol yn cael ei theilwra i'r pynciau rydych chi'n eu codi ond caiff ei haddasu wrth i ni fynd ymlaen. Bydd yn sicr yn ymdrin â materion fel:
- Rheoliadau penodol ar gyfer goruchwylwyr a myfyrwyr Bangor
- Datblygu perthynas dda rhwng goruchwyliwr a myfyriwr
- Sut i benderfynu a yw gwaith y myfyriwr yn ddigon da i lwyddo
- Sut i helpu myfyriwr i orffen mewn pryd