Modiwl CXC-0001:
Ysgrifennu Hyderus
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Welsh and Celtic Studies
20 Credyd neu 10 Credyd ECTS
Semester 1 a 2
Trefnydd: Dr Eben Muse
Amcanion cyffredinol
Bydd y modiwl hwn yn caniatáu i'r myfyrwyr fagu sgiliau angenrheidiol i gyfathrebu'n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig, mewn Cymraeg da, gan ddefnyddio dull a chywair academaidd.
This module allows the student to develop essential skills, enabling effective oral and written communication in Welsh, in an academic context.
Cynnwys cwrs
Dysgir y modiwl mewn grwpiau bach, a hynny'n galluogi (a) darllen a thrafod testunau enghreifftiol; (b) ysgrifennu cyfres o dasgau penodol, a derbyn adborth manwl arnynt; (c) derbyn hyfforddiant ar lunio ac ysgrifennu traethawd academaidd. Gall union gynnwys y maes llafur gael ei deilwra at ofynion y myfyrwyr.
Taught in small groups, the course will enable (a) reading and discussion of exemplary texts; (b) writing a series of specifically tailored tasks, and receiving detailed feedback; (c) instruction and practice in academic writing, including apparatus such as footnotes, bibliography. Specific syllabus content may be adjusted depending on student requirements.
Meini Prawf
da
B- i B+ Bydd myfyrwyr sydd yn cyrraedd y lefel hon (60%) yn arddangos yn eu gwaith ysgrifenedig a llafar ddealltwriaeth dda iawn o'r agweddau gramadegol a thechnegol perthnasol. Byddant yn arddangos gafael gadarn ar gystrawen a theithi'r Gymraeg, a gallu da i fynegi barn bersonol yn hyderus a chywir ar amryw bynciau. Byddant yn medru golygu a chywiro testunau ysgrifenedig i safon uchel.
ardderchog
A- i A* Bydd myfyrwyr sydd yn cyrraedd y lefel yma (70%) yn arddangos yn eu gwaith ysgrifenedig a llafar ddealltwriaeth ardderchog o'r agweddau gramadegol a thechnegol perthnasol. Byddant yn arddangos gafael sicr a chadarn ar gystrawen a theithi'r Gymraeg, a gallu ardderchog i fynegi barn bersonol yn hyderus a chywir ar amryw bynciau. Byddant yn medru golygu a chywiro testunau ysgrifenedig i safon uchel iawn.
C- i C+
C- i C+ Bydd myfyrwyr sydd yn cyrraedd y lefel hon (50%) yn arddangos yn eu gwaith ysgrifenedig a llafar ddealltwriaeth dda o'r agweddau gramadegol a thechnegol perthnasol. Byddant yn arddangos gafael eithaf cadarn ar gystrawen a theithi'r Gymraeg, a gallu da i fynegi barn bersonol ar amryw bynciau. Byddant yn dangos y gallu i olygu a chywiro testunau ysgrifenedig.
trothwy
D- i D+ Bydd myfyrwyr sydd yn cyrraedd y trothwy (40%) yn arddangos yn eu gwaith ysgrifenedig a llafar ddealltwriaeth o'r agweddau gramadegol a thechnegol perthnasol. Byddant yn arddangos gafael ar gystrawen a theithi'r Gymraeg, a gallu i fynegi barn bersonol ar amryw bynciau. Byddant yn deall hanfodion golygu a chywiro testunau ysgrifenedig.
Canlyniad dysgu
-
Magu sgiliau i ysgrifennu mewn Cymraeg da ar amrywiaeth o faterion (gan gynnwys testunau llenyddol mewn ystod o lên-ddulliau, a materion academaidd cysylltiedig), a hynny mewn cywair priodol i waith ffurfiol ac academaidd.
-
Deall sut i lunio traethawd academaidd, gan ddefnyddio'r confensiynau ffurfiol arferol mewn gwaith Cymraeg.
-
Magu hyder wrth drafod ar lafar destunau llenyddol mewn ystod o lên-ddulliau, a materion academaidd cysylltiedig.
-
Datblygu sgiliau golygu a chywiro gwaith ysgrifenedig Cymraeg (h.y. medru defnyddio gwybodaeth am gywair a gramadeg wrth ddrafftio, ailddrafftio a mireinio sgript).
-
Bod yn ymwybodol o'r gwahaniaethau rhwng cyweiriau ffurfiol ac anffurfiol, yn achos Cymraeg ysgrifenedig a llafar.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
CYFRANOGIAD DOSBARTH | Trafodaethau seminar | Rhoddir cydnabyddiaeth am gyfraniadau at y trafodaethau wythnosol yn y dosbarth. Gall y rhain ymwneud ag, e.e., trafod testunau llenyddol, trafod gwaith ysgrifenedig, trafod materion iaith yn gyffredinol, mynegi barn ar amryw faterion sy'n codi o'r gwaith dan sylw. Bydd disgwyl i fyfyrwyr fynychu'r sesiynau i gyd, paratoi gan ddilyn y canllawiau a ddarperir ar y maes llafur, a chyfrannu'n ystyrlon at y trafodaethau drwy ymwneud â chyfraniadau myfyrwyr eraill, ac ymateb iddynt yn adeiladol. Nid yw 'cyfrannu at drafodaeth' gyfystyr â 'siarad': rhoddir pwyslais ar yr 'ystyrlon' a'r 'adeiladol'. Mae gwrando ar eraill yr un mor bwysig â mynegi'r hunan. Yn bwysig iawn hefyd, bydd cyfle i fyfyrwyr ofyn cwestiynau er mwyn gwella dealltwriaeth o'r deunydd dan sylw. Dyfernir graddau yn seiliedig ar y meini prawf a ganlyn: A (70%): bydd myfyriwr sy'n ennill y radd hon yn arddangos dealltwriaeth ardderchog o'r deunydd dan sylw, gan baratoi'n fanwl a thrylwyr ar gyfer y trafodaethau. Bydd myfyrwyr yn y categori hwn yn llwyddo i wneud cyfraniadau ardderchog i drafodaethau'r dosbarth gan wneud cynnydd ardderchog yn ystod y semester. B (60%): mae'r myfyriwr yn dangos dealltwriaeth dda iawn o'r deunydd dan sylw, gan arddangos tystiolaeth o waith paratoi manwl. Bydd myfyriwr sy'n cyrraedd y radd hon yn cyfrannu'n dda iawn at drafodaethau'r dosbarth ac yn gwneud cynnydd amlwg yn ystod y semester. C (50%): mae'r myfyriwr yn dangos dealltwriaeth o'r deunydd dan sylw, gan arddangos tystiolaeth glir o waith paratoi; bydd yn cyfrannu'n dda i drafodaethau ac yn gwella yn ystod y semester gan ennill sgiliau da. D (40%): mae'r myfyriwr yn dangos rhywfaint o ddealltwriaeth o'r deunydd dan sylw, wedi gwneud rhywfaint o baratoi, ac yn cyfrannu'n rhannol at y trafodaethau. Bydd cynnydd mewn sgiliau yn ystod y semester. |
10 |
TRAETHAWD | Traethawd | Traethawd wedi ei lunio gan ddefnyddio iaith safonol ac ychwanegu aparatws academaidd (troednodiadau, llyfryddiaeth). |
35 |
GWAITH CWRS | Tasgau Ysgrifenedig | Tasgau ysgrifenedig wedi eu cyflwyno'n rheolaidd yn ystod y semester ar amrywiaeth o bynciau ac mewn amrywiaeth o arddulliau. E.e., traethawd byr; erthygl i Wikipedia; llythyr ffurfiol; erthygl i gylchgrawn neu bapur newydd; testunau i'w golygu a'u cywiro; ymarferion gramadegol. Fel rheol, bydd y darnau hyn yn fyr (e.e., c. 200-250 gair yr wythnos / pythefnos) er mwyn medru sicrhau adborth manwl a chyfle i ailweithio, ond lle y bernir bod hynny'n fwy buddiol, gellir weithiau ofyn am ddarnau hwy. Nid yn seiliedig ar nifer y geiriau yr asesir y darnau hyn, ond ar y cynnydd mewn sgiliau iaith, gloywder mynegiant, a gallu'r myfyriwr i olygu a gwella'i (g)waith ei hun. |
55 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Lecture | Un awr o ddarlith yr wythnos. Mae'n bosibl y bydd nifer o'r 'darlithoedd' hyn yn rhyngweithiol, ar ffurf ymarferol, ac yn ymdebygu yn rhannol i seminar/gweithdy. |
22 |
Private study | Astudio a pharatoi gwaith i'w gyflwyno naill ai yn wythnosol neu fel prosiectau terfynol (e.e. traethawd). |
156 |
One-to-one supervision | Bydd croeso i fyfyrwyr drefnu sesiynau ychwanegol, e.e. mewn oriau swyddfa neu fel arall. |
|
Seminar | Seminar: un awr yr wythnos. Fe all y seminar fod ar ffurf gweithdy neu drafodaeth, yn dibynnu ar y materion dan sylw. Yn ystod y sesiynau hyn bydd myfyrwyr nid yn unig yn cael trafod gweithiau academaidd a llenyddol ond hefyd yn cael adborth ar waith ysgrifenedig: mewn sesiynau gweithdy bydd cyfle i weithio ar ddrafftiau a magu sgiliau golygu a chywiro. |
22 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Sgiliau pwnc penodol
O Ddatganiad Meincnodi Pwnc QAA Cymraeg Rhagfyr 2019
• ysgrifennu Cymraeg safonol mewn modd eglur ac effeithiol • cynhyrchu Cymraeg llafar ac ysgrifenedig syn addas ar gyfer ystod o sefyllfaoedd • darllen yn fanwl ac yn feirniadol • dadansoddi testunau a disgyrsiau gan ddefnyddio methodolegau, damcaniaethau a therminoleg addas • ymateb yn feirniadol i rym mynegiannol iaith • datblygu dehongliadau annibynnol a deallus o destunau llenyddol, ieithyddol, beirniadol, creadigol a digidol • cyfleu dealltwriaeth feirniadol o destunau a syniadau cymhleth (gan eu perthnasu i sefyllfaoedd hanesyddol penodol lle bo'n briodol) • llunio/addasu testunau creadigol a/neu destunau a fwriedir ar gyfer gwahanol gyfryngau a sefyllfaoedd
Adnoddau
Goblygiadau o ran adnoddau ar gyfer myfyrwyr
Bydd yr holl adnoddau ar gael drwy wasanaethau'r llyfrgell. Bydd croeso i fyfyrwyr brynu eu copïau eu hunain i'w defnyddio fel cyfeirlyfrau yn y dyfodol hefyd, neu at ddibenion adeiladu llyfrgell.
Rhestrau Darllen Bangor (Talis)
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/cxc-0001.htmlRhestr ddarllen
Enghreifftiol yn unig (llyfr gramadegol, llyfr ffuglen a chylchgrawn materion cyfoes): gall yr union fanylion amrywio. Defnyddir adnoddau ychwanegol hefyd (e.e., deunydd sain/fideo) yn ôl y gofyn.
- Gwyn Thomas, Ymarfer Ysgrifennu Cymraeg (Y Lolfa, 2012)
- Lleucu Roberts, Saith Oes Efa (Y Lolfa, 2014)
- Barn (gol. Menna Baines)
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Opsiynol mewn cyrsiau:
- QQCF: BA English Language & English Lit [with Foundation Year] year 0 (BA/ELLITF)
- R91F: BA French, German & Spanish [with Foundation Year] year 0 (BA/FGS4#F)
- V10F: BA History [with Foundation Year] year 0 (BA/HF)
- P30F: BA Media Studies [with Foundation Year] year 0 (BA/MSF)
- W30F: BA Music [with Foundation Year] year 0 (BA/MUSF)
- L20F: BA Politics [with Foundation Year] year 0 (BA/POLF)
- L30F: BA Sociology [with Foundation Year] year 0 (BA/SF)
- L40F: BA Social Policy [with Foundation Year] year 0 (BA/SOCPOLF)
- W32F: BMus Music [with Foundation Year] year 0 (BMUS/MUSF)