Modiwl HAC-3016:
Y Gaethfasnach Drawsatlantig
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of History, Law and Social Sciences
20.000 Credydau neu 10.000 Credyd ECTS
Semester2
Trefnydd: Dr Gareth Evans-Jones
Amcanion cyffredinol
Amcan a phwrpas y modiwl hwn yw astudio’n fanwl ddatblygiad a dirywiad y gaethfasnach drawsatlantig yn ystod y cyfnod 1440 – 1880. Roedd y cyfnod hwn yn gyfnod nodedig gan i filiynau o Affricaniaid gael eu dadleoli o’u mamwlad a’u gosod mewn cyd-destunau cymdeithasol, syniadaethol ac ieithyddol tra gwahanol. Bydd y modiwl hwn yn ystyried sut y datblygodd y gaethfasnach hon ar hyd y blynyddoedd gan archwilio rôl crefydd yn ei sefydlu, ei chynnal a’i dilead – yn enwedig safbwyntiau’r Cristnogion a gefnogai’r gaethfasnach ynghyd â’r diddymwyr Cristnogol. Wedi trafod amryw agweddau eraill, megis natur y Fordaith Ganol, bywyd yn y ‘Byd Newydd’, naratifau a chaneuon y caethion, ynghyd â’r mudiad diddymol, bydd y modiwl yn darfod drwy ystyried natur iawndaliadau, ynghyd ag archwilio y wir effaith a gafodd rhyddhau’r caethion – a gawsent eu derbyn gan gymdeithas ynteu a fu i’w rhyddid esgor ar agweddau negyddol eraill?
Cynnwys cwrs
Bydd y modiwl hwn yn archwilio amrywiaeth o destunau mewn cryn fanylder, megis: diffinio caethwasiaeth a’r byd trawsatlantig, natur y Fordaith Ganol, bywyd yn y ‘Byd Newydd’, naratifau a chaneuon y caethion, y berthynas rhwng y gaethfasnach a chrefydd (yn arbennig felly Gristnogaeth), y mudiad diddymol a dirywiad graddol y gaethfasnach, ynghyd â natur ac effaith iawndaliadau, yn ogystal ag ystyried sefyllfa’r cyn-gaethion yn ail hanner y 19eg ganrif.
Meini Prawf
trothwy
D- i D+ Cyflwynwyd gwaith sydd yn ddigonol ac sydd yn dangos lefel dderbyniol o allu yn y meysydd canlynol: • Yn gywir ar y cyfan ond yn cynnwys diffyg gwybodaeth neu gamgymeriadau. • Gwneir honiadau heb wybodaeth gefnogol neu resymeg eglur. • Yn cynnwys strwythur ond yn aneglur ac felly’n dibynnu ar i’r darllenydd ddwyn cysylltiadau a thybiaethau. • Yn dibynnu ar nifer gyfyngedig o ddeunydd.
dda
B- i B+ Cyflwynwyd gwaith sydd yn dda drwyddi draw ac sy’n cynnwys arddull, dull a detholiad o ddeunyddiau cefnogol mewn modd deheuig. Mae’n dangos: • Strwythur dda iawn a dadleuon a ddatblygwyd yn rhesymegol. • Defnydd o ddeunydd sy’n tystio i ymchwil annibynnol, neu sydd mewn ffordd yn unigryw i’r myfyriwr. • Cefnogir honiadau gan dystiolaeth ac ymresymiad cadarn. • Gwaith sy’n gywir ac sy’n cynnwys arddull academaidd briodol.
C- i C+
C- i C+ Cyflwynwyd gwaith sydd yn dda drwyddi draw ac sy’n cynnwys, ar brydiau, arddull, dull a detholiad o ddeunyddiau cefnogol yn ddeheuig. Mae’n dangos: • Strwythur dda a dadleuon a ddatblygwyd yn rhesymegol. • Mewn mannau, defnydd beirniadol o ddeunydd sy’n tystio i ymchwil annibynnol, neu sydd mewn ffordd yn unigryw i’r myfyriwr. • Gwneir honiadau sydd, ar y cyfan, wedi eu cefnogi gan dystiolaeth ac ymresymiad cadarn. • Gwaith sy’n gywir ac sy’n cynnwys arddull academaidd briodol.
rhagorol
DA- i A* Cyflwynwyd gwaith sydd o ansawdd ragorol ac sy’n ardderchog mewn un neu fwy o’r canlynol: • Cynnwys dehongliad gwreiddiol lle mae myfyrdod annibynnol y myfyriwr yn amlwg. • Darparu tystiolaeth eglur o astudiaeth annibynnol eang a phriodol. • Cyflwyno dadleuon yn eglur ac yn darparu’r darllenydd gyda thrafodaethau sy’n dilyn ei gilydd yn rhesymegol hyd at y casgliadau.
Canlyniad dysgu
-
• Arddangos gwerthfawrogiad beirniadol o gymhlethdod ail-greu’r gorffennol, a natur broblemus ac amrywiol tystiolaeth hanesyddol am y gaethfasnach drawsatlantig.
-
• Arddangos dadansoddiad manwl o bersbectifau cymharol, a allai olygu’r gallu i gymharu hanes gwahanol wledydd, cymdeithasau neu ddiwylliannau cysylltiedig â’r gaethfasnach drawsatlantig neu a effeithiwyd ganddi.
-
• Disgrifio, trafod ac arddangos ymwybyddiaeth feirniadol o’r agweddau gwleidyddol, cymdeithasol, testunol, athroniaethol., hanesyddol, diwinyddol, moesegol a sefydliadol ar dwf a chwymp y gaethfasnach drawsatlantig.
-
• Gwerthuso a dadansoddi’n feirniadol amrediad o ffynonellau cynradd ac eilaidd, gan gynnwys deunyddiau diwinyddol, llenyddol, cofnodion economaidd a dogfennau cyfreithiol, gan gynnwys deunyddiau hanes, crefydd a phan fo’n briodol, bynciau perthnasol megis y dyniaethau neu wyddorau cymdeithas.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Traethawd 2'500 gair | 70.00 | ||
Cyflwyniad llafar 10 munud | 30.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Lecture | Disgwylir i fyfyrwyr fynychu 33 awr o addysgu ffurfiol. Bydd y darlithoedd (awr yr un) yn cynnig trosolwg eang a manwl o wahanol elfennau cysylltiedig â'r gaethfasnach drawsatlatntig, gan gynnwys hanes, crefydd, cymdeithaseg, diwylliant, gwleidyddiaeth ac economi. |
33 |
Private study | Disgwylir i fyfyrwyr wneud gwerth 167 awr o astudiaeth annibynnol. Er mwyn cyfoethogi hyn, bydd cydlynydd y modiwl yn darparu myfyrwyr â rhestr ddarllen briodol ynghyd â dosbarthu eitemau priodol, megis erthyglau ysgolheigaidd, ffynonellau cynradd a ffynonellau eilaidd. |
167 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Literacy - Proficiency in reading and writing through a variety of media
- Computer Literacy - Proficiency in using a varied range of computer software
- Self-Management - Able to work unsupervised in an efficient, punctual and structured manner. To examine the outcomes of tasks and events, and judge levels of quality and importance
- Exploring - Able to investigate, research and consider alternatives
- Information retrieval - Able to access different and multiple sources of information
- Critical analysis & Problem Solving - Able to deconstruct and analyse problems or complex situations. To find solutions to problems through analyses and exploration of all possibilities using appropriate methods, rescources and creativity.
- Presentation - Able to clearly present information and explanations to an audience. Through the written or oral mode of communication accurately and concisely.
- Management - Able to utilise, coordinate and control resources (human, physical and/or financial)
- Argument - Able to put forward, debate and justify an opinion or a course of action, with an individual or in a wider group setting
- Self-awareness & Reflectivity - Having an awareness of your own strengths, weaknesses, aims and objectives. Able to regularly review, evaluate and reflect upon the performance of yourself and others
Adnoddau
Rhestr ddarllen Talis
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/hac-3016.htmlRhestr ddarllen
Baucom, Ian. 2005. Specters of the Atlantic: finance capital, slavery, and the philosophy of history. Durham: Duke University Press.
Evans, Chris. 2010. Slave Wales: The Welsh and Atlantic Slavery, 1660-1850. Cardiff: Cardiff University Press.
Klein, Herbert S. 1999. The Atlantic Slave Trade. Cambridge: Cambridge University Press.
Morgan, Kenneth. 2000. Slavery, Atlantic Trade and the British Economy, 1660-1800. Oxford: Oxford University Press.
Murray, David. 1980. Odious Commerce: Britain, Spain and the abolition of the Cuban slave trade. Cambridge: Cambridge University Press.
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Opsiynol mewn cyrsiau:
- LM40: BA Sociology & Criminology & Crim Just with International Ex year 4 (BA/SCJIE)
- LM39: BA Sociology and Criminology & Criminal Justice year 3 (BA/SCR)