Efrydiaeth PhD wedi ei chyllido: Gweithrediadau Darbodus, Effeithlon a Chynaliadwy yn y Diwydiant Gofal Iechyd Diagnostig (dyddiad cau 12 Medi 2014)
Efrydiaeth PhD wedi ei Chyllido ar y Cyd gan Brifysgol Bangor/Siemens: Gweithrediadau Darbodus, Effeithlon a Chynaliadwy yn y Diwydiant Gofal Iechyd Diagnostig
Teitl y Project: Efrydiaeth PhD mewn Gweithrediadau Darbodus, Effeithlon a Chynaliadwy yn y Diwydiant Gofal Iechyd Diagnostig
Lleoliad: Ysgol Busnes Bangor / Siemens
Goruchwyliwr: Yr Athro K. I. Nikolopoulos DEng ΕΜΠ, ITP, P2P
Cyflog: Bydd y cyllid yn talu ffioedd DU, cydnabyddiaeth blynyddol ar raddfa RCUK (£13,863 ar hyn o bryd) a chostau ymchwil hyd at cyfanswm o £5,000.
Oriau: Llawn-amser
Contract: Contract/Dros Dro
Wedi'i leoli ar: 3 Medi 2014
Dyddiad cau: 12 Medi 2014 am 12yp
Dyddiad y Cyfweliad: 16 Medi 2014
Lleoliad: Prifysgol Bangor
Dyddiad cychwyn: 1 Hydref 2014
Gwahoddir ceisiadau am efrydiaeth PhD dair blynedd mewn ymchwil ddiwydiannol. Maes y PhD fydd Rheolaeth Weithredol ac Ymchwil Weithredol mewn amgylchedd cynhyrchu diagnosteg iechyd gofal. Mae'r efrydiaeth wedi'i chyllido gan y Coleg Busnes, y Gyfraith, Addysg a Gwyddorau Cymdeithas a 'Siemens Healthcare & Diagnostics' . Dyma'r project cydweithredol cyntaf o'i fath yn dilyn project sKTP llwyddiannus yn 2013. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio yn Forlab (Forecasting Think Tank) yn Ysgol Busnes Bangor ac yn Siemens DX, Llanberis, gan hefyd gyfarfod â gofynion Ysgol Fusnes Bangor o’i myfyrwyr PhD. Disgwylir y bydd yr amser a dreulir yn Siemens yn amrywio yn ystod y project ond bydd hyn tua 1 ½ - 2 diwrnod yr wythnos.
Fel project traws-ddisgyblaethol, mae'r efrydiaeth wedi'i datblygu er mwyn mynd i'r afael â phroblemau penodol yn y diwydiant diagnostig in-vitro. Y nod yw lleihau amrywioldeb a gwastraff, a thrwy hynny hyrwyddo effeithlonrwydd a chynorthwyo cadwyn gyflenwi rheolaeth a chynhyrchu cynaliadwy.
Trwy ddadansoddi data eang ac adolygu ymchwil ar draws Rheoli Gweithrediadau, bydd yr efrydiaeth yn canolbwyntio ar gynyddu effeithlonrwydd wrth reoli adnoddau a chynllunio cynnyrch. Disgwylir iddi gynyddu cynaliadwyedd diwydiannol drwy ddefnyddio Rheolaeth Gweithrediadau a Gwybodeg Busnes mewn ffyrdd newydd ac ymarferol.
Bydd y traethawd terfynol yn adolygu'r broses o ddefnyddio ymchwil arloesol i sicrhau rheolaeth effeithiol o adnoddau a gweithgynhyrchu darbodus. Disgwylir defnyddio dull amlddisgyblaethol i wneud cyfraniadau i ymchwil gan gynnwys amgylcheddau gweithgynhyrchu diagnostig.
Gofynion academaidd:
Rhaid i ymgeiswyr fod â gradd anrhydedd ddosbarth 1 neu 2(i), gyda gradd Meistr neu brofiad yn y diwydiant os yn bosib, gyda chefndir priodol mewn Busnes, Mathemateg, Ymchwil Gweithrediadau neu Wybodeg Busnes.
Sut i wneud cais:
Cyflwynwch yr isod at sylw Seimon Williams (s.j.wiliams@bangor.ac.uk) erbyn ganol dydd ar ddydd Gwener, 12 Medi 2014 os gwelwch yn dda:
- datganiad (tua 500 gair) am eich sgiliau ymchwil perthnasol (rhestr o’ch holl sgiliau perthnasol, profiad perthnasol, teitl a disgrifiad byr o’ch astudiaeth ôl-radd).
- Datganiad (500-1000 gair) am eich prif ddiddordeb ymchwil, ac o bosib disgrifiad o ymchwil a wnaed gennych yn y gorffennol. Nodwch yn eglur sut rydych yn credu y byddai’r diddordeb ymchwil hwn yn cyd-fynd â’r project ymchwil a chydag amgylchedd ymchwil Ysgol Busnes Bangor.
- CV llawn.
Ymholiadau i: Yr Athro Konstantinos Nikolopoulos
Dyddiad cyhoeddi: 4 Medi 2014