Grant Teithio Dramor Wartski 2025/26
Rhagarweiniad
Sefydlwyd Grant Teithio Tramor Wartski trwy ddwy ymddiriedolaeth elusennol a grëwyd gan y diweddar Isidore a Winifred Marie Wartski. Mae’r grant wedi ei wreiddio yn nhreftadaeth falch Prifysgol Bangor a'i hymrwymiad i addysg drawsnewidiol. Mae'r grant yn anrhydeddu cysylltiadau hanesyddol y teulu Wartski â Bangor, a sefydlodd gwmni gemwaith Wartski yn y ddinas - cwmni sy’n dal i fasnachu yn Llundain hyd heddiw.
Diben y wobr yw darparu cefnogaeth hanfodol i fyfyrwyr ymchwil ôl-radd Prifysgol Bangor sy'n ceisio cyfoethogi eu taith academaidd trwy fwrsariaeth teithio rhyngwladol, yn enwedig lle nad oes unrhyw gyllid arall ar gael. Mae'r cymhorthdal yn adlewyrchu ein cred gyffredin mewn agor drysau, ehangu gorwelion, a grymuso myfyrwyr i ennill profiad gwerth chweil trwy ymgysylltu rhyngwladol.
Canllawiau a Rheoliadau ynghylch y Grant
Lawrlwythwch y ffurflen gais yma
Dyddiad cau i wneud cais: 17/11/2025
Ar ôl ei chwblhau, anfonwch eich ffurflen gais i'r Ysgol Ddoethurol drwy ebostiopgr@bangor.ac.uk.