Pam defnyddio R? (In-person)
Why R: Revolutionize Your Research and Industry Skills!
Bydd y sesiwn hon, dros hanner diwrnod, yn rhoi trosolwg o ddefnydd ac arwyddocâd R yn y cyd-destun ymchwil a gwaith sydd ohoni. Mae R yn offeryn pwerus a ddefnyddir yn helaeth i ddadansoddi data, i wneud gwaith modelu ystadegol, ac i ddelweddu data, sy’n golygu ei fod yn anhepgor ym maes ymchwil ac mewn diwydiannau amrywiol.
Bydd gwyddonydd data o Jumping Rivers yn trafod sut mae R yn cael ei ddefnyddio mewn diwydiant, gan rannu enghreifftiau a mewnwelediadau o’r byd go iawn. Os yw eich sefydliad chi’n ystyried mabwysiadu R neu os ydych yn chwilfrydig am ei fanteision, bydd y cwrs hwn yn cyflwyno safbwyntiau gwerthfawr i chi.
Ymunwch â ni i ddysgu pam fod R yn arf hanfodol a chyfoes i ddadansoddi data a bydd rhywfaint o nwyddau Jumping Rivers yn cael eu rhannu hefyd!