Myfyrwyr Gwaith Cymdeithasol yn mynychu cynhadledd ar dlodi plant

Bu myfyrwyr a staff MA Gwaith Cymdeithasol yn mynychu cynhadledd ar dlodi plant ym Mhrifysgol Caerdydd yn Ionawr 2016. Dyma eu hadroddiad.

Cynhaliwyd cynhadledd ar y thema ‘Tlodi Plant’ ym mis Ionawr ym Mhrifysgol Caerdydd. Derbyniwyd cefnogaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac fe fynychwyd y gynhadledd gan 11 o fyfyrwyr a staff o Fangor.

Yn ei sylwadau fel Cadeirydd dywedodd Malcolm John yn ôl yr ystadegau diweddaraf , ar waethaf ymdrechion Llywodraeth Cymru ac eraill dros nifer o flynyddoedd , mae tua 31% o blant yng Nghymru’n dal i fyw mewn tlodi. Dywedodd bod y sefyllfa yma’n annerbyniol ac felly roedd yn briodol fod y cynhadleddwyr yn ymgynnull i ystyried beth sy’n cyfrannu at dlodi plant, ei amrywiol effeithiau niweidiol ar fywydau ein plant , a beth yw’r dystiolaeth am bolisïau a gwasanaethau sy’n gwneud gwahaniaeth, a beth yn ychwanegol sydd angen ei wneud drwy gydweithio i oresgyn y broblem gymdeithasol sylweddol yma.

Yn ei gyflwyniad ar Anghydraddoldebau Lles Plant fe wnaeth Yr Athro Jonathan Scourfield drafod y diffiniad o anghydraddoldeb ac yna cyfleu nifer o’r canfyddiadau o brosiect ymchwil roedd yn cyfrannu iddo. Cyfeiriodd at ‘y gyfraith gofal gwrthdroi’ h.y. anghenion iechyd uwch/derbyn gwasanaethau iechyd gwaeth. Nododd bod yr ymchwil wedi canfod anghydraddoldebau mawr rhwng bod mewn gofal a byw mewn ardal amddifad. Cyfeiriodd bod yr ymchwil yn dangos bod yna gysylltiad rhwng anghydraddoldeb ac ethnigrwydd gyda phobl Asiaidd yn fwy tebygol o fyw mewn ardal ddifreintiedig. Ei  brif neges oedd na ddylid cymryd y cysylltiad rhwng lles plant ac anghydraddoldeb yn ganiataol. Bydd taclo tlodi yn lleihau niwed i blant.

Fe wnaeth Emyr Owen drafod ei ymchwil  am Blant Esgeulustod a Gwaith Cymdeithasol. Eglurodd ei fod yn gwneud ymchwil i ffyrdd mae gweithwyr proffesiynol yn asesu plant sydd wedi eu hesgeuluso. Hwn yw’r categori mwyaf o gam drin plant ym Mhrydain. Yn aml mae diffyg dealltwriaeth o’r broses asesu yn creu trafferthion. Mae yna lawer o ddeunydd a gwybodaeth ar gael sy’n gwneud cyswllt rhwng cam drin plant a thlodi. Eglurodd bod ei waith yn ceisio hwyluso gweithwyr i ddeall yn well beth yw profiad byw plant yn y categori yma , a thrwy hynny wneud eu hasesiadau ac ymyrraeth yn fwy effeithiol. Cyfeiriodd at y perygl o golli llais y plentyn a’r awyrgylch wrth asesu. Dywedodd fod y system camdriniaeth plant yn methu plant mewn tlodi am nad oes ‘trigger’ - un digwyddiad.

Thema cyflwyniad Siôn Jones oedd ‘Diffyg Uchelgais - uchelgeisiau pobl ifanc o ardal ddifreintiedig Cymoedd De Cymru. Yn ôl Sion  credir yn gynyddol gan lunwyr polisi mai diffyg uchelgais yw’r prif ffactorau sydd yn achosi i bobl ifanc sydd mewn tlodi tangyflawni yn yr ysgol ac i beidio cael y swyddi ‘gorau’ mewn cymdeithas. Fodd bynnag ar sail data o gyfweliadau ei ymchwil , dadleuodd Sion  mai rhwystrau ac nid diffyg uchelgais oedd yn atal plant o gefndiroedd tlawd rhag cyflawni mewn addysg a byd gwaith.

Yn ei gyflwyniad  fe wnaeth Mark Drakeford AC - Gweinidog Iechyd a Pholisi Cymdeithasol Llywodraeth Cymru drafod y cyd-destun a’r polisïau tlodi plant ers datganoli. Dywedodd mai’r prif reswm dros dlodi plant yw’r cynnydd mewn anghydraddoldeb ers 1945.Cyfeiriodd erbyn 1976 fod y bwlch rhwng y tlotaf a’r mwyaf cyfoethog wedi ei leihau - dyma uchafbwynt y wladwriaeth les. Ond roedd pethau wedi newid er gwaeth yn yr ugain mlynedd wedyn. Honodd ers datganoli fod yna bolisïau wedi eu cyflwyno sydd wedi llwyddo i atal effeithiau tlodi ar blant , ond ni lwyddwyd i droi’r llif yn ôl. Fe wnaeth sôn am ffyrdd y gall Llywodraeth Cymru wneud gwahaniaeth.

a)    Cyflwyno Deddf Llesiant Cenedlaethol- profi popeth yn erbyn nodau craidd y ddeddf e.e. Cymru fwy cyfartal.

b)    Sicrhau Cymru iachach

c)    Llywodraeth newydd i amddiffyn hawliau unigolion bregus

d)    Dylai Llywodraeth Cymru herio Llywodraeth San Steffan e.e. Credyd cynhwysol

Dywedodd bod angen dyblu ymdrechion i greu economi sgiliau uwch

Fe fu i Ann Parri Williams sôn am waith y Tîm o Gwmpas y Teulu yng Ngwynedd. Eglurwyd beth yw elfennau craidd y Tîm a sut mae’n rhan o Strategaeth Tlodi Plant Llywodraeth Cymru. Eglurwyd sut yr aed ati gyda staff Prifysgol Bangor i ddyfeisio ffordd o werthuso a oedd teuluoedd yn gwneud cynnydd wrth dderbyn gwasanaethau cefnogol, gwirfoddol i’w’ helpu i oresgyn eu problemau. Soniwyd bod y tîm yn trefnu nifer o wasanaethau e.e. Cadw Cownt, Cyrsiau Rhiantu, Gweithiwr Tadau, Cwnselydd Proffesiynol, cynllun benthyg ‘laptop’. Eglurodd Ann fod sensitifrwydd ieithyddol yn ganolog i waith y tîm. Roedd ymateb y defnyddwyr i wasanaeth y tîm yn bositif iawn - o’r gwaith ymchwil gyda 20  o deuluoedd fe fu i 16 ddweud ei bod wedi cael profiad positif.

Yn ei chyflwyniad dywedodd y Dr. Sian Wyn Siencyn fod gwleidyddiaeth tlodi yn mynd yn dra pheryglus  e.e. atal y newid yn y diffiniad o dlodi. Yn ôl Siân roedd tlodi yn golygu dwyn unrhyw rym oddi wrth berson a hefyd ei gobeithion. Soniodd Siân bod yna wahanol fathau o dlodi e.e. incwm , cyfranogi, tanwydd, gwasanaethau. Pwysleisiodd hefyd nodweddion penodol tlodi gwledig. Yn ôl Siân yr hyn sy’n bwysig yw sut mae tlodi yn effeithio ar blant a’i gobeithion hwy.

Fe wnaeth Comisiynydd Plant Cymru - Yr Athro Sally Holland  ddisgrifio ei rôl sef gwrando ar lais plant a hyrwyddo eu hawliau. Eglurodd ei bod yn poeni am blant sy’n byw mewn tlodi. Cyfeiriodd at y gwahanol erthyglau yng Nghonfensiwn Hawliau Plant y Cenhedloedd Unedig sy’n ymwneud a thlodi e.e. 3, 6, 27, 28, 31. Soniodd fod nifer uchel o blant yn byw mewn tlodi a bod modd i bolisi cymdeithasol wneud gwahaniaeth i lefelau tlodi. Dywedodd fod polisïau'r DG ar drethu a budd-daliadau wedi cael effaith negyddol ar blant a’u teuluoedd. Ar lefel leol dywedodd ei bod yn gefnogol i fesurau lleol megis Dechrau’n Deg - er gofynnodd beth am y plant tlawd hynny sydd ddim yn byw mewn ardal Dechrau’n Deg. Ar lefel Llywodraeth Cymru dywedodd bod yn rhaid gwneud asesiad o effaith pob polisi ar fywyd plant. Cyfeiriodd yn bositif at effaith y prosiect cerdd ‘Codi’r To ‘ yng Ngwynedd  - sy’n cynnig gwersi cerdd ddwys o ansawdd uchel i blant. Roedd hyn yn eu galluogi i ganolbwyntio i gael hyder ac yn enghraifft dda o gydlyniad cymdeithasol. Yn olaf dywedodd fod gan bob plentyn yr hawl i ddatblygu hyd eithaf ei gallu - mae hyn yn arbennig o wir am blant o gefndiroedd tlawd a chyfoethog.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Ebrill 2016