Modiwl CXC-4016:
Hanes y Gymraeg
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Arts, Culture and Language
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Trefnydd: Prof Peredur Lynch
Amcanion cyffredinol
Bydd y modiwl hwn yn archwilio hanes yr iaith Gymraeg o’r 6g. hyd at y 19g. ac fe’i cynlluniwyd yn benodol fel bod modd i rai sydd heb wybodaeth flaenorol am y maes ei ddilyn. Yn rhan gyntaf y cwrs ceisir lleoli’r Gymraeg yn ei pherthynas â’r ieithoedd Celtaidd eraill a thrafodir y dystiolaeth gynharaf sy’n tystio i’w bodolaeth. Bydd ail ran y cwrs yn cynnig gorolwg hanesyddol o hynt y Gymraeg ac yn olrhain y ffactorau diwylliannol, gwleidyddol ac economaidd a ddylanwadodd ar ei hanes hyd at y 19g. Y pwnc olaf a drafodir – a hynny, unwaith eto, mewn cyd-destun hanesyddol eang – yw’r berthynas rhwng tafodieithoedd y Gymraeg a’i chyweiriau ysgrifenedig.
Cynnwys cwrs
Bydd tair rhan i’r cwrs:
Rhan I Yn y rhan gyntaf edrychir ar hanes cynnar y Gymraeg gan roi sylw penodol i’r materion a ganlyn: 1. Y Celtiaid a’r Ieithoedd Celtaidd; 2. Y Frythoneg a’r Gymraeg; 3. Ffynonellau cynharaf yr iaith.
Rhan II Yn yr ail ran archwilir cyd-destun diwylliannol, economaidd a gwleidyddol hanes yr iaith hyd at y 19g., gan roi sylw penodol i’r materion a ganlyn: 1. Y Gymraeg hyd 1536 2. Y Tuduriaid: achubwyr yr iaith? 3. Y Gymraeg a’r Chwyldro Diwydiannol.
Rhan III Yn y drydedd ran cynigir arolwg o’r berthynas rhwng cyweiriau llafar a llenyddol yr iaith, gan roi sylw penodol i’r materion a ganlyn: 1. Tafodieithoedd y Gymraeg; 2. memrwn, argraffwasg ac orgraff: datblygiad yr iaith lenyddol; 3. John Morris-Jones a ‘safoni’ iaith.
Meini Prawf
trothwy
Trothwy C/50%: Dangos cynefindra â rhai o’r prif agweddau ar hanes y Gymraeg a gyflwynir yn y modiwl hwn. Dangos gallu i gloriannu ffynonellau cynradd ac eilaidd perthnasol i’r maes. Dangos gallu i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonol. Dangos gallu i grynhoi syniadau a dadleuon pobl eraill.
da
Da B/60%: Dangos cynefindra â nifer dda o'r o’r prif agweddau ar hanes y Gymraeg a gyflwynir yn y modiwl hwn. Dangos gallu i gloriannu ffynonellau cynradd ac eilaidd perthnasol i’r maes yn ddeallus ac yn gytbwys a'u defnyddio'n bwrpasol. Dangos gallu i ymateb i farn, i fynegi barn bersonol gytbwys, ac i gyflwyno a datblygu dadl, yn glir ac yn rhesymegol. Dangos gallu i grynhoi syniadau a dadleuon pobl eraill yn deg ac yn gytbwys.
ardderchog
Rhagorol A/70%: Dangos meistrolaeth ar rychwant eang o'r prif agweddau ar hanes y Gymraeg a gyflwynir yn y modiwl hwn. Dangos gallu datblygedig i gloriannu ffynonellau cynradd ac eilaidd perthnasol i’r maes yn dreiddgar ac yn gytbwys a'u defnyddio'n bwrpasol. Dangos gallu datblygedig i ymateb i farn, i fynegi barn bersonol aeddfed ac annibynnol, ac i gyflwyno a datblygu dadl estynedig, yn glir, yn rhesymegol ac yn gydlynus. Dangos gallu datblygedig i grynhoi syniadau a dadleuon pobl eraill yn deg ac yn gytbwys.
Canlyniad dysgu
-
lleoli’r Gymraeg oddi mewn i’r teulu ieithyddol Celtaidd;
-
trafod rhai o’r prif ffynonellau sy’n ymwneud â hanes cynnar y Gymraeg;
-
dadansoddi’n feirniadol gyd-destun diwylliannol, economaidd a gwleidyddol hanes y Gymraeg hyd at y 19g.;
-
arddangos gwybodaeth o’r ffactorau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd a ddylanwadodd ar hynt y Gymraeg hyd at y 19g.
-
arddangos dealltwriaeth, a hynny mewn cyd-destun hanesyddol, o’r berthynas rhwng y llafar a’r llenyddol yn achos y Gymraeg;
Dulliau asesu
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Darlithoedd: 12 awr |
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Opsiynol mewn cyrsiau:
- L4AA: MA Language Policy and Planning year 1 (MA/LAPP)
- L4AJ: MA Polisi a Chynllunio Ieithyddol year 1 (MA/PCI)