Modiwl SCL-3139:
Cyfraith Datganoli
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of History, Law and Social Sciences
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 1
Trefnydd: Miss Lois Nash
Amcanion cyffredinol
Nod y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i gaffael ac arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth gywir o ddatblygiad y gyfraith yng Nghymru ar ôl datganoli, ynghyd â chael golwg ehangach ar hanes datganoli yng Nghymru a mannau eraill yn Ewrop. Bydd yn eu galluogi i wneud asesiadau beirniadol o’r datblygiad a’r hanes hwnnw a chymharu a chyferbynnu’r datblygiad a’r hanes hwnnw yn gywir a pherthnasol gyda nodweddion unrhyw system gyfreithiol arall y mae’r myfyriwr yn gyfarwydd â hi. Yn olaf, bydd hefyd yn galluogi myfyrwyr i gysylltu’r datblygiad a’r hanes hwnnw â’r amgylchiadau neilltuol – gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd – lle digwyddodd a lle mae’n parhau i ddigwydd.
Cynnwys cwrs
Mae’r cwrs yn edrych ar gyfraith datganoli yng Nghymru a mannau eraill yn Ewrop. Astudir datblygiad hanesyddol datganoli yng Nghymru; o effaith Statud Rhuddlan 1284 a'r Deddfau Uno yn yr unfed ganrif ar bymtheg i ddatganoli grym yn raddol i adrannau a swyddfeydd Cymreig yn yr ugeinfed ganrif. Ceir astudiaeth fanwl o Ddeddf Llywodraeth Cymru a Mesur yr Iaith Gymraeg (Cymru), ynghyd â’r modd y mae darpariaethau’r ystatudau hynny’n cael eu gweithredu yng Nghymru ar ôl datganoli, a barn ysgolheigaidd yn ymwneud â hynny. O ganlyniad, rhoddir ystyriaeth i ddatblygiad Cyfansoddiad Cymreig ac ymddangosiad awdurdodaeth Gymreig. Bydd datblygiadau cyfreithiol a arweinir gan ddatganoli hefyd yn cael eu hystyried yng nghyd-destun y DU; gweinyddu cyfiawnder, yn arbennig cyfraith weinyddol; a datblygiad cysylltiadau rhyng-lywodraethol yn y DU ac Ewrop. Drwy gydol y cwrs, bydd y datblygiadau cyfreithiol yn ymwneud â newidiadau gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a deallusol yng Nghymru, y Deyrnas Unedig, Ewrop a’r byd ehangach. Yn arbennig, rhoddir sylw i’r setliad datganoli yn Yr Alban; Gogledd Iwerddon; Cymunedau Hunanreolaethol Sbaen; y Länder yn Yr Almaen.
Meini Prawf
ardderchog
A- hyd at A Rhagorol: Bydd myfyrwyr rhagorol (A- hyd at A) yn cyflawni'n gyson gadarn ar draws y deilliannau dysgu, ac yn cyfuno hyn â gwreiddioldeb, gwybodaeth eang o'r pwnc yn ei gyd-destun ehangach ynghyd â dadleuon a dadansoddiad treiddgar a soffistigedig.
Ateb rhagorol, sy’n dangos meistrolaeth dros y pwnc dan sylw heb fawr ddim lle o gwbl i wella. Mae’r ateb yn cynnwys yr holl bwyntiau a dadleuon perthnasol, ynghyd â gwerthusiad llawn annibynnol ac aeddfed o’r testun, heb fawr ddim camgymeriadau neu gynnwys amherthnasol. Lle bo’n berthnasol, bydd yr ateb hefyd yn dangos tystiolaeth o werthusiad cymharol manwl o’r materion dan sylw. Bydd yr holl ddeunydd a chyfeiriadau (lle bo’n berthnasol) wedi’u cyflwyno bron yn berffaith yn yr ateb, a bydd yr ateb wedi’i lunio’n hynod dda ac yn rhagorol yn ramadegol yn Gymraeg/Saesneg.
trothwy
D- hyd at D+ Trothwy: Bydd myfyrwyr (D- hyd at D+) yn dangos sgiliau ymchwil boddhaol mewn rhannau o leiaf o'r pwnc a ddewiswyd ganddynt, a byddant yn gwneud ymdrechion rhannol lwyddiannus o leiaf i archwilio a dadansoddi'r wybodaeth ac i ysgrifennu'r project mewn dull academaidd.
Ateb sy'n gywir gan fwyaf o ran cyflwyno deunydd, ond sy’n cynnwys lefel sylweddol o wallau, ac felly nid yw’n hollol ddibynadwy.
da
B- hyd at B+ Da: Bydd myfyrwyr da (B- hyd at B+) yn llwyddo'n gadarn yn yr holl ddeilliannau dysgu a restrir.
Ateb cynhwysfawr, yn cynnwys yr holl neu bron y cyfan o’r deunydd sy’n berthnasol i’r cwestiwn a dim amherthnasedd, neu ychydig iawn; yr holl ddeunydd a’r cyfeiriadau yn gywir at ei gilydd, heb ddim anghywirdeb na gwallau, gan gyflwyno’r cyfan mewn dadl glir, resymegol a beirniadol, ond sydd â lle i wella ei adeiladwaith a’i gyflwyniad. Ateb sy’n dangos hyfedredd llwyr yn y pwnc.
C- i C+
C- i C+ Da/Boddhaol: Bydd myfyrwyr lefel C- i C+ yn llwyddo'n ddisgrifiadol yn yr holl ddeilliannau dysgu a restrir.
Ateb sydd, er ei fod bob amser yn gywir gan fwyaf, serch hynny yn methu â gwahaniaethu rhwng deunydd perthnasol ac amherthnasol, ac sydd â diffyg beirniadaeth. Ateb sy’n ddibynadwy o ran cywirdeb, ond nad yw’n gynhwysfawr neu nad yw’n hollol berthnasol.
Canlyniad dysgu
-
Dangos dealltwriaeth gynhwysfawr o faterion cyd-destunol ehangach yn ymwneud â gweithredu cyfraith datganoli yng Nghymru, e.e. y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a’r llywodraeth ganolog yn San Steffan.
-
Cynnal ymchwil gyfreithiol annibynnol yn fanwl, cywir ac effeithiol mewn perthynas â chyfraith datganoli yng Nghymru a mannau eraill yn Ewrop
-
Dangos lefel sgil uchel wrth ddansoddi a chymhwyso gwybodaeth sy'n ymwneud a ddatganoli.
-
Llunio, cyflwyno a cyfathrebu'n effeithiol dadl gyfreithiol resymegol yn ymwneud â materion yng nghyfraith datganoli.
-
Dadansoddi'n fedrus ac yn feirniadol datblygiad sefydliadau a meysydd cyfraith yng Nghymru wedi datganoli, gan gyfeirio'n gywir at ffynonellau gwreiddiol ac eilaidd priodol, a gan gysylltu’r datblygiad â’i achosion a’i effeithiau gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd a deallusol.
-
Cymharu'n wybodus datblygiad sefydliadau a meysydd cyfraith yng nghenhedloedd a rhanbarthau datganoledig y DU ac Ewrop, gan eu cysylltu â'u hachosion a’u heffeithiau gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd a deallusol
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
TRAETHAWD | Traethawd | Traethawd 3,000 o eiriau ar fater sy'n ymwneud a datganoli. |
40.00 |
ARHOLIAD | Arholiad | Arholiad 2 awr, yn ateb 2 gwestiwn ar faterion datganoli |
60.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Lecture | 2x 2hr darlith yr wythnos, unai yn fyw yn y dosbarth neu ar-lein |
40 |
Private study | Bydd disgwyl i fyfyrwyr baratoi'n annibynnol ar gyfer rhai dosbarthiadau ac wrth baratoi'r aseiniadau. |
160 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Sgiliau pwnc penodol
- Develop the ability to interpret legal rules and employ techniques of legal reasoning competently and efficiently in order to offer a range of solutions and conclusions to actual or hypothetical complex legal problems, all supported by relevant academic literature, jurisprudence and legislative research. Such solutions will be clearly communicated and presented
- Develop the ability to analyse complex legal issues, set against the background of the political, social, economic or cultural contexts in which they may arise
- Develop those skills which are necessary for scholarship and research in legal subjects, namely the ability to identify relevant primary and secondary legal sources and to retrieve accurate legal information using paper and electronic sources
Adnoddau
Goblygiadau o ran adnoddau ar gyfer myfyrwyr
Dim, oni bai bod myfyrwyr eisiau prynu deunyddiau eu hunain.
Rhestrau Darllen Bangor (Talis)
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/scl-3139.htmlRhestr ddarllen
Watkin, Wales: An Introduction to its Legal History (Gwasg Prifysgol Cymru, 2007) R. Gwynedd Parry Cymru’r Gyfraith (Gwasg Prifysgol Cymru, 2012) Rawlings, Delineating Wales (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 2003) Bogdanor, V. Devolution in the United Kingdom (OUP, 2001) Hazell, R. & Trench, A. (gol.) The State of the Nation, 2000-2008
Rhagofynion a Chydofynion
Rhagofynion
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- M110: LLB Law with Welsh (International Experience) year 4 (LLB/LIH)
Opsiynol mewn cyrsiau:
- M115: LLB Law with English Literature (International Experience) year 3 (LLB/ILEL)
- M100: LLB Law year 3 (LLB/L)
- M11B: LLB Law (4 year with Incorporated Foundation) year 3 (LLB/L1)
- M1N4: LLB Law with Acc and Finance year 3 (LLB/LAF)
- M1NB: LLB Law with Accounting & Finance (4yr with Incorp Found) year 3 (LLB/LAF1)
- M101: LLB Law (2 year) year 3 (LLB/LAW2)
- M1N1: LLB Law with Business Studies year 3 (LLB/LBS)
- MN1B: LLB Law with Business (4year with Incorporated Foundation) year 3 (LLB/LBS1)
- MT11: LLB Law with Chinese year 4 (LLB/LC)
- MT12: LLB Law with Chinese (International Experience) year 4 (LLB/LCIE)
- M116: LLB Law with French (European Experience) year 4 (LLB/LFE)
- M117: LLB Law with German (European Experience) year 4 (LLB/LGE)
- M1V1: LLB Law with History year 3 (LLB/LH)
- M1V2: LLB Law with History (International Experience) year 4 (LLB/LHI)
- M102: LLB Law (International Experience) year 4 (LLB/LI)
- M103: LLB Law with Accounting & Finance (Intl Exp) year 4 (LLB/LIA)
- M104: LLB Law with Business Studies (International Experience) year 4 (LLB/LIB)
- M105: LLB (European) Law with French year 4 (LLB/LIC)
- M108: LLB Law with Social Policy (International Experience) year 4 (LLB/LIF)
- M113: LLB Law with Criminology (Intl Exp) year 4 (LLB/LIK)
- M118: LLB Law with Italian (European Experience) year 4 (LLB/LITE)
- M10P: LLB Law with Placement Year year 4 (LLB/LP)
- M1V5: LLB Law with Philosophy and Religion year 3 (LLB/LPR)
- M1C8: LLB Law with Psychology year 3 (LLB/LPSY)
- M119: LLB Law with Spanish (European Experience) year 4 (LLB/LSE)
- M1L4: LLB Law with Social Policy year 3 (LLB/LSP)
- M1LB: LLB Law with Social Policy (4 yr with Incorp Foundation) year 3 (LLB/LSP1)
- M1Q5: LLB Law with Welsh year 3 (LLB/LW)
- M1M9: LLB Law with Criminology year 3 (LLB/LWCR)
- M1MB: LLB Law with Criminology (4 yr with Incorporated Foundation) year 3 (LLB/LWCR1)
- M1MP: LLB Law with Criminology with Placement Year year 4 (LLB/LWCRP)
- M1QK: LLB Law with English Literature year 3 (LLB/LWEL)
- M1M0: LLB English Law and French Law year 3 (LLB/UKLFL)