Gwobrau Symudedd Haf Ôl-raddedig Prifysgol Bangor 2025
Fel rhan o’u rhaglen gefnogi addysg uwch sydd wedi bod yn rhedeg ers amser maith, mae Santander Universities yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ôl-raddedig Prifysgol Bangor ennill un o 5 gwobr symudedd (4 x £1000 a 1 x £1350) i gefnogi eu hastudiaethau / ymchwil a’u cyflogadwyedd.
Cefndir
Mae’r cyfle hwn ar agor i fyfyrwyr ôl-raddedig (Meistr, ôl-raddedig a addysgir neu ymchwil, PhD) sydd wedi’u cofrestru ar hyn o bryd ym Mhrifysgol Bangor. Nid oes angen i chi fod yn gwsmeriaid Santander i wneud cais.
Rhaid i chi roi manylion am sut rydych yn bwriadu gwario’r wobr symudedd a sut y bydd hyn yn gwella eich astudiaethau / ymchwil a’ch cyflogadwyedd.
Rhaid cwblhau’r holl weithgarwch a ariennir cyn dechrau’r flwyddyn academaidd nesaf.
Rhoddir y cyllid fel arian parod a gellir ei wario ar unrhyw beth sy’n cefnogi symudedd yr enillydd, gan gynnwys costau teithio, costau cynadleddau, gweithgareddau datblygiad proffesiynol, profiad gwaith ac unrhyw gostau perthnasol eraill.
Bydd y 5 grant yn cael eu dyrannu ar sail hap gan Brifysgol Bangor (yn amodol ar fodloni trothwy ansawdd lleiaf).
Yn ogystal â 4 gwobr o £1000, ac yn ôl disgresiwn Prifysgol Bangor, bydd un wobr symudedd o £1350 ar gael i’r cais gorau.
Mae ceisiadau ar agor nawr tan 18 Gorffennaf 2025, gyda’r ymgeiswyr llwyddiannus yn cael gwybod erbyn 25 Gorffennaf 2025.
I wneud cais, rhaid i ymgeiswyr fynd i blatfform Santander Open Academy, lle bydd angen i chi gofrestru cyfrif. Ar ôl cofrestru, byddwch yn derbyn e-bost cadarnhau. Yna gallwch lenwi ffurflen gais fer a gwneud cais am y grant.
Ymgeisio a dethol: defnyddiwch y ddolen hon i gofrestru a gwneud cais.