Modiwl WXC-1004:
Cyflwyniad i Harmoni a Gwrthbwynt
Cyflwyniad i Harmoni a Gwrthbwynt 2022-23
WXC-1004
2022-23
Ysgol Iaith, Diwylliant a'r Celfyddydau
Modiwl - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Stephen Rees
Overview
Mae myfyrwyr yn gweithio trwy gwrs o astudiaeth a fydd yn datblygu medrau sain glust, darllen sgorau a medrau dadansoddol, creadigrwydd a dealltwriaeth drwyadl o’r paramedrau ar gyfer creu cerddoriaeth yn ystod y cyfnod dan sylw. Bwriedir WXC-1004 ar gyfer y myfyrwyr hynny sydd â phrofiad cyfyngedig o egwyddorion harmoni a gwrthbwynt (e.e. y rhai nad ydynt wedi astudio harmoneiddio coralau fel rhan o lefel A neu gymwyster gyffelyb), ynghyd â'r myfyrwyr hynny nad ydynt yn hyderus yn eu sgiliau yn y maes hwn.
Assessment Strategy
-threshold -Dealltwriaeth lawn o nodiant erwydd, ond dim ond dealltwriaeth sylfaenol o ymarfer cerddorol yn y cyfnod hanesyddol a astudir. Amgyffrediad sylfaenol o sgiliau allweddol yn ymwneud â'r pwnc, gyda gallu cyfyngedig i roi'r sgiliau hyn ar waith mewn cyd-destunau cerddorol eraill. Arddangos ychydig o greadigrwydd unigol. Cyflwynir gwaith yn drefnus ond gyda dim ond priodoldeb arddulliadol cyfyngedig.
-good -Dealltwriaeth lawn o nodiant erwydd, gyda dealltwriaeth dda o ymarfer cerddorol yn y cyfnod hanesyddol a astudir. Amgyffrediad da o sgiliau allweddol yn ymwneud â'r pwnc, gyda'r gallu i roi'r sgiliau hyn ar waith mewn amrywiaeth o gyd-destunau cerddorol eraill. Arddangos creadigrwydd unigol da. Cyflwynir gwaith yn drefnus, a chyda pheth priodoldeb arddulliadol.
-excellent -Dealltwriaeth lawn o nodiant erwydd, gyda dealltwriaeth ragorol o ymarfer cerddorol yn y cyfnod hanesyddol a astudir. Amgyffrediad da iawn o sgiliau allweddol yn ymwneud â'r pwnc, gyda'r gallu i roi'r sgiliau hyn ar waith yn yr amrywiaeth lawn o gyd-destunau cerddorol. Arddangos creadigrwydd unigol rhagorol. Cyflwynir gwaith yn drefnus, a chyda phriodoldeb arddulliadol llawn.
Assessment type
Crynodol
Description
Gwaith cwrs 2
Weighting
30%
Assessment type
Crynodol
Description
Prif Aseiniad 1
Weighting
40%
Assessment type
Crynodol
Description
Gwaith cwrs 1
Weighting
30%