Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adolygiad Blynyddol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Rheolaeth a Llywodraethiant y Brifysgol
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adolygiad Blynyddol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Rheolaeth a Llywodraethiant y Brifysgol
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn
  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Darlithydd yn ennill gwobr genedlaethol am ymchwil i ffug lysoedd barn

Yng nghynhadledd flynyddol yr Association of Law Teachers, a gynhaliwyd yn gynharach y mis hwn ym Mhrifysgol Portsmouth, fe wnaeth Stephen Clear, Darlithydd yn y Gyfraith a Chydlynydd Ffug Lysoedd Barn Ysgol y Gyfraith Bangor, ennill gwobr bwysig Stan Marsh. Cipiodd Stephen y wobr am ei gyflwyniad poster gyda'r teitl: "Is This the Real Life, Is This Just Fantasy? Mooting, Employability and Expectations."Stephen yn derbyn ei wobr gan Robert Hiscocks, Trysorydd yr Association of Law TeachersStephen yn derbyn ei wobr gan Robert Hiscocks, Trysorydd yr Association of Law Teachers

Sefydlwyd yr Association of Law Teachers (ALT) 52 mlynedd yn ôl a bellach mae'n gymuned ryngwladol uchel ei pharch o academyddion, gweithwyr proffesiynol ac ymarferwyr sy'n ymwneud ag ymchwil ym maes addysg y gyfraith. Amcan y grŵp yw annog a dathlu rhagoriaeth ym maes dysgu'r gyfraith, a rhannu'r ddealltwriaeth honno i gynulleidfa ehangach a thrwy hynny wella ymarfer y gyfraith. 

Thema'r gynhadledd eleni oedd 'Foundations and Futures' a daeth academyddion ac ymarferwyr o Loegr, Cymru, Yr Alban, Iwerddon, Canada, Seland Newydd, Awstralia a Hong Kong ynghyd. Yn ystod y ddau ddiwrnod o ddigwyddiadau cyflwynodd llawer ohonynt bosteri a phapurau.

Cyflwynir Gwobr Stan Marsh am y papur gorau a'r poster gorau. Dyfarnwyd y wobr gyntaf i Stephen am ei boster ac fe'i canmolwyd am ei sylfaen bedagogaidd helaeth, ei ddylunio atyniadol, a'i ymdriniaeth â syniadau a negeseuon ymchwil. Bydd ei ddarganfyddiadau ynghylch disgwyliadau a phrofiadau israddedigion o gymryd rhan mewn ffug lysoedd mewn prifysgol - a sut mae hynny'n siapio eu dyheadau gyrfa - yn awr yn cael eu paratoi i'w cyhoeddi.

Cyflwynwyd ei wobr i Stephen ar fwrdd HMS Warrior (cyn long ryfel 40 gwn a yrrid gan stêm) gan Robert Hiscocks, Trysorydd y Gymdeithas a Phennaeth Sicrhau Ansawdd a Chydymffurfio Academaidd yn BPP Law School, Llundain. Ymysg y rhai a oedd yn bresennol yn y seremoni wobrwyo roedd un o fargyfreithwyr mwyaf adnabyddus y wlad ym maes 'camweinyddu  cyfiawnder', sef Michael Mansfield QC. Mae wedi gweithredu fel cwnsel i deulu Stephen Lawrence, teuluoedd Cwest Hillsborough, dioddefwyr Ymchwiliad Bloody Sunday, achosion McLibel a'r cwest i farwolaeth y Dywysoges Diana.

Yn ystod y gynhadledd, fe wnaeth Stephen hefyd gyflwyno papur gyda Dr Marie Parker, Darlithydd yn y Gyfraith, ar ddisgwyliadau myfyrwyr rhyngwladol a chartref wrth iddynt astudio'r gyfraith mewn prifysgol.  Fe wnaeth y papur yma 'Home v International Law Student Expectations: Understanding and Embracing Internationalisation within the Classroom to Facilitate Peer-to-Peer Learning’, hefyd gyrraedd y camau terfynol am y Wobr Papur Gorau ac fe'i canmolwyd gan y cynadleddwyr. 

Meddai'r Athro Dermot Cahill, Pennaeth Ysgol y Gyfraith Bangor:

"Mae'r wobr yma i Stephen ac i Ysgol y Gyfraith Bangor yn cydnabod y camau enfawr sydd wedi digwydd yn nhechnegau ffug lysoedd ac ymchwil i'r maes yma ym Mangor. Rydym wedi cynnal dwy rownd o'r Ffug Lys Ewropeaidd yn y gorffennol ac erbyn hyn mae gennym ystafell lys benodedig gyda'i chyfleusterau rhithwir i gynnal ffug lysoedd barn. Mae Stephen a'i gydweithwyr yn parhau i hyfforddi timau gyda llwyddiant cynyddol, yn ogystal ag astudio'r grefft o gymryd rhan mewn ffug lysoedd a chyfrannu at ddatblygiad personol ac academaidd y myfyrwyr dan sylw. 

"Wrth roi'r wobr hon i Stephen mae'r National Association of Law Teachers yn cydnabod ei ddoniau eithriadol ym maes ffug lysoedd ac mae'n dderbynnydd hynod deilwng o'r wobr eleni."

Wrth sôn am lwyddiant Stephen a Marie yn trafod ymchwil arloesol i addysgu yn y gynhadledd, ychwanegodd: 

"Mae'r fath gydnabyddiaeth i ddarlithwyr Bangor mewn cynulliad rhyngwladol mor bwysig o academyddion yn tystio i ansawdd uchel yr ymchwil i addysgu sy'n digwydd o fewn Ysgol y Gyfraith Bangor." 

Dyddiad cyhoeddi: 27 Ebrill 2017

Hafan

Ymchwil

  • Ysgol Ddoethurol
    • Hafan
    • Amdanom ni
    • Ariannu
    • Partneriaethau Hyfforddiant Doethurol
    • Goruchwylwyr Doethurol
    • Cysylltiadau ac Adnoddau
    • Ymgeiswyr Ymchwil Cyfredol a Staff
      • Hyfforddiant a Datblygiad
      • Cystadlaethau
    • Proffiliau Ymchwil a Fideos
    • Kess II
      • Ceisiadau Kess II
      • Ysgoloriaethau KESS II
      • Partneriaid KESS II
      • Cysylltiadau KESS II
    • Newyddion
    • Digwyddiadau
    • Cysylltu â Ni
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor