Ysgoloriaeth Ol-Raddedig Price Davies (Cronfa Etifeddiaeth Y Werin)
Darperir Ysgoloriaethau Price Davies (sydd hefyd yn ymgorffori Ysgoloriaethau Mynediad Price Davies) o incwm cymynrodd a wnaed i Brifysgol Cymru yn 1900 gan y diweddar Mr Price Davies o Leeds.
O ran ysgoloriaethau a ddyfernir yn 2025/26 rhaid i ymgeiswyr fod yn dilyn cynllun astudio gradd ymchwil ôl-radd yn y Celfyddydau neu mewn Gwyddoniaeth ym Mhrifysgol Bangor.
Meini prawf cymhwysedd ar gyfer ysgoloriaethau Price Davies a ddyfarnwyd yn 2025/26
Rhaid i ymgeiswyr fod yn astudio doethuriaeth mewn unrhyw bwnc o fewn y Celfyddydau neu Wyddoniaeth ym Mhrifysgol Bangor.
Rhaid i ymgeiswyr fod ar eu hail neu drydedd flwyddyn o'u PhD. Nid yw ymgeiswyr ar flwyddyn gyntaf eu PhD yn gymwys i wneud cais.
Rhaid i ymgeiswyr fod yn hunan-ariannu ac ni ddylent fod yn derbyn unrhyw gyllid cyhoeddus na phreifat i gefnogi eu hymchwil PhD.
Rhaid i ymgeiswyr gael cefnogaeth trwy lofnod eu goruchwyliwr/goruchwylwyr ar y ffurflen gais, fel sicrwydd bod y PhD yn mynd rhagddo.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae pedair ysgoloriaeth gwerth £5,000 yr un ar gael. Bydd ymgeiswyr cymwys yn cael eu dewis drwy gystadleuaeth agored.
Rhaid cyflwyno ceisiadau i'r Ysgol Ddoethurol (pgr@bangor.ac.uk) erbyn hanner nos (BST) fan bellaf Ddydd Llun 8 Medi 2025. Ni fydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu hadolygu.