Modiwl MSC-2019:
Microbioleg Meddygol
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Medical and Health Sciences
10.000 Credyd neu 5.000 Credyd ECTS
Semester 2
Trefnydd: Mr Merf Williams
Amcanion cyffredinol
Nod y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth o swyddogaeth labordy microbioleg feddygol yn y gwaith o archwilio ac adnabod bacteria a pharasitiaid sy'n feddygol bwysig. Caiff myfyrwyr gyflwyniad i egwyddorion damcaniaethol amrywiaeth o grwpiau bacteriol a pharasitig o bwys a chymhwysiad ymarferol amrywiaeth o ddulliau microbiolegol a ddefnyddir mewn labordai i roi diagnosis o heintiau bacteriol dynol. Bydd defnyddio astudiaethau achos yn galluogi myfyrwyr i ddefnyddio'r wybodaeth ddamcaniaethol a ddysgwyd i ddeall y newidiadau patholegol sy'n digwydd mewn heintiau clinigol a achosir gan rai o'r bacteria a'r parasitiaid a astudir yn y modiwl hwn ac yn rhoi'r wybodaeth rhagofynnol angenrheidiol i astudio microbioleg a heintiau dynol yn y drydedd flwyddyn
Cynnwys cwrs
Astudio rhai prif grwpiau o facteria a pharasitiaid sydd yn bwysig yn y maes heintiau dynol. Deall y prif gysyniadau a ddefnyddir i archwilio a rhoi diagnosis o heintiau mewn labordy microbioleg feddygol.
Meini Prawf
ardderchog
Dylai bod myfyriwr rhagorol yn gallu dangos y sgiliau angenrheidiol ar gyfer dysgu ar ei ben ei hun a dysgu gydol oes (gweithio'n annibynnol, rheoli amser a chael trefn) a bod â dealltwriaeth drylwyr a manwl o bob agwedd ar y modiwl. Dylai atebion ysgrifenedig fod o safon uchel iawn o ran cyflwyniad, strwythur ac eglurder gydag ymdriniaeth dda iawn o wybodaeth gywir a pherthnasol.
trothwy
Dylai bod gan fyfyriwr trothwy ddealltwriaeth sylfaenol o'r ffeithiau a'r prif gysyniadau ym maes microbioleg feddygol a gyflwynir yn y modiwl hwn. Dylai atebion ysgrifenedig ddangos y gallu i drefnu cynnwys perthnasol y darlithoedd i greu dadl resymegol
da
Dylai bod gan fyfyriwr da ddealltwriaeth ffeithiol drylwyr o bob agwedd ar y modiwl a dylai fod yn gallu rhoi enghreifftiau lle y bydd yn addas. Dylai atebion ysgrifenedig ddangos gallu i grynhoi'n feirniadol cynnwys y darlithoedd a gwybodaeth yn deillio o ddarllen cefndirol.
Canlyniad dysgu
-
Esbonio egwyddorion Sicrwydd Ansawdd ac arfer labordy da.
-
Disgrifiwch egwyddorion rhai o'r profion labordy Microbioleg Feddygol a ddefnyddir amlaf a'u harwyddocâd diagnostig.
-
Dangos dealltwriaeth o rôl Microbioleg Feddygol yng ngweithrediad labordy Patholeg o ddydd i ddydd.
-
Dangos gwybodaeth o ddatblygiad, diagnosis a thriniaeth afiechydon amrywiol a astudiwyd yn y modiwl hwn.
-
Cynhyrchu adroddiad ymarferol Microbioleg Feddygol a phrosesu, dogfennu a dehongli'r data a roddir neu a gafwyd.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Mid module MCQ test | 0.00 | ||
Adroddiad ymarfer labordy | 40.00 | ||
Arholiad diwedd modiwl | 60.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Lecture | Un awr ar bymtheg o ddarlithoedd fydd yn cael eu recordio ar panopto hefyd er mwyn hwyluso adolygu. |
16 |
Laboratory | Dwy sesiwn ymarferol mewn labordy yn para 3 awr yr un. Bydd y sesiwn cyntaf yn dangos defnydd o sustemau a phrofion i gadarnhau adnabyddiaeth bacteria. |
6 |
Tutorial | Tiwtorialau adolygu cyn profion a gynhelir yn y dosbarth er mwyn gwirio gwybodaeth ffeithiol ac ysgogi adolygu cefndirol. |
2 |
Private study | Caiff myfyrwyr hefyd eu cyfeirio at lenyddiaeth, adrannau llyfrau ac adnoddau electronig gwreiddiol perthnasol, a disgwylir iddynt eu darllen yn ystod yr amser astudio personol a ddynodir iddynt. Cânt hefyd eu hannog i chwilio am lenyddiaeth eu hunain gan ddefnyddio'r peiriant chwilio Web of Science. Cefnogir hunan astudio trwy negeseuon e-bost a thrafodaeth yn ystod tiwtorialau adolygu. |
76 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Rhifedd - Medrusrwydd wrth ddefnyddio rhifau ar lefelau priodol o gywirdeb
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Ymwybyddiaeth o ddiogelwch - Bod yn ymwybodol o'ch amgylchedd a hyder o ran cadw at reoliadau iechyd a diogelwch
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Sgiliau pwnc penodol
The programme aims to give students a comprehension of scientific investigation of Medical Microbiology. (benchmarks: 5.1; 5.3; 5.5)
On successful completion of the course, students will be able to engage with essential facts, major concepts, principles and theories associated with medical microbiology, and understand the biological mechanisms underlying human pathological conditions and the basis of the analytical techniques used to diagnose and monitor these conditions. (benchmark: 6.4)
Be able to undertake practical investigations in a responsible, safe and ethical manner while paying attention to risk assessment, relevant health and safety regulations, ethical issues, procedures for obtaining ethical permission and informed consent and issues relating to patient welfare. (benchmark: 4.3)
Graduates will be able to apply their knowledge to a professional, evidence-based approach to research into the pathogenesis and origins of disease processes. (benchmark: 6.2)
Biomedical science graduates are aware of the current laboratory methods to investigate and diagnose human diseases in clinical and research environments. This includes an appreciation of research and the development of new technologies. (benchmark: 6.3)
Biomedical sciences graduates should recognise and apply subject-specific theories, paradigms, concepts or principles to reach evidence-based decisions. (benchmark: 4.2)
To be able to receive and respond to a variety of sources of information (textual, numerical, verbal, graphical), carry out sample selection, produce record scientific records & analyse data within a statistical context (an understanding of statistical significance and statistical power), and to communicate the outcomes to a variety of audiences using a range of formats, media and approaches including the avoidance of plagiarism. (benchmark: 4.4; 4.5)
Graduates should develop the skills necessary for self-managed and lifelong learning, have an appreciation for the role and impact of intellectual property, and identify and work towards targets for personal, academic, professional and career development. (benchmark: 4.7)
Additional subject specific skills not listed above.
Adnoddau
Goblygiadau o ran adnoddau ar gyfer myfyrwyr
Dim, ond awgrymir y dyali'r myfyrwyr ymuno a e-membership yr IBMS ar gost o £10 y flwyddyn.
Rhestrau Darllen Bangor (Talis)
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/msc-2019.htmlCyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Opsiynol mewn cyrsiau:
- C100: BSC Biology year 2 (BSC/B)
- C10F: BSc Biology year 2 (BSC/BF)
- C511: BSc Biology with Biotechnology year 2 (BSC/BIOT)
- C512: BSc Biology with Biotechnology with International Experience year 3 (BSC/BIOTIE)
- C102: BSc Biology (with International Experience) year 3 (BSC/BITE)
- C101: MBiol Master of Biology year 2 (MBIOL/BIO)
- C510: MBiol Biology with Biotechnology year 2 (MBIOL/BIOT)