Modiwl WXC-1120:
Dyfeisio Theatr
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Arts, Culture and Language
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 2
Trefnydd: Mrs Ffion Evans
Amcanion cyffredinol
Mae Creu Theatr yn gyfle i gael eich cyflwyno i faes pwnc theatr a pherfformio. Archwilio o fewn gweithdai ymarferol, sut i greu eich gwaith perfformio eich hun gyda grŵp o bobl eraill, sut y gall rhywun lunio drama wreiddiol, a datblygu fel actor, cyfarwyddwr, awdur, dylunydd… wrth wneud gwaith byw. Cewch eich cyflwyno i ddramâu clasurol, cyfoes, abswrd ac ysgrifennu rhai newydd ynghyd â sawl ymarferydd theatr sydd wedi ffurfio’r ffordd yr ydym yn gwneud ac yn gwylio gwaith perfformio byw heddiw. Archwilir prosesau cynhyrchu, cewch eich annog i fynd i weld perfformiadau byw a gwaith perfformio digidol gyda chyfle cyffrous i greu eich darn perfformio eich hun erbyn diwedd y tymor. Mae croeso i chi berfformio, ysgrifennu, cyfarwyddo'r gwaith perfformio a chael cyfle i archwilio ac arbrofi.
Cynnwys cwrs
- Beth yw perfformio?
- Beth yw’r elfennau sy’n gysylltiedig â pherfformio?
- Gwaddol hanesyddol a diwylliannol gwahanol draddodiadau yn y theatr.
- Sut mae gwahanol draddodiadau yn y theatr wedi herio a chyfoethogi’r syniad o berfformio a’r theatr.
Meini Prawf
da
Da iawn/Da B- i B+
• Gwybodaeth gynhwysfawr • Dealltwriaeth fanwl • Astudio cefndirol: • Ymateb ysgrifenedig neu berfformiad sydd â chanolbwynt ac wedi’i strwythuro’n dda • Rhan fwyaf o’r dadleuon wedi eu cyflwyno a’u hamddiffyn yn rhesymegol • Ychydig neu ddim gwallau ffeithiol/cyfrifiannol a pherfformiad sy’n argyhoeddi • Rhywfaint o ddehongliad gwreiddiol • Datblygu cysylltiadau newydd rhwng pynciau • Sgiliau grŵp cryf • Cyflwyniad da iawn gyda chyfathrebu cywir
ardderchog
Rhagorol (A- hyd A*):
• Gwybodaeth gynhwysfawr • Dealltwriaeth fanwl • Astudio cefndirol helaeth • Ymateb ysgrifenedig neu berfformiad sydd â chanolbwynt clir ac wedi’i strwythuro’n dda • Dadleuon wedi eu cyflwyno a’u hamddiffyn yn rhesymegol • Dim gwallau ffeithiol/cyfrifiannol a pherfformiad sy’n argyhoeddi • Dehongliad gwreiddiol • Datblygu cysylltiadau newydd rhwng pynciau • Sgiliau grŵp cryf • Cyflwyniad ardderchog gyda chyfathrebu manwl gywir
trothwy
Trothwy (D-, D, D+):
• Gwybodaeth am y prif feysydd/egwyddorion yn unig • Gwendidau yn y ddealltwriaeth o’r prif feysydd • Tystiolaeth gyfyngedig o astudio cefndirol • Perfformiad neu ymateb ysgrifenedig yn canolbwyntio’n wael ar y cwestiwn a chyda pheth deunydd amherthnasol a strwythur gwael • Cyflwynir dadleuon ond nid ydynt yn gydlynol • Sawl gwall ffeithiol/cyfrifiannol/perfformiad ddim yn argyhoeddi • Dim dehongli gwreiddiol • Dim ond y prif gysylltiadau rhwng pynciau a ddisgrifir • Sgiliau grŵp gwan • Llawer o wendidau mewn cyflwyno/perfformio a chywirdeb
C- i C+
Da / Boddhaol (C- i C +)
• Gwybodaeth am y prif feysydd/egwyddorion • Yn deall y prif feysydd • Tystiolaeth gyfyngedig o astudio cefndirol • Yr ymateb ysgrifenedig neu berfformiad yn canolbwyntio ar aseiniad ond hefyd gyda rhywfaint o ddeunydd amherthnasol a gwendidau yn y strwythur • Cyflwynir dadleuon ond nid ydynt yn gydlynol • Sawl gwall ffeithiol/cyfrifiannol/perfformiad ddim yn argyhoeddi ar y cyfan • Dim dehongli gwreiddiol • Dim ond y prif gysylltiadau rhwng pynciau a ddisgrifir • Datrys problemau cyfyngedig/gwaith tîm boddhaol • Rhai gwendidau mewn cyflwyno/perfformio a chywirdeb
Canlyniad dysgu
-
Disgrifio, dehongli a gwerthuso perfformiad ar draws amrywiaeth o ddigwyddiadau a safleoedd.
-
Dangos ymwybyddiaeth feirniadol o drafodaethau a dadleuon cyfredol ym maes theatr a pherfformio a bod yn gyfarwydd â gwaith nifer o fudiadau ac ymarferwyr arloesol.
-
Gallu gweithio’n effeithiol fel aelod o dîm cydweithredol mewn proses greadigol
-
Dangos ymwybyddiaeth o’r gyd-berthynas rhwng theori ac ymarfer ym maes astudiaethau perfformio ac o’r prosesau cysyniadol a chreadigol sy’n sail i ddeall a gwireddu perfformiad.
-
Dangos gallu i ddarllen a dehongli deunydd cefndir perthnasol a’r gallu i ddadansoddi testunau dramatig yn feirniadol
-
Dangos sgiliau sy'n ymwneud â chreu perfformiad, megis cyfarwyddo, actio, cynhyrchu, etc.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
TRAETHAWD | Dadansoddi Ymarfer Theatr | Ar ôl creu eich gwaith perfformio eich hun, bydd yr asesiad terfynol yn gyfle i rannu’n ysgrifenedig, pa ymchwil ddamcaniaethol a ddefnyddiwyd gennych wrth ddatblygu a chreu eich perfformiad? Pa effaith gafodd yr ymarfer ar eich dealltwriaeth o'r ymchwil hon a sut y bydd hyn yn effeithio ar waith yn y dyfodol fel actor, cyfarwyddwr, awdur, lluniwr ...? Wrth astudio ymarfer creadigol, bydd elfen bob amser o ddod â'r theori a'r ymarfer ynghyd, gan fod y naill bob amser yn dylanwadu ar y llall. Bydd yr asesiad hwn yn rhoi cyfle i chi ddechrau dysgu'r sgiliau gwerthfawr hyn trwy gydol eich gradd. |
30.00 |
ADDRODDIAD | Adolygiad Perfformio | Yn ystod y modiwl, bydd cyfle i ddeall proses beirniadaeth o’r theatr. Sut ydym yn mynd ati i wylio ac ystyried perfformiadau a rhannu'r wybodaeth honno? Byddwch yn cael cyfle i ddewis elfennau o berfformiad byw penodol i'w harchwilio a'u trafod. |
20.00 |
ARDDANGOSIAD/YMARFER | Dyfeisio Perfformiad Grwp | Ar ôl cymryd rhan mewn sawl gweithdy ymarferol ac astudio dramâu a thestunau penodol, bydd cyfle fel grŵp, i greu eich darn perfformio eich hun, wedi'i ysbrydoli gan y datblygiadau hyn. Gallwch berfformio, ysgrifennu, cyfarwyddo, dyfeisio, dylunio'r gwaith .. dysgu gweithio fel ensemble a datblygu prosesau ymarfer i sicrhau gwaith perfformio effeithiol. |
50.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Supervised time in studio/workshop | Cyfle i gael adborth ar ddatblygu gwaith ar y gweill. |
11 |
Private study | Astudio annibynnol i ddarllen a dadansoddi deunydd ymchwil, datblygu syniadau creadigol a pharatoi ar gyfer asesiadau. |
139 |
Practical classes and workshops | Gweithdai wedi'u cynllunio'n benodol i gefnogi astudio theatr gyfoes |
22 |
External visit | Cyfle i ymweld â pherfformiadau byw yn ogystal â deunydd digidol ar-lein o waith cynhyrchu i gefnogi syniadau. |
9 |
Seminar | Astudio sy'n canolbwyntio ar ymchwil i gefnogi gwybodaeth a dealltwriaeth ddamcaniaethol. |
8 |
Study group | Amser ymarfer a chynllunio mewn grwpiau ar gyfer gwaith cynhyrchu |
11 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Rhifedd - Medrusrwydd wrth ddefnyddio rhifau ar lefelau priodol o gywirdeb
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Ymwybyddiaeth o ddiogelwch - Bod yn ymwybodol o'ch amgylchedd a hyder o ran cadw at reoliadau iechyd a diogelwch
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Mentora - Gallu cefnogi, helpu, arwain, ysbrydoli ac/neu hyfforddi eraill
- Gofalu - Dangos consyrn am eraill; gofalu am blant, pobl ag anableddau ac/neu'r henoed
- Rheloaeth - Gallu defnyddio, cydlynu a rheoli adnoddau (dynol, ffisegol ac/neu ariannol)
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
- Arweinyddiaeth - Gallu arwain a rheoli, datblygu cynlluniau gweithredu ac amcanion, cynnig arweiniad a chyfarwyddyd i eraill, ac ymdopi â'r pwysau sy'n gysylltiedig ag awdurdod o'r fath
Sgiliau pwnc penodol
- Artistic engagement and ability to articulate complex ideas in oral and written forms. (NAWE Creative Writing Benchmark Statement 3.2).
- Ability to connect creative and critical ideas between and among forms, techniques and types of creative and critical praxis. (NAWE Creative Writing Benchmark Statement 3.2; English Benchmark Statement 3.2).
- Awareness of how different social and cultural contexts affect the nature of language and meaning (English Benchmark Statement 3.2).
- Reflective practitioner skills, including awareness of the practice of others in collaborative learning (NAWE Creative Writing Benchmark Statement 3.2; English Benchmark Statement 3.2).
- The ability to synthesize information from various sources, choosing and applying appropriate concepts and methods (English Benchmark Statement 3.3).
- Ability to formulate and solve problems, anticipate and accommodate change, and work within contexts of ambiguity, uncertainty and unfamiliarity (NAWE Creative Writing Benchmark Statement 3.2; English Benchmark Statement 3.3).
- Ability to engage in processes of drafting and redrafting texts to achieve clarity of expression and an appropriate style. (English Benchmark Statement 3.3; NAWE Creative Writing Benchmark Statement 3.2).
- Ability to gather information, analyse, interpret and discuss different viewpoints (NAWE Creative Writing Benchmark Statement 3.2; English Benchmark Statement 3.3).
- Re-creative skills – interpretation, innovation, versatility, and other skills relating to performance
- Creative skills – conception, elaboration, adaptation, presentation, collaboration, preservation
- Intellectual skills specific to Music – contextual knowledge, cultural awareness, critical understanding, repertoire knowledge, curiosity, analytical demonstration
- Technological skills – digital capture, digital expression, digital innovation
- Intellectual skills shared with other disciplines – research and exploration, reasoning and logic, understanding, critical judgement, assimilation and application
- Skills of communication and interaction – oral and written communication, public presentation, team-working and collaboration, awareness of professional protocols, sensitivity, ICT skills, etc.
- Skills of personal management – self-motivation, self-critical awareness, independence, entrepreneurship and employment skills, time management and reliability, organisation, etc.
- Enhanced powers of imagination and creativity (4.17)
Adnoddau
Goblygiadau o ran adnoddau ar gyfer myfyrwyr
Rhoddir gwybod i fyfyrwyr ymlaen llaw.
Rhestrau Darllen Bangor (Talis)
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/wxc-1120.htmlRhestr ddarllen
Bydd rhestr ddarllen yn cael ei chyflwyno cyn i'r modiwl ddechrau.
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- 32M8: BA English Literature with Theatre and Performance year 1 (BA/ELTP)
- P3W5: BA Film Studies with Theatre and Performance year 1 (BA/FSTP)
- P35W: Film Stud with Theatre & Performance with International Exp. year 1 (BA/FSTPIE)
- P3WL: BA Media Studies with Theatre and Performance year 1 (BA/MSTP)
- P3WB: BA Media Stud with Theatre & Perform (4yr with Incorp Found) year 1 (BA/MSTP1)
- W3W4: BA Music with Theatre & Performance year 1 (BA/MUSTP)
Opsiynol mewn cyrsiau:
- T103: BA Chinese and Creative Studies year 1 (BA/CHCS)
- WPQ1: BA Creative Studies (with International Experience) year 1 (BA/CSIE)
- WPQ0: BA Creative Studies year 1 (BA/CST)
- WPQB: BA Creative Studies (4 year with Incorporated Foundation) year 1 (BA/CST1)
- WQ93: BA Creative Stds & English Lang. year 1 (BA/CSTEL)
- WR91: BA French and Creative Studies year 1 (BA/CSTFR)
- WR92: BA German and Creative Studies year 1 (BA/CSTG)
- WR93: BA Italian and Creative Studies year 1 (BA/CSTITAL)
- WR94: BA Spanish & Creative Studies year 1 (BA/CSTSP)
- R1P3: BA French with Media Studies year 1 (BA/FRMS)
- R4P3: BA Spanish with Media Studies year 1 (BA/SPMS)