Gweithdy cyhoeddi gyda Cambridge University Press, dydd Llun 27 Tachwedd, 2-3pm
Ymunwch ag Emily Marchant (Rheolwr Gwasanaethau Awduron) a Linda Bree (Uwch Gyhoeddwr Gweithredol) o Cambridge University Press am weminar awr o hyd ar gyhoeddi llyfrau yn y celfyddydau a'r dyniaethau.
Byddant yn ymdrin â materion sylfaenol y broses gyhoeddi, yn ogystal â rhoi cynghorion ar sut i drafod â chyhoeddwr a sut i ysgrifennu cynnig cryf ar gyfer cyhoeddi llyfr. Bydd cyfle hefyd am gwestiynau a thrafodaeth.
Cyfle gwych i gael cyngor ac awgrymiadau ar gyhoeddi eich llyfr nesaf.
Ymunwch â'r weminar o'ch cyfrifiadur eich hun.
Cofrestrwch yma os oes gennych ddiddordeb. Dylech dderbyn linc wedyn y gellwch ei ddefnyddio i ymuno â'r weminar ddydd Llun 27 Tachwedd.
Cynhelir y weminar yn Saesneg.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag Beth Hall (b.hall@bangor.ac.uk)
Dyddiad cyhoeddi: 22 Tachwedd 2017