Modiwl SCL-3139:
Cyfraith Datganoli
Cyfraith Datganoli 2025-26
SCL-3139
2025-26
School Of History, Law And Social Sciences
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Lois Nash
Overview
Mae’r modiwl hwn yn archwilio cyfraith datganoli yng Nghymru a mannau eraill yn Ewrop, gan ganolbwyntio ar ei ddatblygiad hanesyddol o’r Statud Rhuddlan 1284 hyd at y broses drosglwyddo grym i sefydliadau Cymru yn y 20fed ganrif. Mae’r pynciau allweddol yn cynnwys Deddf Llywodraeth Cymru, Mesur yr Iaith Gymraeg, a’u gweithredu ar ôl datganoli, ynghyd â safbwyntiau academaidd arnynt. Mae’r cwrs hefyd yn archwilio datblygiad Cyfansoddiad Cymreig, awdurdodaeth Gymreig, a newidion cyfreithiol sy’n deillio o ddatganoli yn y DU, yn enwedig cyfraith weinyddol a chysylltiadau rhyng-lywodraethol. Ceir ystyriaeth i newidiadau gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a deallusol yng Nghymru, y DU, Ewrop ac ar draws y byd, gyda sylw penodol i ddatganoli yn yr Alban, Gogledd Iwerddon, cymunedau hunanreolaethol Sbaen a’r Länder yn Yr Almaen.
Mae’r cwrs yn edrych ar gyfraith datganoli yng Nghymru a mannau eraill yn Ewrop. Astudir datblygiad hanesyddol datganoli yng Nghymru; o effaith Statud Rhuddlan 1284 a'r Deddfau Uno yn yr unfed ganrif ar bymtheg i ddatganoli grym yn raddol i adrannau a swyddfeydd Cymreig yn yr ugeinfed ganrif. Ceir astudiaeth fanwl o Ddeddf Llywodraeth Cymru a Mesur yr Iaith Gymraeg (Cymru), ynghyd â’r modd y mae darpariaethau’r ystatudau hynny’n cael eu gweithredu yng Nghymru ar ôl datganoli, a barn ysgolheigaidd yn ymwneud â hynny. O ganlyniad, rhoddir ystyriaeth i ddatblygiad Cyfansoddiad Cymreig ac ymddangosiad awdurdodaeth Gymreig. Bydd datblygiadau cyfreithiol a arweinir gan ddatganoli hefyd yn cael eu hystyried yng nghyd-destun y DU; gweinyddu cyfiawnder, yn arbennig cyfraith weinyddol; a datblygiad cysylltiadau rhyng-lywodraethol yn y DU ac Ewrop. Drwy gydol y cwrs, bydd y datblygiadau cyfreithiol yn ymwneud â newidiadau gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a deallusol yng Nghymru, y Deyrnas Unedig, Ewrop a’r byd ehangach. Yn arbennig, rhoddir sylw i’r setliad datganoli yn Yr Alban; Gogledd Iwerddon; Cymunedau Hunanreolaethol Sbaen; y Länder yn Yr Almaen.
Assessment Strategy
-threshold -D- hyd at D+ Trothwy: Bydd myfyrwyr (D- hyd at D+) yn dangos sgiliau ymchwil boddhaol mewn rhannau o leiaf o'r pwnc a ddewiswyd ganddynt, a byddant yn gwneud ymdrechion rhannol lwyddiannus o leiaf i archwilio a dadansoddi'r wybodaeth ac i ysgrifennu'r project mewn dull academaidd.Ateb sy'n gywir gan fwyaf o ran cyflwyno deunydd, ond sy’n cynnwys lefel sylweddol o wallau, ac felly nid yw’n hollol ddibynadwy.
-good -B- hyd at B+ Da: Bydd myfyrwyr da (B- hyd at B+) yn llwyddo'n gadarn yn yr holl ddeilliannau dysgu a restrir.Ateb cynhwysfawr, yn cynnwys yr holl neu bron y cyfan o’r deunydd sy’n berthnasol i’r cwestiwn a dim amherthnasedd, neu ychydig iawn; yr holl ddeunydd a’r cyfeiriadau yn gywir at ei gilydd, heb ddim anghywirdeb na gwallau, gan gyflwyno’r cyfan mewn dadl glir, resymegol a beirniadol, ond sydd â lle i wella ei adeiladwaith a’i gyflwyniad. Ateb sy’n dangos hyfedredd llwyr yn y pwnc.
-excellent -A- hyd at A Rhagorol: Bydd myfyrwyr rhagorol (A- hyd at A) yn cyflawni'n gyson gadarn ar draws y deilliannau dysgu, ac yn cyfuno hyn â gwreiddioldeb, gwybodaeth eang o'r pwnc yn ei gyd-destun ehangach ynghyd â dadleuon a dadansoddiad treiddgar a soffistigedig.Ateb rhagorol, sy’n dangos meistrolaeth dros y pwnc dan sylw heb fawr ddim lle o gwbl i wella. Mae’r ateb yn cynnwys yr holl bwyntiau a dadleuon perthnasol, ynghyd â gwerthusiad llawn annibynnol ac aeddfed o’r testun, heb fawr ddim camgymeriadau neu gynnwys amherthnasol. Lle bo’n berthnasol, bydd yr ateb hefyd yn dangos tystiolaeth o werthusiad cymharol manwl o’r materion dan sylw. Bydd yr holl ddeunydd a chyfeiriadau (lle bo’n berthnasol) wedi’u cyflwyno bron yn berffaith yn yr ateb, a bydd yr ateb wedi’i lunio’n hynod dda ac yn rhagorol yn ramadegol yn Gymraeg/Saesneg.
-another level-C- i C+ Da/Boddhaol: Bydd myfyrwyr lefel C- i C+ yn llwyddo'n ddisgrifiadol yn yr holl ddeilliannau dysgu a restrir.Ateb sydd, er ei fod bob amser yn gywir gan fwyaf, serch hynny yn methu â gwahaniaethu rhwng deunydd perthnasol ac amherthnasol, ac sydd â diffyg beirniadaeth. Ateb sy’n ddibynadwy o ran cywirdeb, ond nad yw’n gynhwysfawr neu nad yw’n hollol berthnasol.
Learning Outcomes
- Cymharu'n wybodus datblygiad sefydliadau a meysydd cyfraith yng nghenhedloedd a rhanbarthau datganoledig y DU ac Ewrop, gan eu cysylltu â'u hachosion a’u heffeithiau gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd a deallusol
- Cynnal ymchwil gyfreithiol annibynnol yn fanwl, cywir ac effeithiol mewn perthynas â chyfraith datganoli yng Nghymru a mannau eraill yn Ewrop a fydd yn arwain at llunio, cyflwyno a cyfathrebu'n effeithiol dadl gyfreithiol resymegol yn ymwneud â materion yng nghyfraith datganoli.
- Dadansoddi'n fedrus ac yn feirniadol datblygiad sefydliadau a meysydd cyfraith yng Nghymru wedi datganoli, gan gyfeirio'n gywir at ffynonellau gwreiddiol ac eilaidd priodol, a gan gysylltu’r datblygiad â’i achosion a’i effeithiau gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd a deallusol.
- Gallu esbonio materion cyd-destunol ehangach yn ymwneud â gweithredu cyfraith datganoli yng Nghymru, e.e. y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a’r llywodraeth ganolog yn San Steffan.
Assessment method
Blog/Journal/Review
Assessment type
Summative
Description
Ysgrifennu blog yn trafod pwnc o fewn datblygiad datganoli yn y Deyrnas Unedig.
Weighting
40%
Due date
23/11/2022
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Summative
Description
Cyflwyniad llafar 10 munud gyda sleidiau yn trafod un elfen o'r modiwl gyda 2 funud ar gyfer cwestiynau.
Weighting
60%