Modiwl WXC-3400:
Ymarfer Theatr Cyfoes
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Arts, Culture and Language
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 2
Trefnydd: Mrs Ffion Evans
Amcanion cyffredinol
Mae Ymarfer Theatr Cyfoes yn fodiwl sy'n archwilio crefft theatr ar lefel uwch. Trwy berfformio, cyfarwyddo a dramayddiaeth, anogir myfyrwyr i sefydlu cwmniau a chynhyrchu eu gwaith eu hunain i archwilio polisi artistig ar lwyfannau’r 21ain ganrif sy'n croesawu'r arbrofol. Caiff dealltwriaeth o brosesau ymchwil a datblygu a gwerthoedd cynhyrchu eu rhannu a'u hymarfer drwy drafodaeth a gwaith ymarferol. Bydd y modiwl yn edrych ar strategaethau creadigol, dulliau a materion damcaniaethol sy’n deillio o greu gwaith cyfoes.
Mae’r modiwl yn ystyried y berthynas rhwng perfformwyr â’r gynulleidfa ar lwyfannau’r 21ain ganrif, senograffiaeth, a thechnoleg mewn perfformiad yn ogystal â phenderfyniadau theatrig o ran llwyfannu a hyfforddiant perfformio.
Cynnwys cwrs
- Archwilio dulliau uwch crefft theatr i greu gwaith creadigol gwreiddiol.
- Cyflwyno ymchwil ddamcaniaethol ac ymarferol mewn Ymarfer Theatr Cyfoes.
- Datblygu deunydd ymchwil a datblygu yn ogystal â chynhyrchiad byr gan gwmni i werthuso ymarfer.
- Cynhelir y modiwl bob 2 flynedd gyda myfyrwyr o'r ail a'r drydedd flwyddyn o astudiaethau isradd yn gweithio gyda'i gilydd
Meini Prawf
ardderchog
Rhagorol (A- hyd A*):
• Gwybodaeth gynhwysfawr • Dealltwriaeth fanwl • Astudio cefndirol helaeth • Ymateb ysgrifenedig neu berfformiad sydd â chanolbwynt clir ac wedi’i strwythuro’n dda • Dadleuon wedi eu cyflwyno a’u hamddiffyn yn rhesymegol • Dim gwallau ffeithiol/cyfrifiannol a pherfformiad sy’n argyhoeddi • Dehongliad gwreiddiol • Datblygu cysylltiadau newydd rhwng pynciau • Sgiliau grŵp cryf • Cyflwyniad ardderchog gyda chyfathrebu manwl gywir
da
Da iawn/Da B- i B+
• Gwybodaeth gynhwysfawr • Dealltwriaeth fanwl • Astudio cefndirol: • Ymateb ysgrifenedig neu berfformiad sydd â chanolbwynt ac wedi’i strwythuro’n dda • Rhan fwyaf o’r dadleuon wedi eu cyflwyno a’u hamddiffyn yn rhesymegol • Ychydig neu ddim gwallau ffeithiol/cyfrifiannol a pherfformiad sy’n argyhoeddi • Rhywfaint o ddehongliad gwreiddiol • Datblygu cysylltiadau newydd rhwng pynciau • Sgiliau grŵp cryf • Cyflwyniad da iawn gyda chyfathrebu cywir
trothwy
Trothwy (D-, D, D+):
• Gwybodaeth am y prif feysydd/egwyddorion yn unig • Gwendidau yn y ddealltwriaeth o’r prif feysydd • Tystiolaeth gyfyngedig o astudio cefndirol • Perfformiad neu ymateb ysgrifenedig yn canolbwyntio’n wael ar y cwestiwn a chyda pheth deunydd amherthnasol a strwythur gwael • Cyflwynir dadleuon ond nid ydynt yn gydlynol • Sawl gwall ffeithiol/cyfrifiannol/perfformiad ddim yn argyhoeddi • Dim dehongli gwreiddiol • Dim ond y prif gysylltiadau rhwng pynciau a ddisgrifir • Sgiliau grŵp gwan • Llawer o wendidau mewn cyflwyno/perfformio a chywirdeb
C- i C+
Da / Boddhaol (C- i C +)
• Gwybodaeth am y prif feysydd/egwyddorion • Yn deall y prif feysydd • Tystiolaeth gyfyngedig o astudio cefndirol • Yr ymateb ysgrifenedig neu berfformiad yn canolbwyntio ar aseiniad ond hefyd gyda rhywfaint o ddeunydd amherthnasol a gwendidau yn y strwythur • Cyflwynir dadleuon ond nid ydynt yn gydlynol • Sawl gwall ffeithiol/cyfrifiannol/perfformiad ddim yn argyhoeddi ar y cyfan • Dim dehongli gwreiddiol • Dim ond y prif gysylltiadau rhwng pynciau a ddisgrifir • Datrys problemau cyfyngedig/gwaith tîm boddhaol • Rhai gwendidau mewn cyflwyno/perfformio a chywirdeb
Canlyniad dysgu
-
Wedi cymryd rhan weithredol a chreadigol iawn yn y broses o greu drama neu broject sy’n briodol ar gyfer cyd-destun ymarfer theatr cyfoes.
-
Wedi gallu adnabod a thrafod yn drylwyr y strategaethau damcaniaethol ac ymarferol sy’n amlwg ar hyn o bryd o fewn ymarfer theatr cyfoes.
-
Wedi gwneud ymchwiliad annibynnol digonol, ar sail ymchwil, i oleuo gwaith ysgrifenedig ac ymarferol.
-
Wedi cymryd rhan mewn cyfnod estynedig o archwilio ar sail ymarfer i gynorthwyo wrth greu perfformiad gwreiddiol ac wedi arwain ar sawl agwedd o’r broses.
-
Wedi deall a defnyddio’r sgiliau, dulliau gweithio a chamau gweithredu priodol sydd eu hangen wrth wneud gwaith perfformio.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Ymchwil a Datblygu Syniad Perfformiad | 20.00 | ||
Cynhyrchiad Cwmni | 50.00 | ||
Dadansoddi Ymarfer Theatr Cyfoes | 30.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Supervised time in studio/workshop | Cyfle i gael adborth ar ddatblygu gwaith ar y gweill. |
11 |
Seminar | Astudio sy'n canolbwyntio ar ymchwil i gefnogi gwybodaeth a dealltwriaeth ddamcaniaethol. |
8 |
External visit | Cyfle i ymweld â pherfformiadau byw yn ogystal â deunydd digidol ar-lein o waith cynhyrchu i gefnogi syniadau. |
11 |
Practical classes and workshops | Gweithdai wedi'u cynllunio'n benodol i gefnogi astudio theatr gyfoes |
22 |
Private study | Astudio annibynnol i ddarllen a dadansoddi deunydd ymchwil, datblygu syniadau creadigol a pharatoi ar gyfer asesiadau. |
137 |
Study group | Amser ymarfer a chynllunio mewn grwpiau ar gyfer gwaith cynhyrchu |
11 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Rhifedd - Medrusrwydd wrth ddefnyddio rhifau ar lefelau priodol o gywirdeb
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Ymwybyddiaeth o ddiogelwch - Bod yn ymwybodol o'ch amgylchedd a hyder o ran cadw at reoliadau iechyd a diogelwch
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Mentora - Gallu cefnogi, helpu, arwain, ysbrydoli ac/neu hyfforddi eraill
- Gofalu - Dangos consyrn am eraill; gofalu am blant, pobl ag anableddau ac/neu'r henoed
- Rheloaeth - Gallu defnyddio, cydlynu a rheoli adnoddau (dynol, ffisegol ac/neu ariannol)
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
- Arweinyddiaeth - Gallu arwain a rheoli, datblygu cynlluniau gweithredu ac amcanion, cynnig arweiniad a chyfarwyddyd i eraill, ac ymdopi â'r pwysau sy'n gysylltiedig ag awdurdod o'r fath
Sgiliau pwnc penodol
- Artistic engagement and ability to articulate complex ideas in oral and written forms. (NAWE Creative Writing Benchmark Statement 3.2).
- Ability to connect creative and critical ideas between and among forms, techniques and types of creative and critical praxis. (NAWE Creative Writing Benchmark Statement 3.2; English Benchmark Statement 3.2).
- Reflective practitioner skills, including awareness of the practice of others in collaborative learning (NAWE Creative Writing Benchmark Statement 3.2; English Benchmark Statement 3.2).
- The ability to synthesize information from various sources, choosing and applying appropriate concepts and methods (English Benchmark Statement 3.3).
- Ability to formulate and solve problems, anticipate and accommodate change, and work within contexts of ambiguity, uncertainty and unfamiliarity (NAWE Creative Writing Benchmark Statement 3.2; English Benchmark Statement 3.3).
- Ability to engage in processes of drafting and redrafting texts to achieve clarity of expression and an appropriate style. (English Benchmark Statement 3.3; NAWE Creative Writing Benchmark Statement 3.2).
- Ability to gather information, analyse, interpret and discuss different viewpoints (NAWE Creative Writing Benchmark Statement 3.2; English Benchmark Statement 3.3).
- Information technology (IT) skills broadly understood and the ability to access, work with and evaluate electronic resources (NAWE Creative Writing Benchmark Statement 3.2; English Benchmark Statement 3.3).
- Re-creative skills – interpretation, innovation, versatility, and other skills relating to performance
- Creative skills – conception, elaboration, adaptation, presentation, collaboration, preservation
- Intellectual skills specific to Music – contextual knowledge, cultural awareness, critical understanding, repertoire knowledge, curiosity, analytical demonstration
- Intellectual skills shared with other disciplines – research and exploration, reasoning and logic, understanding, critical judgement, assimilation and application
- Skills of communication and interaction – oral and written communication, public presentation, team-working and collaboration, awareness of professional protocols, sensitivity, ICT skills, etc.
- Skills of personal management – self-motivation, self-critical awareness, independence, entrepreneurship and employment skills, time management and reliability, organisation, etc.
- Enhanced powers of imagination and creativity (4.17)
Adnoddau
Goblygiadau o ran adnoddau ar gyfer myfyrwyr
Rhoddir gwybod i fyfyrwyr ymlaen llaw.
Rhestrau Darllen Bangor (Talis)
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/wxc-3400.htmlRhestr ddarllen
Bydd rhestr ddarllen yn cael ei chyflwyno cyn i'r modiwl ddechrau.