Yr Offeryn Cywir ar gyfer y Dasg: Pam mai Overleaf yw Ffrind Gorau’r Ôl-raddedig (Sesiwn wyneb yn wyneb)
Mae Overleaf yn blatfform ar-lein pwerus ar gyfer ysgrifennu, golygu a chyhoeddi dogfennau gwyddonol gan ddefnyddio LaTeX – heb fod angen gosod unrhyw feddalwedd. Wedi’i gynllunio i hwyluso cydweithio, rheoli fersiynau, a gosodiad proffesiynol o destun, mae Overleaf yn dod yn offeryn poblogaidd ymhlith ymchwilwyr ac ôl-raddedigion fel ei gilydd.
Bydd y sesiwn gyflwyniadol hon yn tywys cyfranogwyr drwy brif nodweddion Overleaf, gan gynnwys creu dogfennau, defnyddio templedi, rheoli dyfyniadau, a chydweithio’n fyw mewn amser real. P’un a ydych yn ysgrifennu traethawd hir, yn paratoi erthygl ar gyfer cyfnodolyn, neu’n gweithio ar brosiect grŵp, mae Overleaf yn cynnig amgylchedd syml a threfnus wedi’i deilwra ar gyfer anghenion ysgrifennu academaidd.
Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol o ddefnyddio LaTeX – mae’r sesiwn hon yn ddelfrydol i ddechreuwyr neu unrhyw un sydd am wella eu llif gwaith wrth ysgrifennu’n wyddonol.