Modiwl CXC-3016:
Medrau Cyfieithu
Medrau Cyfieithu 2023-24
CXC-3016
2023-24
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Jason Davies
Overview
Bydd y modiwl yn rhoi hyfforddiant i gyfieithu gwahanol fathau o destunau, yn bennaf o’r Saesneg i’r Gymraeg. Canolbwyntir ar gyfieithu darnau o ryddiaith ffeithiol: rhestrau o gyfarwyddiadau, erthyglau papur newydd, cofnodion cyfarfodydd ac ati. Rhoddir sylw arbennig i gyfieithu dogfennau swyddogol o bob math, gan roi sylw i ofynion proffesiynol y grefft.
Assessment Strategy
-threshold -D- i D+Dylai'r gwaith cyfieithu ddangos cynefindra â'r pynciau a'r egwyddorion a drafodir yn y seminarau, ynghyd â gafael ar gystrawen a theithi'r Gymraeg ac ar dermau technegol a geirfa'r maes arbennig hwn. Dylai myfyrwyr ddangos gwybodaeth am y patrymau cyffredinol sy'n ymffurfio yn y broses o gyfieithu a hefyd am ofynion gwahanol destunau a chyd-destunau o ran arddull a chywair.
-good -B- i B+Dylai'r gwaith cyfieithu ddangos gwybodaeth dda am yr egwyddorion ieithyddol y tynnir sylw atynt yn y seminarau, yn ogystal â gafael dda ar ramadeg y Gymraeg ac ar dermau technegol a geirfa'r maes arbennig hwn. Dylai myfyrwyr ddangos dealltwriaeth dda o'r modd y gellir addasu a theilwra cyfieithiad ar gyfer cyd-destun arbennig, yn ogystal â gafael dda ar sut y gellir amrywio cystawennau a phatrymau penodol er sicrhau cyfieithiad graenus ac argyhoeddiadol.
-excellent -A- i A*Dylai'r gwaith cyfieithu ddangos gallu datblygedig i drin yr egwyddorion, y patrymau a'r syniadau a drafodir yn y seminarau, ynghyd â gafael gadarn ar deithi'r Gymraeg. Dylai hefyd ddangos gwybodaeth fanwl am ryngberthynas y Gymraeg a'r Saesneg ac am y modd y gellir defnyddio'r ddealltwriaeth o batrymau'r ddwy iaith er sicrhau cyfieithiad sy'n tystio i gyfoeth adnoddau'r Gymraeg mewn meysydd megis busnes a gwyddoniaeth yn ogystal â'r celfyddydau. Dylai'r gwaith ddangos gallu datblygedig i amrywio cyweiriau ac arddulliau yn ôl y gofyn.
Learning Outcomes
- Adnabod a dehongli'r patrymau ieithyddol sy'n ymffurfio wrth drosi testun o'r naill iaith i'r llall.
- Cymhwyso'r wybodaeth ieithyddol a gramadegol a enillwyd at eu gwaith eu hunain yn gyffredinol.
- Cynhyrchu gwaith a fydd yn raenus a chywir o ran mynegiant.
- Defnyddio'r cywair a'r arddull gywir wrth gyfieithu yn ôl gofynion y cyd-destun.
- Manteisio'n feirniadol ar y profiad a enillwyd wrth gyfieithu rhychwant eang o destunau mewn gwahanol ffyrdd.
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Tasgau wythnosol
Weighting
33.3%
Due date
14/12/2023
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Tasgau estynedig
Weighting
33.3%
Due date
12/01/2024
Assessment method
Exam (Centrally Scheduled)
Assessment type
Summative
Description
Arholiad
Weighting
33.4%