Ysgoloriaethau Ymchwil 2021/22
Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn eich gwahodd i gyflwyno ceisiadau am Ysgoloriaethau Ymchwil Cyfrwng Cymru y Coleg.
Un o nodau creiddiol y cynllun Ysgoloriaethau Ymchwil ers y cychwyn cyntaf oedd meithrin cenhedlaeth newydd o arbenigwyr academaidd oedd yn gallu trin a thrafod eu maes yn hyderus yn y Gymraeg. Mae’r buddsoddiad cyfalaf hwn wedi bod yn rhan o gynllun strategol bwriadus i ddatblygu gweithlu ar gyfer y sector Addysg Uwch a sicrhau bod ymgeiswyr cymwys ar gyfer swyddi academaidd sy’n codi yn sgil cynyddu ac ehangu darpariaeth addysgu cyfrwng Cymraeg yn y prifysgolion, ac i gynllunio ar gyfer dilyniant gweithlu.
Mae’r cynllun hefyd dros y blynyddoedd wedi cefnogi sawl prosiect sydd wedi bod o ddiddordeb i wneuthurwyr polisi cyhoeddus yng Nghymru. Croesewir ceisiadau sy’n ymchwilio i themâu sydd o ddiddordeb i’r rhai sy’n llunio polisi Llywodraeth Cymru.
Bydd y Coleg yn gobeithio dyfarnu hyd at 12 Ysgoloriaeth Ymchwil i gychwyn ym mlwyddyn academaidd 2020/21.
Ysgoloriaethau 50% am dair blynedd fydd y rhain fel arfer ac felly hanner cost yr ysgoloriaethau a fydd yn cael ei ddarparu gan y Coleg. Fodd bynnag, mae’r Coleg yn barod i gyllido hyd at 5 ysgoloriaeth yn llawn, ac felly gall bob Cangen enwebu UN cais i dderbyn 100% o’r cyllid oddi wrth y Coleg.
Caniateir i sefydliadau unigol gyflwyno hyd at bum cais i gyd, ond dim mwy nag uncais o’r un ysgol/adran academaidd. Os bydd eich sefydliad yn cyflwyno mwy nag un cais, dylech nodi’n glir pa un o’r ceisiadau (os o gwbl) sydd yn enwebiad Cangen am gyllido 100%. Gallwch hefyd rifo’r ceisiadau mewn trefn blaenoriaeth rhag ofn na chefnogid eich dewis cyntaf gan y panel.
Fel mewn blynyddoedd cynt, bydd y Coleg hefyd yn barod i gyllido rhagor o ysgoloriaethau 100%, ond bydd amodau ychwanegol ar gyfer rheiny gan gynnwys ymrwymiad gan y sefydliad i greu swydd addysgu neu ymchwil ôl-ddoethurol cyfrwng Cymraeg ar ddiwedd cyfnod yr ysgoloriaeth.
Ceir gwybodaeth lawn am y broses ymgesio yn ogystal ag amodau a thelerau’r cynllun yn yr atodiad.
Dylid cyflwyno ceisiadau erbyn hanner dydd ar 1 Chwefror 2021 drwy eu hanfon yn electronig i d.phillips@colegcymraeg.ac.uk
Dogfennau cysylltiedig:
Dyddiad cyhoeddi: 1 Rhagfyr 2020