Modiwl CXC-1026:
Golwg ar Lenyddiaeth 2
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Arts, Culture and Language
10.000 Credyd neu 5.000 Credyd ECTS
Semester 2
Trefnydd: Prof Peredur Lynch
Amcanion cyffredinol
Mae’r modiwl hwn yn cwblhau’r gorolwg o brif gyfnodau llenyddiaeth y Gymraeg a ddechreuwyd yn Golwg ar Lenyddiaeth 1. Cawn gyfle i astudio enghreifftiau o destunau o ddiwedd yr Oesau Canol hyd ddechrau’r ugeinfed ganrif, gan ystyried eu cyd-destunau hanesyddol a syniadaethol.
Yr oedd y cyfnod a astudir ar y modiwl hwn yn un brofodd chwyldroadau crefyddol, gwyddonol, gwleidyddol a syniadaethol, a bu i lên Cymru ei rhan yn holl ddatblygiadau pwysig y canrifoedd. Nod y modiwl yw caniatáu i’r myfyriwr werthfawrogi’r prif agweddau cysyniadol a thraddodiadol a luniodd ymateb beirdd, dramodwyr, anterliwtwyr, ysgrifwyr a nofelwyr y Gymraeg yng Nghymru a thu hwnt.
Am fod hwn yn fodiwl i fyfyrwyr ail iaith yn benodol, bydd sylw arbennig yn cael ei roi i agweddau o’r iaith lenyddol ac i eirfa berthnasol.
Cynnwys cwrs
Bydd y modiwl hwn yn cynnig cyflwyniad i brif themâu a chysyniadau hanesyddol a llenyddol y cyfnod o ddiwedd yr Oesau Canol i ddechrau cyfnod Moderniaeth. Bydd yn ymwneud â’r prif feysydd a ganlyn, gan astudio detholiad o awduron a gweithiau allweddol yn eu cyd-destunau:
- Y Diwygiad Protestannaidd; o fyd y llawysgrif i fyd y llyfr print
- Y Dadeni a Dyneiddiaeth; dirywiad y traddodiad barddol
- Y Diwygiad Methodistaidd
- Diwylliant poblogaidd a thorfol y Gymraeg
- Yr Ymoleuo a thwf Rhyddfrydiaeth
- Rhamantiaeth
Meini Prawf
ardderchog
(A): Rhagorol Bydd myfyrwyr ardderchog (graddau A) yn arddangos y galluoedd sicr hyn ar draws y meini prawf, yn ogystal â dyfnder arbennig yn eu gwybodaeth a/neu gywreinrwydd eu dadansoddi. Dangosant hefyd wreiddioldeb yn eu gwaith darllen a dehongli. Byddant yn mynegi eu hunain mewn iaith cywir a datblygedig.
trothwy
(D-): Trothwy Bydd myfyrwyr trothwyol (graddau D isel) yn arddangos rhychwant o wybodaeth briodol – neu ddyfnder priodol – mewn o leiaf rannau o’r maes perthnasol, a byddant yn llwyddo’n rhannol o leiaf i greu dadlau sy’n mynd i’r afael â’r pynciau a drafodir. Bydd iaith eu mynegiant efallai’n ansicr ar adegau.
da
(B): Da Bydd myfyrwyr da (graddau B) yn arddangos galluoedd sicr yn yr holl agweddau a nodwyd yn y paragraff uchod, gan gynnwys safon eu hiaith ysgrifenedig a llafar.
Canlyniad dysgu
-
Yn ymwybodol o brif lenorion a phrif weithiau llenyddol yr iaith Gymraeg o ddiwedd y Canol Oesoedd hyd ddechrau’r ugeinfed ganrif.
-
Yn medru mynegi barn yn glir ac yn ddealladwy ar lafar am y darnau o lenyddiaeth a’r cyfnodau hanesyddol dan sylw.
-
Yn deall pwysigrwydd y gweithiau a’r awduron hyn, a’u cyfraniad i ddatblygiad y traddodiad llenyddol Cymraeg.
-
Yn ymwybodol o brif ddigwyddiadau a chyfnodau hanesyddol yr ystod dan sylw.
-
Yn medru ystyried y gweithiau llenyddol yn eu cyd-destun hanesyddol a diwylliannol, gan ddangos ymwybyddiaeth o berthynas y llenyddiaeth i rai o brif gysyniadau’r cyfnodau dan sylw.
-
Yn medru mynegi barn yn glir ac yn ddealladwy yn ysgrifenedig am y darnau o lenyddiaeth a’r cyfnodau hanesyddol dan sylw.
-
Yn medru deall a defnyddio geirfa berthnasol a gyflwynir yn ystod y modiwl.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Cyfrannu i drafodaethau yn y dosbarth | 20.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau |
---|
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- Q562: BA Cymraeg year 1 (BA/CYM)
- Q565: BA Cymraeg (4 year) year 1 (BA/CYM4)
Opsiynol mewn cyrsiau:
- Q565: BA Cymraeg (4 year) year 2 (BA/CYM4)