Modiwl DXC-1303:
Methodoleg maes
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Natural Sciences
10.000 Credyd neu 5.000 Credyd ECTS
Semester 2
Trefnydd: Dr Paula Roberts
Amcanion cyffredinol
-
Cyflwyno egwyddorion technegau sy'n berthnasol i astudiaethau maes ar gyfer daearyddiaeth, astudiaethau'r amgylchedd a defnydd tir.
-
Rhoi profiad o ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau i gasglu gwybodaeth ddaearyddol, amgylcheddol ac o systemau defnydd tir.
-
Rhoi hyfforddiant mewn dadansoddi a chrynhoi canlyniadau o astudiaethau maes.
-
Meithrin dealltwriaeth o arwyddocâd canlyniadau o astudiaethau maes yng nghyd destun systemau, amgylcheddau a chymunedau (ecolegol a dynol).
-
Rhoi profiad o gyflwyno canlyniadau ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Cynnwys cwrs
Mae'r cwrs yn cyflwyno egwyddorion technegau sy'n berthnasol i astudiaethau maes ar gyfer daearyddiaeth, astudiaethau'r amgylchedd a defnydd tir. Mae'n cynnwys technegau addas ar gyfer amrediad eang o sefyllfaoedd gan gynnwys agweddau ecolegol, ffisegol a daearyddol. Erbyn diwedd y cwrs bydd y rhai sy'n ei ddilyn wedi cael profiad o ddefnyddio nifer o dechnegau ac o ddehongli'r canlyniadau. Bydd y cwrs yn cael ei redeg dros benwythnos hir. Bydd y cwrs yn cynnwys astudiaethau mewn nifer o feysydd gwahanol, a allai gynnwys y canlynol:
a) Dadansoddi newidiadau yng ngorlifdir afon gan ddefnyddio ffynonellau hanesyddol a mesuriadau cyfoes. b) Asesu dylanwad ac addasrwydd melinau gwynt ar gyfer ardal benodol gan ystyried oblygiadau amgylcheddol ac ystyriaethau cynllunio. c) Astudio'r prosesau sy'n gwahardd pobl o leoedd penodol gan ganolbwyntio ar brosesau ffurfiol ac anffurfiol mewn trefi. d) Dehongli'r ffactorau sy'n dylanwadau ar ddefnydd tir mewn ardal benodol gan ystyried effeithiau daearyddol a dynol. e) Astudio'r modd y mae cymunedau'n datblygu mewn ardaloedd gwledig a threfol a'r ffactorau hanesyddol a phresennol sy'n dylanwadu arnynt. f) Dehongli effeithiau rhewlifau ar dirwedd ac ardal benodol gan ystyried damcaniaethau gwahanol
Meini Prawf
da
Adroddiadau ar bob un o'r sesiynau maes. Defnyddio technegau yn gywir yn y maes. Dilyn cyfarwyddiadau yngl¿n â sut i grynhoi a dadansoddi'r canlyniadau. Cyflwyno'r canlyniadau mewn adroddiad gyda strwythur synhwyrol a threfnus gan gynnwys rhai enghreifftiau o ddulliau cyflwyno gwreiddiol. Disgrifio arwyddocâd canlyniadau o astudiaethau maes yng nghyd destun systemau, amgylcheddau a chymunedau (ecolegol a dynol) gan ganolbwyntio ar bob astudiaeth oedd yn rhan o'r cwrs. Rhoi sylwadau ar ystyr y canlyniadau gan ystyried cryfderau a gwendidau'r technegau a ddefnyddiwyd. Disgwylir trafodaeth o'r canlyniadau gyda thystiolaeth o ddarllen cefndir. Seminar Rhoi disgrifiad manwl o'r dulliau a ddefnyddiwyd i gasglu gwybodaeth a chyflwyno crynodeb syml o'r canlyniadau gyda dehongliad o'u harwyddocâd.
trothwy
Adroddiadau ar bob un o'r sesiynau maes. Defnyddio technegau yn gywir yn y maes. Dilyn cyfarwyddiadau yngl¿n â sut i grynhoi a dadansoddi'r canlyniadau. Cyflwyno'r canlyniadau mewn adroddiad gyda strwythur synhwyrol a threfnus. Disgrifio arwyddocâd canlyniadau o astudiaethau maes yng nghyd destun systemau, amgylcheddau a chymunedau (ecolegol a dynol) gan ganolbwyntio ar bob astudiaeth oedd yn rhan o'r cwrs. Rhoi sylwadau ar ystyr y canlyniadau. Seminar Rhoi disgrifiad o'r dulliau a ddefnyddiwyd i gasglu gwybodaeth a chyflwyno crynodeb syml o'r canlyniadau.
ardderchog
Adroddiadau ar bob un o'r sesiynau maes. Defnyddio technegau yn gywir yn y maes. Dilyn cyfarwyddiadau yngl¿n â sut i grynhoi a dadansoddi'r canlyniadau. Cyflwyno'r canlyniadau mewn adroddiad gyda strwythur synhwyrol a threfnus gan gynnwys rhai enghreifftiau o ddulliau cyflwyno gwreiddiol. Disgrifio arwyddocâd canlyniadau o astudiaethau maes yng nghyd destun systemau, amgylcheddau a chymunedau (ecolegol a dynol) gan gynnwys bob astudiaeth oedd yn rhan o'r cwrs a sefyllfaoedd tebyg. Rhoi sylwadau ar ystyr y canlyniadau gan ystyried cryfderau a gwendidau'r technegau a ddefnyddiwyd. Disgwylir trafodaeth o'r canlyniadau gyda thystiolaeth o ddarllen cefndir. Disgrifio cysylltiadau rhwng yr astudiaethau i arddangos dealltwriaeth o'r syniadau a gyflwynwyd yn ystod y cwrs. Seminar Rhoi disgrifiad manwl o'r dulliau a ddefnyddiwyd i gasglu gwybodaeth gan drafod anawsterau defnyddio'r technegau. Cyflwyno crynodeb manwl, ond dealladwy, o'r canlyniadau gyda dehongliad trylwyr o'u harwyddocâd.
Canlyniad dysgu
-
Esbonio egwyddorion technegau penodol sy'n berthnasol i astudiaethau maes.
-
Defnyddio technegau penodol i gasglu gwybodaeth yn y maes.
-
Dadansoddi a chrynhoi canlyniadau o astudiaethau maes.
-
Deall o arwyddocâd canlyniadau o astudiaethau maes yng nghyd destun systemau, amgylcheddau a chymunedau (ecolegol a dynol).
-
Cyflwyno canlyniadau ar lafar gan esbonio a dehongli eu prif nodweddion
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Traethawd Dynol | 45.00 | ||
Cyflwyniad Grwp | 10.00 | ||
Poster Gwyddonol | 45.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Private study | Astudio preifat a chwblhau aseiniadau |
78 |
Fieldwork | Gwaith Maes: 2 x 8awr; 1 x 4awr |
20 |
Seminar | Seminarau cyflwyno - 2 x 1awr |
2 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Rhifedd - Medrusrwydd wrth ddefnyddio rhifau ar lefelau priodol o gywirdeb
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Ymwybyddiaeth o ddiogelwch - Bod yn ymwybodol o'ch amgylchedd a hyder o ran cadw at reoliadau iechyd a diogelwch
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
Adnoddau
Goblygiadau o ran adnoddau ar gyfer myfyrwyr
None. All costs are covered by the CCC
Rhestrau Darllen Bangor (Talis)
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/dxc-1303.htmlCyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- L700: BA Geography year 1 (BA/GEOG)
- L702: BA Geography (4 yr with placement) year 1 (BA/GEOG4)
- L701: BA Geography (with International Experience) year 1 (BA/GEOGIE)
- C183: BSC Appl.Terrestrial & Marine Ec 4 year 1 (BSC/APTME)
- C185: BSc Applied Terrestrial & Marine Ecology with Intl Exp (5yr) year 1 (BSC/APTMIE)
- C180: BSc Appl. Terrestrial &Marine Ec year 1 (BSC/ATME)
- C184: BSc App Terrestrial & Marine Ecology with Intl Experience year 1 (BSC/ATMEIE)
- C13P: BSc Applied Terrestrial and Marine Ecology with Placement Yr year 1 (BSC/ATMEP)
- D503: BSc Conservation with Forestry with International Experience year 1 (BSC/CFIE)
- 5DKD: BSc Conservation with Forestry year 1 (BSC/CWF)
- 5DLD: BSc Conservation with Forestry (four year) year 1 (BSC/CWF4)
- D447: BSC Environmental Conservation year 1 (BSC/ECON)
- D448: BSC Environmental Conservation year 1 (BSC/ECON4)
- D451: BSc Environmental Conservation (International Experience) year 1 (BSC/ENIE)
- D501: BSc Forestry (with sandwich placement) year 1 (BSC/F)
- D502: BSc Forestry with International Experience year 1 (BSC/FIE)
- D500: BSC Forestry year 1 (BSC/FOR)
- D50P: BSc Forestry with Placement Year year 1 (BSC/FP)
- F803: BSc Geography with Environmental Forestry year 1 (BSC/GEF)
- F804: BSc Geography with Environmental Forestry year 1 (BSC/GEF4)
- F807: BSc Geography with Environmental Forestry with Intl Exp year 1 (BSC/GEFIE)
- F800: BSC Geography year 1 (BSC/GEOG)
- F806: BSc Geography (4 yr with placement) year 1 (BSC/GEOG4)
- F802: BSc Geography (with International Experience) year 1 (BSC/GEOGIE)