Amdanom Ni
Mae'r Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol yn cynnig tri llwybr posibl:
Mae'r Ysgol wedi sefydlu enw da ym maes hyfforddi athrawon (BA Addysg a TAR Cynradd neu Uwchradd) ac mae'n parhau i addysgu myfyrwyr mewn cyrsiau gradd ac ôl-radd ar gyfer anghenion ysgolion drwy Brydain. Mae gan yr Ysgol bartneriaeth sydd wedi ei hen sefydlu rhwng y Brifysgol ac ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Gogledd Cymru sy'n cynnig amgylchedd hyfforddi llawn amrywiaeth a chefnogol.
Mae'r Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol yn cynnig cwrs arbennig arall o'r enw BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid. Mae'r radd ddynamig, amlddisgyblaethol hon yn cynnig cyfle i chi astudio ystod amrywiol o bynciau sy'n ymwneud â phrofiadau byw plant a phobl ifanc yn y gymdeithas gyfoes, gan eich cynorthwyo i ddilyn gyrfaoedd mewn amrywiaeth o feysydd gan gynnwys addysgu, gwaith cymdeithasol, cwnsela a’r gyfraith.
Mae'r cwrs BSc Dylunio Cynnyrch yn wahanol i unrhyw gwrs arall yn y Deyrnas Unedig gan ei fod yn gadael i chi deilwra eich profiadau wrth baratoi at ddod yn ysgogwr newid, yn arloeswr ac yn arweinydd. Byddwch yn datblygu sgiliau a fydd yn eich galluogi i ddod â chynhyrchion arloesol newydd i'r farchnad a gwneud bywyd yn well, yn haws ac yn fwy cynhyrchiol i gwsmeriaid sy'n gwerthfawrogi ffordd newydd o wneud pethau. Byddwch yn dysgu rheoli projectau masnachol yn broffesiynol, er mwyn caniatáu i gwmnïau fod yn fwy effeithiol, cystadleuol a pherthnasol yn y byd sydd ohoni. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau eich bod yn meithrin y sgiliau sydd eu hangen i wneud gwahaniaeth, a'ch helpu i roi ar waith y pethau hynny a fydd er lles pobl a'r blaned.
Dan arweiniad staff brwdfrydig y tri chwrs uchod, mae'r Ysgol yn darparu dewis eang o gyrsiau blaengar yn arwain at dystysgrifau a graddau anrhydedd Prifysgol Bangor ac amrediad o gymwysterau ôl-radd. Cewch ddilyn cyrsiau trwy'r Gymraeg neu'r Saesneg neu'n ddwyieithog. Yng nghyd-destun Ewrop mae'r arbenigrwydd ieithyddol sydd yma yn rhoi dimensiwn cyffrous i'n holl gyrsiau a cheir cyfleoedd niferus i fyfyrwyr ddatblygu cysylltiadau Ewropeaidd.
Yn ein holl ddysgu, pa bynnag gwrs yr ydych yn ei ddilyn, rydym yn cysylltu theori ag ymarfer yn y byd go iawn gan feithrin y sgiliau fydd arnoch eu hangen ar ol i chi raddio.
Yn rhoi cyfraniad arbennig i Gymru
Mae'r Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol yn cynnig awyrgylch cyfeillgar braf a bydd myfyrwyr o bob cwr ac o wahanol gefndiroedd yn ymgartrefu yma yn ein plith. Rydym yn cynnig cymdeithas fywiog a chyfoethog. Cewch yma amgylchedd waith a chymdeithasol bywiog a diddorol gydag adnoddau dihafal ar gyfer y cyrsiau gan gynnwys dosbarthiadau ffug a gweithdy dylunio cynnyrch.