Modiwl WMC-4112:
Perfformio II
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Arts, Culture and Language
30.000 Credyd neu 15.000 Credyd ECTS
Semester 2
Trefnydd: Dr Iwan Llewelyn Jones
Amcanion cyffredinol
Cynlluniwyd y modiwl hwn i alluogi myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau perfformio ymhellach fel offerynwyr, cantorion, arweinyddion, cyfeilyddion neu gerddorion siambr. Bydd y myfyrwyr yn cael hyfforddiant unigol gyda thiwtor arbenigol yn ymdrin â thechneg, arddull a dehongli i safon uwch. Yn ychwanegol, bydd y myfyrwyr yn mynychu ac yn cymryd rhan mewn gweithdai pythefnosol, wedi eu harwain gan diwtor y modiwl, a fydd yn mynd i'r afael yn fwy cyffredinol â'r sgiliau y mae ar berfformiwr eu hangen, a bydd yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu hyder, profiad a gwybodaeth.
Mae wedi ei fwriadu ar gyfer perfformwyr sydd eisoes yn gweithio i safon bron-yn-broffesiynol, neu sydd â photensial o gyrraedd y fath safon.
Cynnwys cwrs
Bydd cynnwys y modiwl yn canolbwyntio ar dechneg perfformio, pedagogaeth, dadansoddi, astudiaethau dehongli, astudiaethau perfformio, rhaglenni, ysgrifennu nodiadau rhaglen, a pharatoi ar gyfer perfformio. Bydd y gweithdai hefyd yn ystyried cyflwyniad ar lwyfan a swyddogaeth cyfathrebu wrth berfformio.
Bydd pwysoliad y pynciau yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn, gan ymateb i arbenigeddau perfformwyr a diddordebau'r myfyrwyr.
Meini Prawf
ardderchog
Rhagorol (70+) Perfformiadau sydd yn dechnegol drawiadol ac yn argyhoeddi o ran arddull, gan ddangos llawer o wreiddioldeb o ran y dull o ddehongli, gyda nodiadau rhaglen (neu gyflwyniad ar lafar) sy'n peri i rywun feddwl ac sy’n hynod wreiddiol.
trothwy
Trothwy (50-59) Perfformiadau sydd gan fwyaf yn gywir ac yn briodol o ran arddull, gyda nodiadau rhaglen (neu gyflwyniad ar lafar) sydd yn llawn gwybodaeth ac yn drefnus.
da
Da (60-69) Perfformiadau sydd wastad yn gywir gydag ymwybyddiaeth o arddull, gan ddangos peth gwreiddioldeb o ran y dull o ddehongli, gyda nodiadau rhaglen (neu gyflwyniad ar lafar) sy'n ddiddorol ac yn graff.
Canlyniad dysgu
-
Ar ôl cwblhau'r modiwl yn llwyddiannus, bydd y myfyrwyr yn gallu rhaglennu a pherfformio repertoire arbenigol / datganiad eang sy'n cyfleu dealltwriaeth fanwl o strwythur, cyd-destun a thechneg offerynnol / lleisiol, ac yn glynu wrth yr elfennau hynny.
-
Ar ôl cwblhau'r modiwl yn llwyddiannus, bydd y myfyrwyr yn gallu ymwneud yn gyfannol â'r cyfeiliant, mewn modd cyfarwydd, lle bo hynny'n briodol.
-
Ar ôl cwblhau'r modiwl yn llwyddiannus, bydd y myfyrwyr yn gallu cyfleu mewn geiriau resymeg, dadansoddiad a gwerthusiad o repertoire eu datganiad.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Datganiad Cyhoeddus | 90.00 | ||
Nodiadau rhaglen | 10.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Tutorial | 12 awr o hyfforddiant unigol ar offeryn, llais neu faes astudio penodol y myfyriwr hwnnw. Bydd y rhain fel arfer yn digwydd ar gyfradd o 1 yr wythnos, ond bydd eu hyd a pha mor aml y cânt eu cynnal yn dibynnu ar ba fath o offeryn neu lais sydd dan sylw. |
12 |
Workshop | Un gweithdy 2 awr o hyd bob pythefnos, i gynnwys dosbarth meistr a chyfleoedd perfformio. |
12 |
Private study | Astudiaeth Breifat – amser darllen, paratoi a gwneud asesiadau |
276 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
Sgiliau pwnc penodol
- Musicianship skills – recognition, classification, contextualisation, reconstruction, exploration
- Re-creative skills – interpretation, innovation, versatility, and other skills relating to performance
- Intellectual skills specific to Music – contextual knowledge, cultural awareness, critical understanding, repertoire knowledge, curiosity, analytical demonstration
- Technological skills – digital capture, digital expression, digital innovation
- Intellectual skills shared with other disciplines – research and exploration, reasoning and logic, understanding, critical judgement, assimilation and application
- Skills of communication and interaction – oral and written communication, public presentation, team-working and collaboration, awareness of professional protocols, sensitivity, ICT skills, etc.
- Skills of personal management – self-motivation, self-critical awareness, independence, entrepreneurship and employment skills, time management and reliability, organisation, etc.
- Enhanced powers of imagination and creativity (4.17)
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Opsiynol mewn cyrsiau:
- W3BG: MMus Performance year 1 (MMUS/MUSP)