Modiwl CXC-1008:
Llên a Llun
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Arts, Culture and Language
10.000 Credyd neu 5.000 Credyd ECTS
Semester 2
Trefnydd: Prof Gerwyn Wiliams
Amcanion cyffredinol
Modiwl yw hwn ar gyfer myfyrwyr y mae’r Gymraeg yn ail iaith iddynt. Mewn cyfres o seminarau, trafodir yn fanwl nifer o destunau llenyddol a llunyddol diweddar, e.e. nofel, cyfrol o storïau byrion, casgliad o gerddi, drama lwyfan neu deledu, ffilm. Sylwir yn arbennig ar ddefnydd o iaith, prif nodweddion y genre dan drafodaeth, meistrolaeth yr awdur ar ei ffurf ddewisedig, y technegau a’r arddulliau a ddefnyddir, gweledigaeth yr awdur unigol. Disgwylir i’r myfyrwyr gyfrannu i’r drafodaeth ar y gweithiau a astudir er mwyn datblygu eu medrau llafar a chryfhau eu cyneddfau beirniadol.
Gellir cofrestru i ddilyn y modiwl hwn wyneb yn wyneb a/neu ar-lein, e.e. drwy Microsoft Teams neu Blackboard Collaborate.
Cynnwys cwrs
Modiwl yw hwn ar gyfer myfyrwyr y mae’r Gymraeg yn ail iaith iddynt. Mewn cyfres o seminarau, trafodir yn fanwl bedwar testun llenyddol a llunyddol diweddar, e.e. nofel, cyfrol o storïau byrion, casgliad o gerddi, drama lwyfan neu deledu, ffilm. Sylwir yn arbennig ar ddefnydd o iaith, prif nodweddion y genre dan drafodaeth, meistrolaeth yr awdur ar ei ffurf ddewisedig, y technegau a’r arddulliau a ddefnyddir, gweledigaeth yr awdur unigol. Disgwylir i’r myfyrwyr gyfrannu i’r drafodaeth ar y gweithiau a astudir er mwyn datblygu eu medrau llafar a chryfhau eu cyneddfau beirniadol.
Gellir cofrestru i ddilyn y modiwl hwn wyneb yn wyneb a/neu ar-lein, e.e. drwy Microsoft Teams neu Blackboard Collaborate.
Meini Prawf
trothwy
D- i D+
- Dangos gallu i drafod testunau llenyddol a llunyddol ar lafar
- Dangosgallu i fynegi ymateb beirniadol i destunau llenyddol a llunyddol yn ysgrifenedig
- Dangos gallu i gynllunio traethawd a chyflwyno dadl drefnus ac eglur
- Dangos gafael ar y Gymraeg.
ardderchog
A- i A*
- Dangos gallu sicr i drafod testunau llenyddol a llunyddol ar lafar
- Dangos gallu sicr i fynegi ymateb beirniadol i destunau llenyddol a llunyddol yn ysgrifenedig
- Dangos gallu sicr i gynllunio traethawd a chyflwyno dadl drefnus ac eglur
- Dangos gafael sicr ar y Gymraeg.
da
B- i B+
- Dangos gallu da i drafod testunau llenyddol a llunyddol ar lafar
- Dangos gallu da i fynegi ymateb beirniadol i destunau llenyddol a llunyddol yn ysgrifenedig
- Dangos gallu da i gynllunio traethawd a chyflwyno dadl drefnus ac eglur
- Dangos gafael dda ar y Gymraeg.
Canlyniad dysgu
-
Ymateb ar lafar i weithiau llenyddol a llunyddol diweddar
-
Cyflwyno dadleuon trefnus ac eglur mewn traethodau.
-
Ymateb yn feirniadol mewn traethodau.
-
Cyflwyno ymateb mewn iaith ac arddull dderbyniol.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Traethawd | 30.00 | ||
Cyfraniad Llafar | 20.00 | ||
Arholiad | 50.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Seminar | Seminarau dosbarth |
22 |
Private study | Astudio unigol |
78 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- Q562: BA Cymraeg year 1 (BA/CYM)
- Q565: BA Cymraeg (4 year) year 1 (BA/CYM4)
- Q565: BA Cymraeg (4 year) year 2 (BA/CYM4)