Modiwl CXC-4006:
Creu'r Celt Modern
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Arts, Culture and Language
40.000 Credyd neu 20.000 Credyd ECTS
Trefnydd: Dr Aled Llion Jones
Amcanion cyffredinol
Yn y modiwl hwn, edrychir a sut y ffurfiwyd ac a ddefnyddiwyd (a gwrthodwyd) y cysyniad o’r ‘Celt’ a’r ‘Celtaidd’ yn y cyfnod Modern, dros ystod o ddisgyblaethau (e.e., ieithyddiaeth, archaeoleg, anthropoleg, celf, cerddoriaeth, llenyddiaeth, gwleidyddiaeth). Edrychir ar yr hyn a ystyrir yn ddeunydd ‘Celtaidd’ yn y gwahanol feysydd, a thrafodir y prif-ddadleuon a gafwyd wrth bennu ystyr i’r term. Ystyrir y rhesymau syniadaethol dros yr awydd i ddefnyddio’r cysyniadau hyn, a dylanwadau hyn oll ar hunaniaeth(au) ethnig a chenedlaethol y ‘Celtiaid’ eu hunain. Mae’r modiwl yma yn cyd-redeg â modiwl ‘The Celt: Sources of Evidence’, sydd yn graidd i’r MA ‘Y Celtiaid – The Celts’, ac mae’r modiwl yma’n symud y ffocws o’r empeiraidd i’r dehongliad, a’r defnydd o’r deongliadau hynny.
Cynnwys cwrs
Edrychir ar agweddau ar bedwar prif faes: 1. Agweddau newidiol tuag at y ‘Celt’ mewn rhai meysydd academaidd. Hynny yw, datblygiadau methodolegol a syniadol mewn Ieithyddiaeth, Archaeoleg, Anthropoleg Gorfforol. 2. Y ‘Celtaidd’ yn y cyfryngau celfyddydol ar wahân i lenyddiaeth (yn enwedig Celf, Cerddoriaeth) 3. Y ‘Celtaidd’ yng nghyfnod Rhamantiaeth, gan ystyried sut yr aethpwyd ati i ail-ddarganfod ac ail-ddehongli llenyddiaeth ganoloesol (llenyddiaeth Gymraeg a Gwyddeleg yn enwedig); gellir edrychir ar ffigyrau megis Ossian, Iolo Morganwg a hefyd ar ddatblygiad Astudiaethau Celtaidd academaidd ym mhrifysgolion Ewrop. 4. Y ‘Celt’ gwleidyddol: theorïau cenedlaetholdeb, a’r rhannau a chwaraeodd (ac a chwery) ‘Celtigrwydd’ yn y byd gwleidyddol o’r 19-21g.
Bydd myfyrwyr hefyd yn datblygu eu sgiliau ieithyddol (fel arfer drwy astudiaeth bellach o Gymraeg Canol neu'r Wyddeleg).
Meini Prawf
trothwy
Bydd myfyrwyr trothwyol (graddau C/50%) yn arddangos rhychwant o wybodaeth briodol – neu ddyfnder priodol – mewn o leiaf rannau o’r maes perthnasol, a byddant yn llwyddo’n rhannol o leiaf i greu dadl sy’n mynd i’r afael â’r pynciau a drafodir yn y traethodau. Byddant yn dangos ymwybyddiaeth o’r mathau o dystiolaeth graidd sydd ar gael, ac o’r ffordd y gellir defnyddio a dehongli’r dystiolaeth.
da
Da Bydd myfyrwyr da (graddau B/60%) yn arddangos galluoedd sicr yn yr holl agweddau a nodwyd yn y paragraff uchod.
ardderchog
Rhagorol Bydd myfyrwyr ardderchog (graddau A/70%) yn arddangos y galluoedd sicr hyn ar draws y meini prawf, yn ogystal â dyfnder arbennig yn eu gwybodaeth a/neu gywreinrwydd eu dadansoddi.
Canlyniad dysgu
-
Bydd ganddynt ddealltwriaeth ddatblygiedig o'r ieithoedd Celtaidd (ac yn enwedig Cymraeg Canol a/neu'r Wyddeleg).
-
Byddant yn cynllunio, strwythuro a chwblhau dau draethawd academaidd fydd yn archwilio i agweddau penodol o’r maes.
-
Byddant hefyd yn gallu cyflwyno a thrafod ar lafar faes yr astudiaeth unigol.
-
Bydd y myfyrwyr yn deall sut y ffurfiwyd ac y defnyddiwyd y cysyniad o’r ‘Celt’ a’r ‘Celtaidd’ yn y cyfnod Modern.
-
Byddant yn datblygu a chymhwyso medrau ymchwil at y maes penodol hwn, gan ddatblygu dealltwriaeth amryw o berspectifau ar ‘Y Celtiaid’ ar draws ystod o ddisgyblaethau a disgyrsiau, gan lunio barn ddatblygedig ar y syniadau a theorïau newidiol hyn.
-
Byddant yn gallu cyflwyno dadleuon clir a dealladwy sy’n seiliedig ar dystiolaeth, am werth a phwrpas y gwahanol agweddau cysyniadol, gwleidyddol ac ideolegol a fabwysiadwyd tuag at ‘Y Celtiaid’.
Dulliau asesu
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Seminar | Seminarau’r modiwl, 11 x 2 awr |
22 |
Private study | 378 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Rhifedd - Medrusrwydd wrth ddefnyddio rhifau ar lefelau priodol o gywirdeb
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Mentora - Gallu cefnogi, helpu, arwain, ysbrydoli ac/neu hyfforddi eraill
- Rheloaeth - Gallu defnyddio, cydlynu a rheoli adnoddau (dynol, ffisegol ac/neu ariannol)
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Adnoddau
Rhestrau Darllen Bangor (Talis)
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/cxc-4006.htmlCyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Opsiynol mewn cyrsiau:
- Q3AB: MA Arthurian Literature year 1 (MA/ALI)
- Q5AQ: MA The Celts year 1 (MA/CEL)