Pwy
all gael Cerdyn Corfforaethol?
Unrhyw aelod
o'r staff sy'n cwrdd > 'r
gofynion canlynol:
Bod
> chontract cyflogaeth am o leiaf un flwyddyn
Bod
Pennaeth eich canolfan adnoddau yn cytuno
Bod
y Cwmni Cerdyn yn cytuno
Bod
y Cyfarwyddwr Cyllid yn cytuno
Eich bod yn
gwario o leiaf 250 ar y cerdyn bob blwyddyn
Beth
yw Cerdyn Corfforaethol?
Cerdyn
credyd VISA yw'r cerdyn corfforaethol a dim mwy na hynny. Gellir ei ddefnyddio
ar gyfer eich gwariant busnes yn y DU a thramor.
Gall eich helpu i gadw golwg ar eich gwariant busnes a golyga nad oes raid ichi ddefnyddio eich arian neu eich credyd eich hun i ddibenion y Brifysgol. Trefnir cynllun y Brifysgol gan yr HSBC (Banc Midland gynt).
Sut
mae'n gweithio?
Unwaith
y byddwch wedi cael eich cerdyn corfforaethol gellir ei ddefnyddio i dalu
am eich costau busnes.
Anfonir adroddiad banc atoch bob mis yn eich cyfeiriad cartref a byddwch yn talu hwn yn llawn naill ai trwy siec neu drwy Ddebyd Uniongyrchol cyn y dyddiad ar yr adroddiad (tua 20 niwrnod o'r dyddiad ar adroddiad y cerdyn).
Dylech adhawlio'r costau busnes yn y modd arferol trwy gyflwyno ffurflen hawlio costau gyda derbynebau i'w cefnogi, neu fe ellir defnyddio adroddiad y cerdyn corfforaethol ei hun (nid copi ohono) i gefnogi hawlio'r costau.
Sut
mae gwneud cais am gerdyn corfforaethol?
Dylid
anfon cais am ffurflen gais i gael cerdyn i
Adran Daliadau'r Swyddfa'r Gyllid naill ai drwy ffonio estyniad 2050 neu
drwy e-bost fos001@bangor.ac.uk.
Ar ^ l i chi gael y ffurflen gais llenwch hi'n llawn, gyda llofnod Pennaeth eich canolfan gost i'w chymeradwyo, a'i dychwelyd i'r Swyddfa Gyllid.
Pan fydd y Cwmni Cerdyn yn cymeradwyo'r cais anfonir y cerdyn newydd ymlaen i'r Swyddfa Gyllid. Cewch wybod pan fydd wedi cyrraedd.
Bydd yn rhaid i chi fynd i n^ l y cerdyn yn bersonol o Ddesg yr Ariannydd (cashier) yn y Swyddfa Gyllid. Dowch > rhyw brawf o bwy ydych gyda chi sy'n cynnwys llofnod, megis trwydded yrru neu Gerdyn Llyfrgell PCB. Bydd gofyn ichi lofnodi'r cerdyn a'r dderbynneb yng ngë ydd yr Ariannydd.
A
oes cyfyngiad credyd ar y cerdyn corfforaethol?
Mae
cyfyngiad cychwynnol o 500 ar y cerdyn, ond os oes angen ffin uwch na
hyn gellir trefnu hynny naill ai dros dro neu'n barhaol drwy'r Adran Daliadau,
est. 2050, e-bost fos001@bangor.ac.uk
A
oes unrhyw beth na ddylwn ddefnyddio'r cerdyn ar ei gyfer?
Rhaid
defnyddio'r cerdyn ar gyfer costau busnes yn unig a'r rheolau ynglí
n > hawlio costau sy'n penderfynu faint a delir yn ^ l i chi gan
y Brifysgol.
Ni ddylid defnyddio'r cerdyn i gael arian parod.
Ni fydd y Brifysgol yn ad-dalu i chi unrhyw gostau llog na chostau talu'n hwyr.
A
oes Ffi Flynyddol am y Cerdyn?
Mae'n
rhaid talu ffi flynyddol o 5 am y cerdyn, ond gellwch drin hon fel cost
i'r Brifysgol cyn belled > bod gennych gyfrif priodol i gwrdd >
'r gost.
Beth
pe bawn yn colli'r cerdyn?
Dylid
rhoi gwybod i'r gwasanaeth cerdyn ar unwaith ar 0900 400500. Fe fyddant
hwy'n rhoi cyfarwyddyd a chymorth pellach i chi, gan gynnwys trefnu i
chi gael cerdyn newydd.
Beth
pe bai fy amgylchiadau yn newid?
Rhowch
wybod i'r Adran Daliadau cyn gynted ag y bo modd am newidiadau yn eich
cyfeiriad ac ati.
Os yw eich contract cyflogaeth yn dod i ben yna mae'n rhaid i chi dorri'r cerdyn yn ddarnau a'i ddychwelyd i'r Adran Daliadau. Byddant hwy'n cau'r cyfrif ond byddwch chi'n dal i fod yn gyfrifol am glirio unrhyw weddill sydd ar ^ l yn y cyfrif.
Beth
pe bai gennyf ragor o gwestiynau?
Cysylltwch
ag Adran Daliadau'r Swyddfa Gyllid ar est. 2050 neu drwy e-bost fos001@bangor.ac.uk
|