Modiwl XAC-3036:
Diwylliannau Ieuenctid, Isddiwylliannau ac Hunaniaethau.
Diwylliannau Ieuenctid, Isddiwylliannau ac Hunaniaethau. 2023-24
XAC-3036
2023-24
School Of Educational Sciences
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Nia Young
Overview
Mae sesiynau wythnosol yn seiliedig ar ddarlleniadau allweddol ac ar drafodaethau grwp ynghyd a darlithoedd a gweithdai. Enghreifftiau o'r testunau allweddol yw: Safbwyntiau damcaniaethol allweddol sydd yn perthyn i gysyniadau o ieuenctid, isddiwylliannau ieuenctid a ffordd o fyw pobl ifanc, Rôl y cyfryngau. Y 'broblem' o ieuenctid - syniadau hanesyddol am dramgwyddaeth a gwyredd, Panig moesol, Canfyddiadau'r cyhoedd o ieuenctid/pobl ifanc, Hunaniaethau rhywedd, Gwrywdod hegemonig, Trafodaethau dominyddol o fenyweidd-dra a harddwch, Stereoteipio a rhagfarn, Diwylliannau ieuenctid a'r croestoriad efo hil, rhywedd a dosbarth cymdeithasol.
Learning Outcomes
- Arddangos gwerthfawrogiad beirniadol o'r trafodaethau dominyddol am wrywdod a benyweidd-dra a'r effaith potensial ar hunaniaethau plant a phobl ifanc.
- Dangos dealltwriaeth feirniadol o'r broses ac effaith stereoteipio mewn perthynas â hunaniaethau.
- Dangos dealltwriaeth o hil a rhywedd fel syniadau sydd wedi eu hadeiladu gan gymdeithas.
- Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth drylwyr o'r safbwyntiau damcaniaethol allweddol sydd yn perthyn i gysyniadau o ieuenctid ac isddiwylliannau ieuenctid.
- Gwerthuso'n feirniadol rôl y cyfryngau mewn adeiladu hunaniaethau isddiwylliannau ieuenctid a siapio canfyddiadau'r cyhoedd am ieuenctid.
Assessment type
Summative
Weighting
50%
Assessment type
Summative
Weighting
50%